Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreit yn 2013 am Week of Pines. Mae ganddi raglen gerddoriaeth wythnosol ar BBC Radio Cymru. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf yn y Gymraeg – Casglu Llwch – yn 2024, gan gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn.
Cwrs ysgrifennu caneuon: Geiriau, alaw, rhythm
Ymunwch â’r cantorion-gyfansoddwyr Iwan Huws a Georgia Ruth mewn penwythnos o gyfansoddi, cerddoriaeth, barddoniaeth a rhythm. Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael eich annog i ystyried cerddoroldeb geiriau, a’r synhwyrau sy’n cael eu hysgogi mewn alaw wrth i chi weithio tuag at greu darn gorffenedig a fydd yn cyffroi, yn herio, ac yn cynhyrfu eich cynulleidfa. Mewn amgylchedd cefnogol, rhyngweithiol ac ymlaciol, bydd y tiwtoriaid yn eich helpu i ysgrifennu geiriau arwyddocaol a nodi’r alaw gywir i’w cario.
Os ydych chi eisoes yn ganwr-gyfansoddwr sy’n dymuno rhoi albwm at ei gilydd, yn awdur sy’n chwilio am allfa greadigol newydd, neu’n gerddor sy’n awyddus i ysgrifennu eich geiriau eich hunan, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi.
Bydd y penwythnos yn cynnwys gweithdai grŵp, tiwtorialau un-i-un, a chyfleoedd i wrando a pherfformio mewn lleoliad ysgogol a chyfeillgar. Lle bo modd, anogir cerddorion i ddod â’u hofferynnau gyda nhw. Ar gyfer awduron sydd heb brofiad cerddorol, mae’r wythnos hon wedi’i chynllunio i’ch galluogi i gyfranogi’n llawn.
Cwrs dwyieithog yw hwn, a bydd y tiwtoriaid wrth law i gefnogi siaradwyr Cymraeg a Saesneg.
Tiwtoriaid
Georgia Ruth
Iwan Huws
Mae Iwan Huws, sydd o Ben Llŷn yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Aberystwyth, yn gerddor adnabyddus am ei waith dros y blynyddoedd gyda Cowbois Rhos Botwnnog, ond mae hefyd wedi rhyddhau record unigol a chyfrol o gerddi – Gadael Rhywbeth (Cyhoeddiadau Barddas, 2019). Mae’n amcangyfrif ei fod wedi ysgrifennu dros hanner cant ganeuon dros y blynyddoedd, ac mae’n tybio fod rhai ohonynt wedi bod yn weddol!