Cwrs undydd: Y grefft o gyfieithu creadigol

Sad 12 Medi 2026
Tiwtor / Esyllt Angharad Lewis
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / aml-genre
Iaith / Cymraeg

Dewch i archwilio y gelfyddyd hynod o gyfieithu creadigol gyda’r bardd, cyfieithydd a golygydd Esyllt Angharad Lewis. Bydd y cwrs yn edrych ar sut y gallwn chwarae gyda iaith a’i thrawsnewid heb golli ystyr a swyn y gwaith gwreiddiol.

 

Drwy gyfres o ymarferion ymarferol a chydweithredol, cewch gyfle i arbrofi â symud testunau rhwng y ddwy iaith wrth fireinio’r sgil o wrando am rhythm, naws, gwead a llais testun. Byddwch yn cael eich annog i fynd tu hwnt i ystyr llythrennol geiriau ac ystyried cyfieithiadau fel darnau o lenyddiaeth sy’n torri cwys eu hunain. Boed yn farddoniaeth, rhyddiaith neu’n gymysgedd o’r ddau, bydd cyfle i ddarllen, dadansoddi a dehongli mewn manylder. Yn oes lle mae Deallusrwydd Artiffisial yn cynnig cyfieithiadau cyflym, bydd y cwrs hwn yn dathlu’r grefft o gyfieithu yn ogystal â greddf, empathi, a chreadigrwydd cyfieithwyr wrth iddynt bontio ieithoedd a diwylliannau.

Bydd croeso i bawb, beth bynnag eich profiad. Dewch â chwilfrydedd, cariad at iaith, a pharodrwydd i fentro ac arbrofi. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer awduron sy’n gweithio yn y Gymraeg neu’r Saesneg, ond bydd y gweithdai eu hunain yn cael eu harwain drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

 

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Esyllt Angharad Lewis

Artist a chyfieithydd o Graig-Cefn-Parc yw Esyllt Angharad Lewis, sy’n archwilio’r berthynas rhwng ieithoedd gweledol a geiriol. Mae wedi perfformio ei gwaith fel Bardd y Mis BBC Radio Cymru, yng Ngŵyl Farddoniaeth Aberystwyth, yng Ngŵyl Transpoesie, Brwsel, ac fel rhan o breswyliad cyfieithu Ulysses Shelter yn Valetta, Malta. Enillodd Wobr Ifor Davies yn Eisteddfod Pontypridd 2024 am ei pherfformiad, ‘Blobus a Phryderon Eraill’. Rhyddhawyd ei haddasiad Cymraeg o nofel Anthony Shapland, Lan Stâr (A Room Above a Shop) ym mis Hydref 2025, ac mae’n gyd-olygydd ar Gyhoeddiadau’r Stamp.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811