Mae Angharad Price yn awdur dwy nofel hanesyddol, O! Tyn y Gorchudd (Gomer, 2002) a enillodd y Fedal Ryddiaith a Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a Nelan a Bo (Y Lolfa, 2024), yn ogystal â nofel gyfoes am Gaernarfon o'r enw Caersaint (Y Lolfa, 2010), y ddwy wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn. Mae hefyd wedi cyhoeddi tair cyfrol o ysgrifau, Trysorau Cudd Caernarfon (Gwasg Carreg Gwalch, 2018), Ymbapuroli (Gwasg Carreg Gwalch, 2021) a Gororion (Llygad Gwalch Cyf, 2023), yn ogystal ag astudiaethau ar lenyddiaeth Gymraeg. Mae'n Athro'r Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac yn byw yng Nghaernarfon.
Cwrs undydd: Ysgrifennu Ffuglen Hanesyddol
Sut mae trosi darn o hanes ffeithiol yn ffuglen afaelgar? Bydd y cwrs hwn yn trafod sut i greu byd newydd i’ch darllenwyr yn seiliedig ar y gorffennol. Pa heriau arbennig sydd ynghlwm wrth geisio dod â hanes yn fyw mewn stori neu nofel? Sut mae cyfuno ymchwil hanesyddol â chrefft y llenor, gan wneud hynny mewn ffordd sy’n mynd i argyhoeddi eich darllenydd? Beth yw’r ystyriaethau moesol, yn ogystal ag artistig, sy’n codi wrth ail-greu cymeriadau hanesyddol? A pha fathau o ieithwedd sy’n addas wrth ailgyflwyno’r hyn a fu ac a ddarfu?
Trwy gyfrwng cyfres o ymarferion creadigol byr, trafodaethau mewn grŵp, yn ogystal â sgyrsiau mwy hamddenol, bydd y cwrs hwn yn ymdrin â rhai o’r materion hyn, gan ddwyn ysbrydoliaeth oddi wrth esiamplau adnabyddus – a llai adnabyddus – o’r genre. Byddwn hefyd yn craffu ar sut y gall ffuglen hanesyddol, nid yn unig gynnig dihangfa i’r gorffennol, ond sylwebu ar y presennol yn ogystal.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Tiwtor