Creu ffuglen o chwedloniaeth: Ail-adrodd, ail-ddychmygu, ail-ddyfeisio

Llu 21 Medi 2026 - Gwe 25 Medi 2026
Tiwtoriaid / Claire North & Laura Shepperson
Darllenydd Gwadd / Jennifer Saint (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Beth ydy ail-adrodd chwedloniaeth? Ble mae tynnu’r llinell?

Mae’r cwrs yma’n archwilio’r gelfyddyd o greu ffuglen o chwedloniaeth—boed hynny drwy ail-adrodd chwedlau sefydledig, dod o hyd i straeon newydd wedi’u cuddio yn y bylchau, neu ddefnyddio chwedlau fel is-gerrynt cynnil mewn naratifau cwbl wreiddiol. Byddwn yn archwilio sut mae awduron yn cydbwyso parch at y deunydd gwreiddiol gyda’r drwydded greadigol i’w ail-fframio, ei foderneiddio neu ei wyrdroi. Oes yna ganon? Oes yna linellau na ddylen ni eu croesi—neu ydy chwedloniaeth, yn ei hanfod, yn ein gwahodd i ail-ddehongli?

Erbyn diwedd y cwrs, bydd yr offer gennych i nodi ble gall chwedloniaeth wasanaethu eich straeon—p’un a ydych chi’n ysgrifennu ail-ddehongliadau uniongyrchol neu’n tynnu ar strwythur chwedloniaeth, symbolaeth neu archdeip. Mae angen mwy nag ail-adrodd chwedloniaeth—mae angen ei chynnwys mewn trafodaeth, ei hail-lunio a’i chario ymlaen.

Tiwtoriaid

Claire North

Claire North yw ffugenw Catherine Webb; cyhoeddwyd eu gwaith am y tro cyntaf pan oeddent yn 14 oed. Eu llyfr cyntaf, a gyhoeddwyd o dan y ffugenw Claire North oedd The First Fifteen Lives of Harry August (Orbit Books, 2014), a ddaeth yn un o’r gwerthwyr gorau drwy lafar gwlad ac a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arthur C. Clarke. Mae eu nofelau dilynol yn cynnwys The Sudden Appearance of Hope (Orbit Books, 2016) a enillodd Wobr Ffantasi’r Byd am y Nofel Orau yn 2017, a The End of the Day (Orbit Books, 2017) a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times / Peters Fraser a Dunlop yn 2017. Dechreuodd eu trioleg ddiweddaraf am Penelope, gwraig Odysseus, gydag Ithaca (Orbit Books 2023) – a enwyd yn Llyfr Ffuglen y Flwyddyn y Sunday Times. Ar hyn o bryd mae Catherine hefyd yn gweithio fel dylunydd goleuo ym maes cerddoriaeth fyw ac mae'n hoff o ddinasoedd mawr, hud trefol, bwyd Thai a chadw golwg am graffiti. Maen nhw'n byw yn Llundain.

Laura Shepperson

Mae Laura Shepperson wedi bod â diddordeb mewn chwedloniaeth ac ail-adrodd chwedloniaeth erioed. Mae ei nofel ddiweddaraf, The Heir of Venus (Alcove Press, 2024), yn adrodd hanes Aeneas, yr arwr o Droea, drwy lygaid ei dair gwraig. Bu ei nofel gyntaf, The Heroines (Alcove Press, 2023) ar restr gwerthwyr gorau’r Sunday Times; cafodd ei chyhoeddi yng ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau (dan y teitl Phaedra) ac yn yr Eidal, Sbaen a Rwsia. Yn 2017 cafodd Laura ei chynnwys ar restr fer Gwobr Lucy Cavendish am Ffuglen. Mae ganddi radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caergrawnt. Mae'n byw y tu allan i Lundain gyda'i gŵr a'u dau o blant. @LauraShepperson

Darllenydd Gwadd

Jennifer Saint (Digidol)

Tyfodd Jennifer Saint i fyny yn darllen mytholeg Groegaidd ac ers erioed mae hi wedi cael ei denu at y straeon wedi'u cuddio o fewn y chwedlau. Ar ôl tair blynedd ar ddeg fel athrawes Saesneg ysgol uwchradd, ysgrifennodd Ariadne (Wildfire, 2021) sy'n adrodd chwedl Theseus a'r Minotaur o safbwynt Ariadne - y fenyw a gychwynnodd y cwbl. Roedd Ariadne ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Waterstones yn 2021 ac roedd yn Lyfr y Mis Waterstones, yn ogystal â bod yn werthwr gorau'r Sunday Times. Mae Jennifer Saint bellach yn awdur llawn amser, yn byw yn Swydd Efrog, Lloegr, gyda'i gŵr a'i dau o blant. Hi yw Llywydd Cangen Leeds a'r Cylch o'r Gymdeithas Glasurol. Mae pob un o'i phedair nofel wedi bod yn werthwyr gorau'r Sunday Times, gydag Elektra (Wildfire, 2023) ac Atalanta (Wildfire, 2024) yn taro'r lle rhif un nodedig.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811