Cwrs Carlam: y Gynghanedd

Llu 25 Mawrth 2024 - Gwe 29 Mawrth 2024
Tiwtoriaid / Manon Awst & Rhys Iorwerth
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Cynganeddu
Iaith / Cymraeg

Dewch i Dŷ Newydd i ganfod cyfrinach hen, hen grefft. Bydd ein cwrs cynganeddu preswyl poblogaidd yn rhoi’r cyfle i chi ymdrochi yn llwyr yn hud y gynghanedd, a dysgu cymaint â mewn sawl tymor o ddosbarthiadau nos mewn ychydig ddyddiau yn unig.

Bydd y cwrs wedi ei deilwra i ddau grŵp dan ofal dau diwtor: y cyntaf i’r rhai sy’n newydd i’r gynghanedd i gael dod i ddeall y rheolau syml cyn dechrau rhoi cig ar yr asgwrn. Byddwch yn gadael y cwrs yn rhugl eich cwpledi, os nad englynion – ac yn barod am y cam nesaf. A bydd ail grŵp i gynganeddwyr mwy medrus, i’ch gwthio i’r cam ychwanegol hwnnw sydd ei angen i gychwyn cystadlu mewn Eisteddfodau, mentro gyda’ch barddoniaeth, ac edrych yn ddyfnach i mewn i gymhlethdodau hudolus cerdd dafod.

Gan ddefnyddio casgliad llyfrgell hynod Tŷ Newydd, byddwn yn edrych ar waith rhai o ddewiniaid y gynghanedd i’n hysbrydoli. Bydd digon o gyfle i drafod barddoniaeth a’r traddodiad barddol gyda’ch cyd-gynganeddwyr, y tiwtoriaid ac ymwelwyr arbennig. A byddwn yn eich rhoi ar ben ffordd gyda chyfleoedd i barhau gyda’ch dysgu ar ôl i’r cwrs orffen.

Cwrs mewn partneriaeth â Chymdeithas Barddas.

“Cwrs gwych, erioed wedi dysgu cymaint mewn cyn lleied o amser” – un o feirdd Cwrs Cynganeddu Preswyl blaenorol.

“Prif fantais [cwrs preswyl o’r fath] yw bod y preswylwyr oll wedi cyflawni’r hyn a fyddai wedi cymryd oddeutu dwy flynedd drwy fynychu dosbarthiadau nos, gan fod y tiwtoriaid yno gyda nhw ddydd a nos, a chan bod yr effaith ‘big brother house’ cynganeddol yn golygu nad oedd lle i neb ddianc rhag y gynghanedd” – Aneirin Karadog, Cadeirydd Barddas yn dilyn cwrs preswyl 2016

Tiwtoriaid

Manon Awst

Artist a bardd yw Manon Awst. Fel artist, mae’n creu cerfluniau a gwaith safle-benodol wedi eu plethu â naratif ecolegol ac mae wedi arddangos ei gwaith dros Gymru, Lloegr a’r Almaen. Fel bardd, bu hi'n aelod craidd o Gywion Cranogwen ac yn fwy diweddar sefydlodd grŵp perfformio TAIR gyda Beth Celyn a Judith Musker Turner. Rhwng hyn, y Talwrn ac Ymryson y Beirdd, bu’n perfformio ei cherddi mewn gwyliau, theatrau a thafarndai dros Gymru gyfan. Dechreuodd Manon ar ei thaith i ddysgu’r gynghanedd ar gwrs preswyl tebyg iawn i’r un hwn yn Nhŷ Newydd.

Rhys Iorwerth

Bardd, cyfieithydd ac ysgrifennwr copi llawrydd yw Rhys Iorwerth. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 ac ef oedd Prifardd Coronog Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Enillodd Wobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. Cyhoeddodd dair cyfrol o farddoniaeth, Un Stribedyn Bach (Gwasg Carreg Gwalch, 2014), Carthen Denau: Cerddi'r Lle Celf 2019 (Cyhoeddiadau'r Stamp, 2019) a Cawod Lwch (Gwasg Carreg Gwalch, 2021) ac un gyfrol o ryddiaith, Abermandraw (Gwasg Gomer, 2017). Mae wedi cynnal dosbarthiadau cynganeddu yng Nghaerdydd a Chaernarfon ers dros ddegawd ac mae’n un o sefydlwyr nosweithiau barddoniaeth Bragdy’r Beirdd.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811