Cwrs Undydd: Creu Zine dy hun

Sad 4 Hydref 2025
Tiwtor / Elin Angharad
Ffi’r Cwrs / O £35 y pen
Genre / aml-genre
Iaith / CymraegDwyieithogSaesneg

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Zines wedi troi’n ffurf fwyfwy poblogaidd o rannu straeon, gwaith a syniadau creadigol. Mae’r llyfrynnau hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i awduron ac artistiaid ynghyd arbrofi gyda sawl cyfrwng a chyfuno geiriau a chelf gweledol mewn ffyrdd difyr, gwreiddiol a phryfoclyd.

Yn ystod y cwrs undydd hwn, byddwch yn cael cyfle i greu zine eich hun o dan arweiniad y crëwr zine profiadol Elin Angharad, curadur Llyfrgell Zine Cymru. O’r cynllunio, curadu cynnwys a geiriau, dysgu technegau collage, i ddylunio fformat a gosodiad tudalennau ac archwilio dulliau arbrofol o blygu eich llyfrynnau, bydd eich tiwtor yno i’ch annog, cynghori a chefnogi. Mae’r cwrs yn addas i feirdd a llenorion ynghyd, yn ogystal ag artistiaid gweledol. Bydd croeso i chi ddod â geiriau a lluniau eich hunain i’r cwrs, neu bydd amrywiaeth o adnoddau ar gael yn ystod y dydd hefyd. Yn ystod y dydd, byddwch hefyd yn cael eich annog i ddysgu rhagor am hanes zines ac sut i addasu ‘camgymeriadau’ fel rhan annatod o broses creu. Felly ymunwch gyda ni, a dewch yn barod i fod yn chwareus gyda delweddau a geiriau a siapio a ffurfio eich creadigrwydd mewn ffordd gwbl newydd.

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

 

Gyda diolch i Gronfa Cefnogi Celfyddydau Gwynedd 2025-26 am gefnogi’r cyrsiau hyn yn Nhŷ Newydd.

Tiwtor

Elin Angharad

Yn arlunydd ac yn lyfrbryf proffesiynol, mae Elin Angharad yn mwynhau annog y profiad cymunedol o rannu straeon, hanesion a chwedlau yn weledol, trwy ddarllen, ysgrifennu, ac ar lafar. Sefydlodd Elin Llyfrgell Zine Cymru yn 2021 - y llyfrgell cyntaf o’i fath yng Nghymru sydd nid yn unig yn gasgliad archif eang o zines ag effemera, ond sydd hefyd wasanaeth sydd yn darparu digwyddiadau llythrennedd creadigol  - er hybu creadigrwydd llenyddol a gweledol, ac er dogfennu hanesion a phrofiadau cyfoes ein cymuned. Mae Elin yn credu yn ddwys fod pob llais yr un mor haeddiannol a gwerthfawr, ac y gall archwilio profiadau amrwd fod yn gam allweddol o fewn siwrnai neu ymarfer creadigol, a hefyd yn ddiben hynod werth chweil ynddo’i hun.

Llyfrgell Zine Cymru: @zinecymru

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811