Bod yn Ddewr yn eich Ysgrifennu

Llu 7 Medi 2026 - Gwe 11 Medi 2026
Tiwtoriaid / Cynan Jones & James Scudamore
Darllenydd Gwadd / Eimear McBride (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Gyda chymaint o gyngor ar ysgrifennu ar gael, sut mae cau’r sŵn allan ac aros yn driw i’ch stori chi? Mae uchelgais o ysgrifennu rhywbeth gwreiddiol yn un peth, ond sut mae magu digon o ddewrder i wneud hynny? Sut ar y ddaear mae nabod eich llais eich hun? A sut mae gwybod pryd i ddefnyddio rheswm, a phryd i ymddiried yn eich greddf?

Dan arweiniad yr awduron ffuglen llwyddiannus James Scudamore a Cynan Jones, bydd y cwrs yma’n eich helpu i fod yn ddewr ac i wrando ar y gwaith ei hun. Bydd yn rhoi hyder i chi ymrwymo i arbrofi a chymryd risgiau, a’r persbectif i asesu oes digon o hygrededd yn eich geiriau i gario’r dewisiadau rydych chi am eu gwneud. Os ydych chi’n tybio bod angen i’ch stori chi dorri ei chwys ei hun, a’ch bod yn barod i wneud y gwaith sydd ei angen er mwyn cyflawni hynny, ymunwch â ni am wythnos fydd yn rhoi digon o blwc i chi!

Tiwtoriaid

Cynan Jones

Awdur ffuglen llwyddiannus o arfordir y gorllewin ydy Cynan Jones. Mae ei waith wedi ymddangos mewn dros ugain o wledydd, ac mewn cyfnodolion a chylchgronau gan gynnwys Granta, Freeman's a’r New Yorker. Ysgrifennodd sgript ffilm ar gyfer y ddrama drosedd boblogaidd Y Gwyll, mae wedi ysgrifennu casgliad o straeon i blant, a sawl stori ar gyfer Radio’r BBC. Mae wedi bod ar restr hir a rhestr fer nifer o wobrau, ac wedi ennill, ymhlith gwobrau eraill, Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Datgelu Ffuglen Jerwood, a Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC. Ei gyhoeddiad diweddaraf ydy Pulse (Llyfrau Granta, 2025), sef casgliad o chwe stori. www.cynanjones.net

 

James Scudamore

James Scudamore ydy awdur y nofelau English Monsters (Jonathan Cape, 2020), Wreaking (Harvill Secker, 2013), Heliopolis (Vintage, 2009) a The Amnesia Clinic (Vintage, 2007). Mae wedi ennill Gwobr Somerset Maugham ac wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Costa, Gwobr Awduron y Gymanwlad, Gwobr Dylan Thomas a Gwobr Booker.

Darllenydd Gwadd

Eimear McBride (Digidol)

Mae Eimear McBride yn awdur pedair nofel: A Girl is a Half-formed Thing (Galley Beggar Press, 2013), The Lesser Bohemians (Faber and Faber, 2016), Strange Hotel (Faber and Faber, 2020) a The City Changes Its Face (Faber and Faber, 2025). Hi oedd deiliad y Gymrodoriaeth Greadigol gyntaf yng Nghanolfan Ymchwil Beckett Prifysgol Reading ac mae wedi ennill Gwobr Ffuglen y Menywod, Gwobr Goldsmiths, Gwobr Goffa Geoffrey Faber, Gwobr Kerry, a Gwobr Goffa James Tait Black. Yn 2018 cafodd ei henwi yn un o'r deg awdur gorau sy’n gweithio yn Saesneg gan y Times Literary Supplement. Mae’n dod o orllewin Iwerddon ac mae’n byw yn Llundain.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811