Beth sy’n digwydd pan fydd stori, llais neu gymeriad yn teithio o un iaith i’r llall? Ar y cwrs hwn, byddwch yn archwilio’r grefft o gyfieithu llenyddiaeth o’r Gymraeg i’r Saesneg, gan ystyried sut y gallwn drosglwyddo llais, cymeriad, naws ac ystyr heb golli’r hyn sy’n gwneud y gwreiddiol yn unigryw.
Gan dynnu ar brofiad y tiwtor, Megan Angharad Hunter o gyfieithu ei chyfrol tu ôl i’r awyr (Y Lolfa, 2020) i’r Saesneg, byddwch yn edrych ar rai o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n codi wrth i waith creadigol symud rhwng ieithoedd. Pa mor llythrennol y dylai cyfieithiad fod? Sut mae cadw llais unigryw awdur? A beth sy’n digwydd i dafodiaith, rhythm a hiwmor pan fyddant yn croesi ffin ieithyddol? Byddwch hefyd yn ystyried sut mae diwylliant yn teithio drwy gyfieithiad, ac yn trafod arwyddocâd gwleidyddol y gwaith o ddod â llenyddiaeth Gymraeg at ddarllenwyr newydd.
Byddwch hefyd yn ystyried ar y gwahaniaethau rhwng byd cyhoeddi Cymraeg a Saesneg, a sut gall y gwahaniaethau hynny ddylanwadu ar y penderfyniadau a wnewch fel cyfieithwyr ac awduron.
Nid proses fecanyddol yw cyfieithu creadigol, ond crefft gelfyddydol sy’n gofyn am ofal, dychymyg a chlust dda am iaith. Drwy gyfres o dasgau, gweithdai a thrafodaethau, bydd cyfle i arbrofi, dadansoddi enghreifftiau a meddwl am sut gall cyfieithu greu cysylltiadau rhwng ieithoedd, diwylliannau a darllenwyr.
Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Gyda diolch i Gronfa Cefnogi Celfyddydau Gwynedd 2027-28 am gefnogi’r cyrsiau hyn yn Nhŷ Newydd.