Cwrs Undydd: Ysgrifennu Taith

Sad 9 Hydref 2027
Tiwtor / Grug Muse
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / FfeithiolNatur
Iaith / Cymraeg

Mae pob taith yn cynnig stori. Boed hynny’n daith i ben arall y byd neu’n daith fer i ben lôn, mae symud drwy dirweddau, lleoedd a phrofiadau newydd yn gallu tanio’r dychymyg ac agor drysau i straeon newydd.

Dan arweiniad y bardd a’r awdur Grug Muse, bydd y cwrs undydd hwn yn archwilio sut i ysgrifennu am daith, am deithio, ac am deithwyr. Bydd yn gyfle i ystyried hanes y cyfrwng a sut y gallwn ehangu’r diffiniad o ‘Lên taith’. Trwy gyfres o ymarferion ymarferol, trafodaethau ac amser ddarllen ac ysgrifennu, bydd yn cynnig man cychwyn ar gyfer gwaith creadigol newydd.

Wedi’i gynnal o fewn llonyddwch Tŷ Newydd, bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i arafu, sylwi ar y byd o’n cwmpas, a darganfod syniadau newydd drwy ysgrifennu. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer awduron ar bob cam o’u taith greadigol, gan gynnwys y rhai sy’n newydd i ysgrifennu.

Dewch i grwydro, myfyrio ac ysgrifennu mewn cwmni cynnes a chefnogol.

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Gyda diolch i Gronfa Cefnogi Celfyddydau Gwynedd 2027-28 am gefnogi’r cyrsiau hyn yn Nhŷ Newydd.

Tiwtor

Grug Muse

Mae Grug Muse (1993) yn fardd, golygydd, perfformiwr ac ymchwilydd o Ddyffryn Nantlle. Astudiodd wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham ac yn y Weriniaeth Tsiec, cyn cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n un o olygyddion a sylfaenwyr Cyhoeddiadau'r Stamp. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, ac enillodd merch y llyn (Cyhoeddiadau’r Stamp 2021) gategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Bydd cyfieithiad o'r gyfrol yn cael ei gyhoeddi yn 2027 gyda Broken Sleep Books. Yn 2025 cyhoeddodd Croesi - Cyfandir ar ddwy olwyn (Y Lolfa), cyfrol yn sôn am ei thaith ar draws gogledd America ar feic yn 2016. Perfformiwyd ei drama fel 'Annwfn' gan Theatr Cymru yn Eisteddfod y Garreg Las, 2026.  

 

 

 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811