Cwrs undydd: Dysgu sgwennu o’r galon

Sad 11 Gorffennaf 2026
Tiwtor / Gwenllian Ellis
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffeithiol
Iaith / Cymraeg

Ymunwch â’r awdur Gwenllian Ellis am ddiwrnod unigryw yn archwilio’r grefft o sgwennu’n onest, yn ddiffuant – ac yn llwyr o’r galon. Mae’r cwrs hwn yn gyfle i chi ganolbwyntio ar ddatblygu eich llais unigryw a’ch steil personol, boed hynny mewn ffuglen neu mewn gwaith ffeithiol greadigol.

Drwy weithdai rhyngweithiol a sgyrsiau, bydd Gwenllian yn rhannu ei dulliau hi o sgwennu gyda hiwmor tra hefyd yn archwilio sut i ganfod naratif mewn ffeithiau bywyd a chreu stori sy’n cydio yn y darllenydd. Mae’r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sydd eisiau ysgrifennu mewn modd mwy personol a beiddgar ac yn fwy na dim, yn driw i’w hunain.

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Gwenllian Ellis

Daw Gwenllian Ellis o Bwllheli. Cyrhaeddodd ei chyfrol gyntaf, Sgen I'm Syniad (Y Lolfa, 2022), Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2023 a hi oedd enillydd gwobr Barn y Bobl y Flwyddyn honno. Mor Hapus (Y Lolfa, 2025) yw ei chyfrol ddiweddaraf.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811