Cwrs Digidol: Ffuglen Wyddonol a Ffantasi

Maw 14 Tachwedd 2023 - Maw 12 Rhagfyr 2023
Tiwtoriaid / Aliette de Bodard & Alastair Reynolds
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Iaith / Saesneg

** LLAWN **

Os hoffech cael eich ychwanegu i’n rhestr aros, ebostiwch: tynewydd@llenyddiaethcymru.org

 

Cynhelir y cwrs digidol hwn dros gyfres o bedair sesiwn ar:

Nos Fawrth 14 Tachwedd, nos Fawrth 21 Tachwedd, nos Fawrth 28 Tachwedd a nos Fawrth 12 Rhagfyr 2023 rhwng 7.00 – 8.30 pm

 

Dros bedair sesiwn ar-lein bydd Aliette ac Alastair yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd rhyfedd sydd ar gael i unrhyw un sy’n dymuno ysgrifennu ffuglen wyddonol, ffantasi neu eu genres cysylltiedig. Gan dynnu ar eu profiadau eu hunain ar draws ystod o arddulliau a fformatau llenyddol, o straeon byrion i nofelau a chyfresi estynedig, bydd y cwrs digidol hwn yn mynd i’r afael â mecaneg crefftio stori, o gynllunio a phlotio, i ddefnyddio llais a safbwynt, lleoliad a naws. Byddwch hefyd yn mynd i’r afael â heriau unigryw adeiladu byd o fewn llenyddiaethau hudol fel hyn, o’r defnydd o iaith i feithrin amser a lle, i ddyfeisio systemau cymdeithasol a thechnolegau’r dyfodol pell, a sut mae gwneud i’r creadigaethau hynny ymddangos yn real i’ch darllenwyr. Bydd y tiwtoriaid yn cyflwyno’r gwahanol gamau ysgrifennu, o ddrafftiau cychwynnol i chwynnu a mireinio, sut i baratoi gwaith i’w gyflwyno, a sut i wneud y gorau o’r farchnad lenyddol, o leoliadau traddodiadol i’r byd ar-lein a hunan-gyhoeddi. Daw’r tiwtoriaid â phrofiad amhrisiadwy mewn datrys problemau: sut i ganfod syniadau, sut i ganfod eich awen greadigol, sut i wella stori dda – ac yn bwysicach oll, sut i ddod o hyd i hwyl a boddhad yn eich crefft, lle bynnag y bo’i angen. Mae’r dyfodol yn aros!

Tiwtoriaid

Aliette de Bodard

Mae Aliette de Bodard yn ysgrifennu ffuglen ddamcaniaethol: mae hi wedi ennill tair Gwobr Nebula, Gwobr Ignyte, Gwobr Locus a phum Gwobr Cymdeithas Ffuglen Wyddoniaeth Prydain. Hi yw awdur y llyfr rhamant lesbiaidd gofod-ladron, The Red Scholar's Wake (Gollancz/JABberwocky Literary Agency, Inc, 2022), ac Of Charms, Ghosts and Grievances (JABberwocky Literary Agency, Inc, 2022), sy’n nofel ffantasi o foesau a llofruddiaethau wedi’i gosod yn llys Fietnameg eiledol o'r 19eg ganrif. Mae hi'n byw ym Mharis.

Alastair Reynolds

Ganed Alastair Reynolds yn y Barri ym 1966. Astudiodd seryddiaeth ym mhrifysgolion Newcastle a St Andrews cyn teithio i’r Iseldiroedd i weithio i Asiantaeth Ofod Ewrop. Daeth yn awdur llawn amser yn 2004, ychydig flynyddoedd ar ôl cyhoeddi ei nofel gyntaf, Revelation Space (Gollancz, 2000). Erbyn hyn mae wedi ysgrifennu dros 20 o nofelau a mwy na 70 o straeon byrion. Mae ei straeon wedi eu haddasu ar gyfer y llwyfan a’r sgrin. Mae wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobrau Arthur C Clarke a Hugo, ac wedi ennill gwobr Cymdeithas Ffuglen Wyddoniaeth Prydain, gwobr Locus, gwobrau Sidewise, Seiun a Ffuglen Wyddonol Ewropeaidd. Dychwelodd i Gymru yn 2007 ac mae bellach yn byw gyda'i wraig yng Nghwm Cynon. Y tu hwnt i ysgrifennu a gwyddoniaeth, mae ei ddiddordebau yn cynnwys rhedeg a cherddoriaeth. Ei nofel ddiweddaraf yw Eversion (Orion, 2022).

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811