Cwrs undydd: Ysgrifennu Tirweddau Cymru

Sad 18 Gorffennaf 2026
Tiwtor / Carwyn Graves
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / FfeithiolNatur
Iaith / Cymraeg

Ymunwch â’r awdur Carwyn Graves am ddiwrnod ysbrydoledig o ysgrifennu ffeithiol greadigol yng nghanol tirlun godidog Eifionydd. Bydd y cwrs undydd hwn yn canolbwyntio ar archwilio a chyfleu tirluniau Cymru drwy eiriau ac yn eich annog i ddefnyddio eich synhwyrau a’ch ymwybyddiaeth amgylcheddol i greu darnau pwerus a chofiadwy.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau sylwi, yn dysgu sut i ddefnyddio dull amlsynhwyraidd wrth ysgrifennu, ac yn darganfod ffyrdd o drawsnewid ymchwil hanesyddol, daearyddol neu bersonol yn destunau deniadol. Bydd eich tiwtor yn trafod sut i blethu pryderon yr argyfwng hinsawdd mewn i’ch gwaith mewn modd ystyriol, ac yn cynnig mewnwelediad i’r hyn sy’n gwneud tirluniau Cymru’n unigryw, hynafol a swynol- o’u bywyd gwyllt i’w pobl.

Mae’r cwrs yn addas i unrhyw un sy’n awyddus i feithrin perthynas ddyfnach â thirwedd Cymru drwy ysgrifennu. Dewch i ailgysylltu â thir, geiriau, a’ch llais creadigol.

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Carwyn Graves

Awdur, garddwr a ieithgi o Gaerfyrddin yw Carwyn Graves. Awdur Afalau Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2018), Welsh Food Stories (Calon, 2022) a Tir: The Story of the Welsh Landscape (Calon, 2024). Bu’n rhan o’r grŵp fu’n gyfrifol am sefydlu’r casgliad cenedlaethol o afalau Cymreig yng Ngardd Fotaneg Cymru ac yn awr mae wrthi’n gweithio i gyd-sefydlu elusen newydd i Gymru: Cegin y Bobl.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811