Cwrdd â’r Asiant (Encil)

Llu 27 Ebrill 2026 - Gwe 1 Mai 2026
Tiwtor / Cathryn Summerhayes
Darllenydd Gwadd / Deborah Kay Davies
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Dyma encil wythnos sydd wedi’i gynllunio’n ofalus ar gyfer awduron sy’n chwilio am dipyn o ysbrydoliaeth greadigol ac ysgogiad proffesiynol. P’un a ydych chi’n chwilio am gynrychiolydd am y tro cyntaf, yn gweithio i derfyn amser tynn, neu’n teimlo bod angen cymorth golygyddol arnoch, bydd yr encil yma’n eich helpu i gyrraedd lle bynnag mae angen i chi fod.

Yng nghwmni’r asiant llenyddol llwyddiannus a phrofiadol, Cathryn Summerhayes (Curtis Brown), cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai grŵp bywiog ac addysgiadol a thiwtorialau un-i-un, ac i ffurfio cymuned o gyfeillion sy’n awduron. Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ar olygu eich gwaith eich hun, datblygiad proffesiynol, awgrymiadau ar ddenu asiant, tynnu’r dirgelwch o’r broses gyhoeddi, a mwy. Bydd eich asiant preswyl, sydd â phrofiad o gefnogi awduron ar draws amrywiaeth o genres, hefyd yn eich gwahodd i anfon eich pecyn o waith ymlaen llaw a bydd yn cynnig adborth penodol arno.

Mae encilion Tŷ Newydd, sy’n cynnwys prydau bwyd, hefyd yn rhoi amser a lle i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio. Rydyn ni mewn llecyn heddychlon yn ardal odidog Dwyfor yn y gogledd orllewin, lle gallwch adael i’r golygfeydd syfrdanol dros Fae Ceredigion eich ysbrydoli, rhannu syniadau dros swper, neu swatio ac ymlacio yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd.

 

  • Cyfle i ddysgu gan Cathryn Summerhayes, asiant llenyddol
  • Awgrymiadau angenrheidiol; o sut i ddenu asiant i olygu eich gwaith eich hun.
  • Adborth penodol i chi gan rywun proffesiynol a phrofiadol.

Tiwtor

Cathryn Summerhayes

Mae Cathryn Summerhayes yn asiant llenyddol gyda Curtis Brown. Cyn hynny bu’n gweithio yn WME, lle llwyddodd i sicrhau rhestr amrywiol o gleientiaid proffil uchel gan gynnwys yr awduron nofelau cyffro trosedd sydd wedi gwerthu miliynau o gopïau Chris Whitaker a Lucy Foley, Dr Adam Kay sy’n adnabyddus am This is Going to Hurt (Picador, 2018), Anita Rani, Lisa Howells, Nicci Cloke, Shappi Khorsandi, Ella Mills (Deliciously Ella), Mark Watson, Naomi Wood, Lucy Rose, Kirsty Logan, Susan Fletcher, Viv Groskop, Tiffany Murray, artist llyfrau lliwio mwyaf poblogaidd y byd, Johanna Basford, Grace Dent, Syr Ranulph Fiennes, a llawer mwy. Mae Cathryn hefyd yn gweithio gydag awduron adnabyddus yn yr Unol Daleithiau, fel Lisa Taddeo, Jennifer Coolidge ac Ashley Flowers drwy'r asiantaethau partner UTA a CAA. Enwyd Cathryn yn Asiant Llenyddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain 2019. Mae ar Bwyllgor The Book Society ac mae’n gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru a Gŵyl y Gelli, ac yn ei bywyd blaenorol ym maes digwyddiadau a chysylltiadau cyhoeddus, bu’n gweithio ar wobrau proffil uchel fel Gwobr Booker.

Darllenydd Gwadd

Deborah Kay Davies

Graddiodd Deborah Kay Davies o Brifysgol Caerdydd ac mae hefyd wedi dysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Casgliad o gerddi oedd ei llyfr cyntaf, Things I Think You Don’t Know (Parthian, 2006). Wedi hynny cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Grace, Tamar a Laszlo the Beautiful (Parthian, 2008), a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2009. Cyfieithwyd y casgliad i'r Sbaeneg yn 2011, ac mae nifer o'r straeon wedi ar eu darlledu ar BBC Radio 4. Enillodd ei nofel gyntaf, True Things About Me Canongate Books, 2010), gydnabyddiaeth iddi fel un o’r nofelwyr newydd gorau yng ngwledydd Prydain ar raglen deledu’r BBC The Culture Show. Pan gyhoeddodd Faber and Faber y nofel yn yr Unol Daleithiau yn 2011, nododd yr awdur Lionel Shriver mai hwn, iddi hi, oedd Llyfr y Flwyddyn. Ers hynny mae'r nofel wedi'i chyfieithu i bum iaith ac wedi'i haddasu'n ffilm nodwedd o'r enw True Things a ryddhawyd gan y BBC yn 2022, gyda Ruth Wilson a Tom Burke yn serennu. Cyrhaeddodd ail nofel Deborah, Reasons She Goes to the Woods (Oneworld, 2014), y rhestr fer ar gyfer Gwobr Encore a'r rhestr hir ar gyfer Gwobr  Women’s Prize for Fiction.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811