Cwrs Penwythnos: Mynd i’r afael â Ffuglen

Gwe 15 Hydref 2027 - Sul 17 Hydref 2027
Tiwtoriaid / Gareth Evans-Jones & Manon Steffan Ros
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Cymraeg

Ymunwch â dau o leisiau mwyaf cyffrous llenyddiaeth gyfoes Cymru am benwythnos ysbrydoledig o ysgrifennu ffuglen yn Nhŷ Newydd. Dan arweiniad Manon Steffan Ros a Gareth Evans-Jones, bydd y cwrs yn cynnig cyfle i ddatblygu eich crefft a chwrdd â chymuned gefnogol o gyd-awduron.

Trwy gymysgedd o weithdai, ymarferion creadigol, a thrafodaethau grŵp, byddwn yn edrych ar elfennau allweddol ffuglen, gan gynnwys cymeriad, llais, lleoliad, strwythur a deialog. Bydd pwyslais ar arbrofi, darganfod beth sy’n gwneud eich ysgrifennu’n unigryw, a magu eich hyder.

P’un a ydych yn gweithio ar stori fer, nofel, neu’n chwilio am fan cychwyn ar gyfer prosiect newydd, bydd y penwythnos arbennig hwn yn cynnig gofod croesawgar a chefnogol i ysgrifennu, rhannu syniadau a meithrin eich llais a’ch arddull creadigol.

Gyda diolch i Gronfa Cefnogi Celfyddydau Gwynedd 2027-28 am gefnogi’r cyrsiau hyn yn Nhŷ Newydd.

Tiwtoriaid

Gareth Evans-Jones

Mae Gareth Evans-Jones yn awdur, dramodydd ac academydd o Ynys Môn, ac yn ddarlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n ysgrifennu rhyddiaith, barddoniaeth a dramâu, ac ef yw awdur y nofelau Eira Llwyd (2021), Y Cylch (2023) a, yn fwyaf diweddar, Ffrwyth (2026) – pob un ohonynt wedi’u cyhoeddi gan Wasg y Bwthyn. Enillodd Ffrwyth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2026. Mae ei waith creadigol yn rhychwantu amrywiaeth eang o genres a ffurfiau. Enillodd Cylchu Cymru (Y Lolfa, 2022) – cyfuniad o ffotograffiaeth a ffeithlen lenyddol – y categori Ffeithiol Greadigol yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2023. Ymhlith ei brosiectau golygyddol mae Can Curiad (Gwasg y Bwthyn, 2021), blodeugerdd o ficro-ffuglen, a Curiadau (Cyhoeddiadau Barddas, 2023), y flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth LGBTQ+ yn y Gymraeg. Ef hefyd yw awdur Llanddafad (Y Lolfa, 2024), casgliad o straeon ar gyfer darllenwyr iau. Mae gwaith Gareth wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Medal Ddrama yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 a 2021. Yn ogystal â’i waith ysgrifennu, mae’n cydweithio’n rheolaidd ag artistiaid a sefydliadau yng Nghymru ac yn rhyngwladol i ddatblygu prosiectau creadigol arloesol sy’n pontio diwylliannau. 

 

Manon Steffan Ros

Manon Steffan Ros

Mae Manon Steffan Ros yn un o awduron cyfoes mwyaf nodedig Cymru, ac mae’n adnabyddus am ei gwaith ffuglen, drama a llenyddiaeth plant sydd wedi ennill gwobrau. Gan ysgrifennu yn bennaf yn y Gymraeg, mae hi wedi cyhoeddi mwy nag ugain o lyfrau i blant a phobl ifanc, yn ogystal â nifer o nofelau i oedolion sydd wedi cael eu canmol yn fawr. Mae Manon wedi ennill nifer o anrhydeddau llenyddol pwysig, gan gynnwys Medal Ddrama a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Tir na n-Og, gwobr Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru, ac yn 2023, y Fedal Yoto Carnegie fawreddog am The Blue Book of Nebo (Firefly Press, 2022) – ei chyfieithiad Saesneg ei hun o’r nofel Gymraeg boblogaidd Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa, 2019). Gwnaeth y wobr hanes llenyddol fel y nofel gyntaf mewn cyfieithiad i ennill Medal Carnegie

 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811