Cwrs Chwedleua

Llu 17 Mehefin 2024 - Gwe 21 Mehefin 2024
Tiwtoriaid / Daniel Morden & Phil Okwedy
Ffi’r Cwrs / O £675 y pen
Genres / Adrodd StraeonPerfformio
Iaith / Saesneg

Mae mythau a chwedlau ers talwm yn ddathliad o drosiadau, delweddaeth fyw, iaith, a chymuned ac yn parhau i ysbrydoli beirdd, artistiaid, awduron a dramodwyr heddiw. Yn ystod y cwrs canolradd hwn, bydd y tiwtoriaid a’r storïwyr profiadol, Daniel Morden a Phil Okwedy, yn eich annog i archwilio cyd-destun eich dweud, sydd weithiau’n broblemus ac yn hen ffasiwn, tra hefyd yn cynnig ymarferion a strategaethau i’ch helpu i ddatblygu fersiwn o stori sy’n berthnasol i heddiw, ac yn taro tant gyda chynulleidfaoedd cyfoes.

Bydd y tiwtoriaid yn meithrin awyrgylch gefnogol drwy gydol y cwrs, a hynny drwy gyfuniad o sesiynau un-i-un, gwaith grŵp a noson yn nhŷ crwn unigryw a hudolus Felin Uchaf, ger Aberdaron. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi ennill dealltwriaeth ddyfnach o’n chwedlau traddodiadol a’u perthnasedd cyfoes ac wedi datblygu eich sgiliau a’ch hyder fel storïwr perfformio. Gofynnir i gyfranogwyr anfon stori draddodiadol fer yr hoffent ei harchwilio ymlaen llaw.

Mae’r cwrs hwn yn croesawu unigolion sydd â pheth profiad o berfformio straeon traddodiadol yn fyw, naill ai i blant neu oedolion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynnwys neu addasrwydd y cwrs, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o dîm Tŷ Newydd naill ai ar tynewydd@llenyddiaethcymru.org neu ar 01766 522 811.

Tiwtoriaid

Daniel Morden

Mae Daniel Morden yn adrodd straeon traddodiadol ers 1989. Mae wedi adrodd straeon ar draws y byd, o wledydd y Môr Tawel i'r Arctig i'r Caribî. Mae'n adnabyddus am ei ail-ddehongliadau eglur o chwedlau Groegaidd, a'i berfformiadau angerddol o chwedlau Cymraeg. Mae'n awdur sawl casgliad o straeon gwerin, gan gynnwys Dark Tales from the Woods (Gomer, 2006) a enillodd Wobr Tir na n-Og. Yn 2017 dyfarnwyd Medal Gŵyl y Gelli iddo am ei waith adrodd straeon. www.danielmorden.org

Phil Okwedy

Adroddwr straeon perfformiadol a chrëwr chwedlau ydy Phil Okwedy, a aned yng Nghaerdydd i fam o Gymru a thad o Nigeria. Mae’n tynnu'n helaeth ar ei dreftadaeth ddeuol a'i ddiwylliannau lluosog. Mae'n perfformio'n rheolaidd mewn clybiau adrodd straeon ac mae wedi ymddangos yn Beyond the Border ac yng Ngŵyl Chwedleua Aberystwyth, yn ogystal â Gŵyl Kea yng Ngwlad Groeg a Gŵyl Fabula yn Sweden. Yn 2018 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Wil & the Welsh Black Cattle (Gomer, 2018), sef cyfres o straeon gwerin Cymreig wedi'u seilio ar chwedloniaeth yr hen borthmyn. Yn 2021 dyfarnwyd lle iddo ar raglen Cynrychioli Cymru, sef rhaglen datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru, ac yn 2022-23 aeth ar daith o gwmpas y wlad gyda'i sioe adrodd straeon gyntaf, The Gods Are All Here, gan dynnu ynghyd chwedlau, straeon gwerin a hanes personol Phil ei hun wedi'i sbarduno ar ôl darganfod cyfres o lythyrau oddi wrth ei dad yn Nigeria at ei fam yng Nghymru.

 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811