Yn wreiddiol o Lundain, gwnaeth Jo Heyde hyfforddi fel pianydd gan fynychu’r Academi Frenhinol yn ifanc, cyn graddio mewn cerddoriaeth o King’s College, London. Dechreuodd ddysgu Cymraeg tua diwedd 2018, ac ers 2021, mae hi wedi bod wrthi’n barddoni. Mae wedi cyhoeddi pamffled, Cân y Croesi (Cyhoeddiadau'r Stamp, 2024), a chyfrol, Chwarter Eiliad (Cyhoeddiadau Barddas 2025), a hi oedd golygydd gwadd y flodeugerdd, Trysorau'r Nadolig (Cyhoeddiadau Barddas 2025). Cyrhaeddodd Chwarter Eiliad restr fer Llyfr y Flwyddyn 2026. Mae’n aelod o dîm Talwrn, y Derwyddon, ac Ysgol Farddol Caerfyrddin, yn ogystal â bod yn gydlynydd Bardd y Mis. Roedd yn Fardd y Mis, BBC Radio Cymru ym mis Gorffennaf 2024. Mae ei cherddi wedi’u cyhoeddi yng nghylchgrawn Barddas, yn Ffosfforws 2-7 (Cyhoeddiadau’r Stamp) , MODRON 4, a’r flodeugerdd, O Ffrwyth y Gangen Hon (Barddas). Mae wedi ennill sawl cadair, a gwnaeth ei hawdl, ‘Dinas’, gyrraedd teilyngdod, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.
Cwrs Cynganeddu
Mae’r gynghanedd yn un o drysorau pennaf Cymru. Yn fwy na hynny, mae’n un o grefftau barddonol mwyaf unigryw’r byd.
Ydych chi wastad wedi ysu i ddysgu mwy am yr hen, hen draddodiad hwn? Yn dyheu am roi cynnig arni, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Neu efallai eich bod chi eisoes yn gwybod rhywfaint, ond yn awyddus i dyrchu’n ddyfnach, ymarfer mwy, a mireinio’ch crefft?
Bydd y cwrs preswyl hwn yn Nhŷ Newydd yn ateb yr holl ofynion hyn! O dan ofal dau diwtor, byddwch chi’n cael eich rhannu’n ddau grŵp: y cyntaf i’r rheini y mae’r gynghanedd yn newydd sbon iddyn nhw, a’r ail i gynganeddwyr sy’n deall rhywfaint yn barod, ond am ddod yn fwy rhugl a hyderus.
Bydd digonedd o gyfleoedd i drafod barddoniaeth gyda’ch cyd-gynganeddwyr, y tiwtoriaid ac ymwelwyr arbennig. Ond yn fwy na dim, bydd pwyslais mawr ar ddysgu, creu ac ymarfer – ac ar gael tipyn o hwyl, wrth gwrs!
Tiwtoriaid
Jo Heyde
Rhys Iorwerth
Bardd, awdur a chyfieithydd o Gaernarfon ydi Rhys Iorwerth. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023, a Gwobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau, yn farddoniaeth, pamffledi, rhyddiaith, a chyfieithiadau. Yn 2025, darlledwyd ei ffilm Gwlad Bardd yn y sinemâu ac ar S4C. Mae’n un o sylfaenydd nosweithiau barddoniaeth byw Bragdy’r Beirdd, ac mae’n dysgu dosbarth cynganeddu yng Nghaernarfon.
Darllenydd Gwadd
Myrddin ap Dafydd
Mae Myrddin ap Dafydd yn Brifardd ac yn gyn-Fardd Plant Cymru ac ef yw awdur Clywed Cynghanedd (Gwasg Carreg Gwalch, 2003), llawlyfr ar y gynghanedd yn seiliedig ar ddegawdau o gynnal gwersi a gweithdai ar y gynghanedd a'r mesurau caeth.