Cwrs ar Ynys Enlli

Sad 16 Mai 2026 - Sad 23 Mai 2026
Tiwtor / Elinor Gwynn
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / FfeithiolNatur
Iaith / Dwyieithog

Cynhelir y cwrs hwn mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

 

PWYSIG! Noder: nid yng Nghanolfan Tŷ Newydd fydd y cwrs hwn, ond yn hytrach draw ar Ynys Enlli.

 

Ydych chi awydd rhoi cynnig ar ysgrifennu am fyd natur a’r amgylchedd, a gwneud hynny mewn lleoliad unigryw sy’n llawn ysbrydoliaeth a phrofiadau cofiadwy?

Ym mis Mai 2026 bydd Canolfan Tŷ Newydd yn hel ei phac ac ym mentro dros y Swnt i ymweld ag Ynys Enlli ar gyfer cwrs arbennig dan ofal yr awdur a’r ecolegydd, Elinor Gwynn. Cawn gwmni nifer o arbenigwyr natur a gwestion eraill yn ystod yr wythnos i’ch helpu chi ddod i adnabod yr ynys hudolus hon, a darganfod ffyrdd o ysgrifennu am y llecyn hynod hwn. Bydd manylion ac amserlen lawn yn dilyn, ond dyma flas i chi:

Ar y cwrs hwn, byddwch yn rhannu tŷ gyda’ch cyd-gyfranogwyr am yr wythnos ac yn mwynhau sgyrsiau a gweithdai wedi eu hysbrydoli gan fyd natur. Yn ogystal â gweithgareddau wedi eu trefnu ymlaen llaw fel rhan o’r cwrs, byddwn yn cydweithio gydag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli i ganfod cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn digwyddiadau eraill ar hyd a lled yr ynys yn ystod yr wythnos. Ond yn aml iawn ar Ynys Enlli, y profiadau a’r cyfarfyddiadau annisgwyl a phersonol sy’n tanio’r dychymyg ac yn ysgogi’r creu. Bydd digon o amser rhydd yn cael ei neilltuo yn amserlen y cwrs i chi fwynhau eich hamdden ar yr ynys ac i ddarganfod golygfeydd a llecynnau arbennig i chi.

Byddwn yn craffu ar fywyd gwyllt yr ynys a’i glannau, y môr a’r creigiau, a rhywfaint o hanes y bobl a’r gymdeithas sydd wedi gwneud Enlli yn lle mor unigryw. Erbyn diwedd yr wythnos byddwch wedi dod yn hen gyfarwydd gyda’r holl lwybrau sy’n eich tywys dros y mynydd eithinog, drwy’r caeau llaith ac o gylch y baeau a’r clogwyni isel a fydd yn llawn blodau gwyllt a sŵn adar ym mis Mai.

Ar hyd yr wythnos cewch gyfle i drin geiriau a datblygu darnau o waith ysgrifenedig mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol, er mwyn i chi ddarganfod pa fath o ‘sgwennu natur sy’n apelio atoch chi a chael eich ysbrydoli i gario ymlaen ar ôl dychwelyd i’r tir mawr.

Gyda chefndir mewn gwyddoniaeth a chyfraith amgylcheddol mae gan Elinor Gwynn brofiad helaeth o weithio ym maes yr amgylchedd a thirweddau, treftadaeth a chynaliadwyedd. Mae hi wedi gweithio mewn sawl rôl i gyrff gwahanol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae hi hefyd yn gweithio yn llawrydd mewn meysydd amrywiol, o ysgrifennu a chyfieithu creadigol i roi cyngor ar gynlluniau grant treftadaeth. Yn ddiweddar bu’n astudio’r berthynas rhwng iaith a’r amgylchedd, fel rhan o’i hymchwil ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn paratoi cais llwyddiannus Aberystwyth a Cheredigion i fod yn un o Ddinasoedd Llenyddiaeth newydd UNESCO.

 

Gwybodaeth Ymarferol:

Trafnidiaeth

Bydd y cwch i Ynys Enlli yn gadael o Borth Meudwy (LL53 8DA) fore Sadwrn 16 Mai 2026 (amser i’w gadarnhau), ac yn dychwelyd wythnos yn ddiweddarach – gyda’r cwch yn gadael Ynys Enlli ar fore Sadwrn 23 Mai. Mae pris y daith ar y cwch yn gynwysedig ym mhris y cwrs. Byddwn yn cadarnhau union amser gadael y cwch yn nes at yr amser, yn dilyn gwybodaeth bellach gan Gapten y cwch / ac yn ôl amgylchiadau’r tywydd. Mae’r daith cwch yn para tua 20 munud. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion ynglŷn â man cwrdd a threfniadau’r cwch maes o law.

 

Llety

Bydd hyd at 17 ohonoch yn rhannu cyfuniad o dri tŷ (Plas Bach, Nant a Hendy) am yr wythnos. Gallwch ddewis pa fath o ystafell yr hoffech chi ei archebu, yn dibynnu ar argaeledd. Gallwch ddod â phartner neu ffrind, a rhannu ystafell; neu dalu ychydig mwy i gael ystafell i chi eich hun. Mae pris y llety yn gynwysedig ym mhris y cwrs.

Nodwch os gwelwch yn dda mai cyfleusterau syml iawn sydd ar Enlli, mae hynny’n rhan o’i hud. Nid oes trydan yn y tai ac fe ddefnyddir lampau amrywiol i’w goleuo. Oherwydd rheoliadau iechyd a diogelwch, ni chaniateir defnyddio canhwyllau. Byddai’n syniad i chi ddod â thortshis pen gyda chi, neu fflachlampau eraill.

Er nad ydynt yn foethus, mae’r tai wedi eu dodrefnu’n gyfforddus. Pob un a’i stafelloedd gwely amrywiol, a chegin fyw. Yn y gegin mae popty nwy, oergell/rhewgell, ac offer arlwyo digonol. Mae llestri, hylif golchi llestri, papur toiled ac offer glanhau tŷ wedi eu darparu.

 

Toiledau a Chyfleusterau Ymolchi

Nid oes ystafelloedd ymolchi yn y tai. Lleolir toiled compostio y tu allan i bob tŷ, yn yr ardd ran amlaf. Nodwch mai eich cyfrifoldeb chi yw gwagio eich bwced toiled eich hunain. Mae safle gwaredu ar gyfer pob tŷ. Bydd y toiled hwn yn cael ei rannu gan yr holl breswylwyr sydd yn y tŷ.

Nid oes yna gawod na chyfleusterau ymolchi traddodiadol ar yr ynys. Mae powlen a jwg ym mhob ystafell wely, a bydd modd berwi dŵr i ymolchi. Dylech ddod â thywel ar gyfer dibenion ymolchi.

 

Gwres

Lleolir stôf aml-danwydd yn ystafell fyw’r tai. Os ydych yn dymuno’i thanio bydd cyflenwad o danwydd wedi ei leoli yn y tŷ i chi. Er mai ym mis Mai y byddwn yn ymweld, a’r gobaith yw y bydd y tywydd yn ffafriol, dylech ddod â dillad cynnes ar gyfer y gyda’r nosau, gan nad oes gwres yn yr ystafelloedd gwely.

 

Glanhau ac Ysbwriel

Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn gweithredu polisi hunanlanhau yn y tai, hynny yw, nid ydynt yn codi tâl am lanhau, ond yn gofyn i’r holl westeion adael y tŷ mewn cyflwr glân a thaclus yn barod ar gyfer y gwesteion nesaf.

Maent hefyd yn gofyn i westeion fynd â’u holl sbwriel a’u heitemau i’w hailgylchu yn ôl gyda nhw. Gosodir biniau ailgylchu wrth y fynedfa i fferm Cwrt ar y tir mawr.

 

Dŵr / Dŵr yfed

Mae gan bob tŷ gyflenwad o ddŵr oer o ffynnon. Dylech fod yn ymwybodol bod dŵr yn brin ar Enlli a rhaid ei ddefnyddio’n ofalus ac yn gynnil. Mae dŵr y ffynnon ar gyfer yfed a choginio yn unig.

 

Bwyd a Diod

Bydd eich prydau bwyd yn cael eu darparu i chi ar yr ynys. Byddwn yn gofyn yn garedig i chi helpu gyda’r paratoi a’r llestri. Bydd brecwast, cinio syml a swper yn gynwysedig ym mhris y cwrs. Gallwn ddarparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion gwahanol, ond gofynnwn i chi roi gwybod i ni wrth archebu, os gwelwch yn dda, fel bod modd paratoi yn drylwyr ar eich cyfer. Byddwn yn argymell dod â byrbrydau a diod gyda chi, ac yn eich atgoffa nad oes siop fwyd ar yr ynys, dim ond beth sydd ar werth yn y fferm. Mae yna gaffi sydd yn darparu prydau, a chacennau, yn ogystal â chyflenwad o alcohol ar werth ar yr ynys. Dim ond gydag arian parod y mae modd talu am y rhain, felly gofalwch ddod ag arian parod gyda chi.

 

Cwestiynau Cyffredin

 

Beth ddylwn i bacio?

Dylech gludo cyn lleied â phosib o fagiau, os gwelwch yn dda, gan nad oes cymaint â hynny o le yn y cwch. Gofynnir i chi bacio pob dim mewn parseli bach sy’n hawdd eu trin a sicrhau eu bod wedi eu selio ac yn dal dŵr (cynwysyddion neu lapio mewn plastig) ac wedi eu pacio’n dda. Dylech nodi enw’r tŷ lle byddwch yn aros yn glir ar bob darn o eiddo. Fe all bagiau heb label enw gael eu dal yn ôl neu fynd ar goll.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â’r canlynol ar gyfer eich wythnos:

  • Dillad gwely (maint addas i’r ystafell yr ydych wedi ei dewis). Mae’r tai yn cynnwys duvet a gobennydd, ac ambell blanced glyd
  • Towel er mwyn ymolchi
  • Esgidiau a dillad ar gyfer pob tywydd
  • Pyjamas cynnes, gan nad oes gwres yn yr ystafelloedd gwely
  • Llieiniau ac offer ymolchi
  • Fflachlamp dda a batris sbâr – ni chaniateir defnyddio canhwyllau
  • Bacpac syml ar gyfer crwydro’r ynys
  • Potel i gario dŵr wrth grwydro
  • Sbectol Haul
  • Eli Haul
  • Het haul
  • Deunydd ar gyfer ysgrifennu (llyfrynnau, penseli, beiros ac yn y blaen)
  • Meddyginiaeth – os ydych yn defnyddio unrhyw feddyginiaeth, dylech sicrhau eich bod yn dod â chyflenwad ychwanegol i barhau am o leiaf wythnos arall.
  • Pwysig – Paciwch eich bagiau mewn bocsys a bagiau bychain, wedi eu selio.

 

Ddylwn i ddod ag unrhyw offer ychwanegol efo fi?

Yn naturiol, mae pen draw i faint o fagiau y gellir eu cludo ar y cwch. Fodd bynnag, fe all y canlynol ychwanegu at eich profiad yn Enlli:

  • Ysbienddrych
  • Deunyddiau celf
  • Gwialen bysgota / abwyd
  • Offerynnau cerddorol (heb fod yn rhy fawr!)
  • Camera a batris sbâr – ni chaniateir ffotograffiaeth fasnachol heb ganiatâd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.
  • Ffôn symudol – Dylech fod yn ymwybodol nad oes fawr o signal ffôn ar Enlli. Weithiau fe gewch signal ffôn symudol o Iwerddon all fod yn ddrud. Cewch signal ffôn 4G EE (y gorau) a Vodafone mewn rhai mannau ar yr ynys. Cofiwch nad oes trydan i ailwefrio eich ffôn symudol ar yr ynys.
  • Gwefrydd batri solar ar gyfer ffôn symudol neu dablet.

 

Ga i fynd i nofio?

Nid yw Ymddiriedolaeth Ynys Enlli na Thŷ Newydd yn cynghori pobl i hwylio, hwylio mewn caiac na nofio o gwmpas arfordir Enlli gan fod yr adlif yn gryf a peryglus. Mae unrhyw un o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal ar eich menter eich hun.

 

Beth sydd ar werth yn Fferm a Chaffi Tŷ Pellaf? 

Mae’r caffi, sy’n cael ei redeg gan y teulu Roberts, yn cynnig diodydd, yn ogystal â hufen ia, byrbrydau a chacennau cartref amrywiol bob dydd. Mae gan Dŷ Pellaf drwydded i werthu alcohol, sy’n lleihau’r angen i ddod â chyflenwadau gyda chi. Gweler y rhestr a phrisiau enghreifftiol, yma.  Yn ogystal â’r caffi, bydd y fferm yn gwerthu wyau ffres, llysiau tymhorol, crancod a chimychiaid wedi’u berwi neu ffres yn syth oddi ar y cwch.

 

Beth fydd yn digwydd os bydd tywydd garw a’r cwch yn methu croesi?

Os yw’r tywydd yn rhy ddrwg i’r cwch groesi ar y diwrnod a drefnwyd yn wreiddiol, bydd Colin Evans, y Capten, yn trefnu croesi ar y diwrnod nesaf sydd yn addas. Bydd Tŷ Newydd yn cysylltu â phawb cyn gynted â phosib os fydd angen newid unrhyw drefniadau.

 

Oes yna ystafell gwely i lawr grisiau?

Oes, ond cysylltwch i holi os yw’r ystafell honno dal ar gael cyn archebu eich lle.

 

Sut mae ein holl fagiau’n cael eu cludo i’r cwch ac i’n llety ar ôl i ni gyrraedd yr ynys?

Bydd eich bagiau yn cael eu cludo gan gerbyd 4×4 a threlar i lawr i’r cwch ym Mhorth Meudwy a bydd y tractor a’r trelar neu fygi yn eu casglu o’r cwch ar ôl i chi gyrraedd Enlli. Sicrhewch fod eich bagiau mewn bocsys a bagiau bach hawdd eu trin, gan fod angen eu codi ar y cwch. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â phacio popeth mewn cês mawr trwm.

 

Hoffwn gael mwy o wybodaeth am y toiled compost, a allwch chi egluro sut mae’n gweithio?

Mae’r toiledau ar gyfer gwesteion yn doiledau compost syml. Mae ganddyn nhw sedd toiled uwchben bwced. Pan fyddwch wedi defnyddio’r toiled, dim ond papur toiled sy’n cael ei roi yn y toiled, darperir biniau ar gyfer yr holl ddeunyddiau eraill gellir eu compostio. Ychwanegir mymryn bach o lwch llif ar ôl ei ddefnyddio.

 

Pa oleuadau sydd yn ein llety?

Nid oes trydan yn y tai yn Enlli. Darperir lampau solar. Rydym yn argymell i chi dod â thortsh a fflachlamp neu ddwy, a batris sbâr, yn enwedig ar gyfer unrhyw deithiau i’r toiled gyda’r nos! Y newyddion da yw, yn Enlli, cewch gyfle i fwynhau un o ardaloedd gyda’r awyr dywyllaf yng Nghymru, a digon o gyfleoedd i syllu ar y sêr.

 

Beth yw’r sefyllfa ynglŷn ag ystafelloedd ymolchi a chawod?

Nid oes ystafelloedd ymolchi na chawodydd yn unrhyw un o dai gwyliau Enlli; darperir bowlenni ymolchi. Rydych chi’n defnyddio dŵr o’r gasgen ddŵr y tu allan (nid dŵr y ffynnon gan fod hwn ar gyfer yfed a choginio yn unig). Rydych yn cynhesu’ch dŵr ymolchi ar y stôf mewn sosban fawr a ddarperir i chi. Mae yna ddigon o bowlenni yn y tai, felly gallwch chi fynd â nhw i’ch ystafell i ymolchi. Mae gan Plas Bach ystafell y gellir ei defnyddio fel ystafell ymolchi. Mae’r toiled yn doiled compost sydd wedi’i leoli yn yr ardd (ac eithrio yn Llofft Plas, lle mae’r toiled tu fewn).

Mae gennyf anabledd neu gyflwr sy’n effeithio ar fy symudedd. Yw’r cwrs hwn yn addas i mi?

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i addasu’r trefniadau ble bynnag fo hynny’n bosib.

Tiwtor

Elinor Gwynn

Gyda chefndir mewn gwyddoniaeth a chyfraith amgylcheddol mae gan Elinor Gwynn brofiad helaeth o weithio ym maes yr amgylchedd a thirweddau, treftadaeth a chynaliadwyedd. Mae hi wedi gweithio mewn sawl rôl i gyrff gwahanol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae hi hefyd yn gweithio yn llawrydd mewn meysydd amrywiol, o ysgrifennu a chyfieithu creadigol i roi cyngor ar gynlluniau grant treftadaeth. Yn ddiweddar bu’n astudio’r berthynas rhwng iaith a’r amgylchedd, fel rhan o’i hymchwil ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn paratoi cais llwyddiannus Aberystwyth a Cheredigion i fod yn un o Ddinasoedd Llenyddiaeth newydd UNESCO.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811