Cwrs Cynganeddu

Llu 30 Mawrth 2026 - Gwe 3 Ebrill 2026
Tiwtoriaid / Mererid Hopwood & Tudur Dylan Jones
Darllenydd Gwadd / Darllenydd Gwadd
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Cynganeddu
Iaith / Cymraeg

Dewch i Dŷ Newydd i ganfod cyfrinach hen, hen grefft. Bydd ein cwrs preswyl poblogaidd yn rhoi’r cyfle i chi ymdrochi yn hud y gynghanedd.

Bydd y cwrs wedi ei deilwra i ddau grŵp dan ofal dau diwtor: y cyntaf i’r rhai sy’n newydd i’r gynghanedd lle bydd yr aelodau’n gadael y cwrs yn fwy rhugl eich cwpledi, os nad englynion, ac yn barod am y cam nesaf. Bydd ail grŵp i gynganeddwyr mwy profiadol, lle cewch ddysgu rhagor am fanylion y grefft a chael eich annog i ddefnyddio amryw fesurau cerdd-dafod wrth lunio eich cerddi.

Gan ddefnyddio casgliad llyfrgell hynod Tŷ Newydd, byddwn yn edrych ar waith rhai o ddewiniaid y gynghanedd i’n hysbrydoli. Bydd digon o gyfle i drafod barddoniaeth a’r traddodiad barddol gyda’ch cyd-gynganeddwyr, y tiwtoriaid ac ymwelwyr arbennig. A byddwn yn eich rhoi ar ben ffordd gyda chyfleoedd i barhau gyda’ch dysgu ar ôl i’r cwrs orffen.

  • Addas ar gyfer pob gallu; cynganeddwyr newydd sbon neu brofiadol
  • Cyfle i ganfod yr ysbrydoliaeth sydd ei angen arnoch i barhau i gynganeddu ar ôl i’r cwrs ddod i ben
  • Dan arweiniad enillwyr Cadeiriau a Choronau Cenedlaethol 

Tiwtoriaid

Mererid Hopwood

 Mae Mererid Hopwood yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei chyhoeddiad diweddaraf yw cyfrol o gerddi, Mae (Cyhoeddiadau Barddas, 2025). Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wedi cyhoeddi cerddi a nofelau i blant. Mae wedi mwynhau cyfleoedd niferus i drafod llenyddiaeth mewn cymdeithasau a dosbarthiadau ledled Cymru, gan fentro weithiau i gymryd rhan mewn gwyliau llenyddol dramor. Mae’n talyrna ac ymrysona ac yn aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin. Bu hefyd yn Athro Barddol i raglen Pencerdd Llenyddiaeth Cymru i feithrin lleisiau newydd ym myd y gynghanedd. Derbyniodd Fedal Glyndŵr, Medal Dewi Sant y Prif Weinidog a Medal Gŵyl y Gelli am ei chyfraniad i lenyddiaeth. Hi yw’r Archdderwydd cyfredol ac Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru. 

 

Tudur Dylan Jones

Yn gyn athro uwchradd, Tudur Dylan yw cyd-sylfaenydd Ysgol Farddol Caerfyrddin sydd wedi meithrin beirdd cynganeddol dros gyfnod o 30 mlynedd.  Mae’n aelod o dîm Talwrn Tir Iarll, ac ef oedd Meuryn Ymryson y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ugain mlynedd, cyn ildio’r fantell yn 2023. Enillodd Dylan Goron Eisteddfod Sir y Fflint yn 2017, a Chadair Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 ac eto yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005. Ef oedd Bardd Plant Cymru yn 2004-05, ac mae wedi cyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth a rhyddiaith, ynghyd â gwaith ffeithiol-greadigol i blant. Bu’n cydweithio â’r bardd Non Lewis fel Athro Barddol ar raglen Llenyddiaeth Cymru, Pencerdd, sy’n meithrin cynganeddwyr newydd. Ei gasgliad diweddaraf o gerddi yw Am yn Ail (Cyhoeddiadau Barddas, 2021) cyfrol ar y cyd â’i dad, Y Prifardd John Gwilym Jones.

Darllenydd Gwadd

Darllenydd Gwadd

Bydd y darllenydd gwadd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811