Cydio yn Awen Enlli

Sad 20 Ebrill 2024 - Sad 27 Ebrill 2024
Tiwtoriaid / Jon Gower & Elinor Gwynn
Darllenydd Gwadd / Iestyn Tyne
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / BarddoniaethFfeithiolFfuglenNatur
Iaith / Dwyieithog

Cynhelir y cwrs hwn mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, gyda chefnogaeth hael gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Llŷn, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

 

PWYSIG! Noder os gwelwch yn dda nad yng Nghanolfan Tŷ Newydd fydd y cwrs hwn, ond yn hytrach draw ar Ynys Enlli.

Ym mis Ebrill 2024, bydd Canolfan Tŷ Newydd yn hel ei phac ac yn mentro dros y Swnt i ymweld ag Ynys Enlli ar gyfer cwrs arbennig dan ofal yr awdur a’r ecolegydd, Elinor Gwynn a’r awdur, Jon Gower. Bydd gwestion arbennig hefyd yn ymuno â ni i gyfrannu at y cwrs yn ystod yr wythnos. Bydd manylion ac amserlen lawn yn dilyn, ond dyma flas i chi:

 

Ar y cwrs hwn, byddwch yn rhannu tŷ gyda’ch cyd-gyfranogwyr am yr wythnos ac yn mwynhau gweithdai a gweithgareddau eraill a fydd yn eich hysbrydoli a’ch helpu i ysgrifennu am y dirwedd a’r byd o’n cwmpas. Yn ystod yr wythnos, bydd cyfle i archwilio llwybrau Enlli, dysgu am hanes a bywyd gwyllt yr ynys a mwynhau cwmni trigolion ac ymwelwyr eraill sy’n dotio ar y gornel fach unigryw a hudolus hon o Gymru. Byddwn yn craffu ar blanhigion, anifeiliaid a chreigiau Enlli, yn ystyried hinsawdd a dylanwad y môr ar yr ynys, ac yn archwilio pob modfedd o’r darn bach o dir hwn sydd wedi bod yn ysgogi ac yn ysbrydoli artistiaid ac awduron ers canrifoedd. Bydd digon o amser rhydd yn cael ei neilltuo yn amserlen y cwrs i chi fwynhau eich hamdden ar yr ynys.

 

Gwybodaeth Ymarferol:

Trafnidiaeth

Bydd y cwch i Ynys Enlli yn gadael o Borth Meudwy (LL53 8DA) am fore Sadwrn 20 Ebrill 2024, ac yn dychwelyd wythnos yn ddiweddarach – gyda’r cwch yn gadael Ynys Enlli ar fore Sadwrn 27 Ebrill. Mae pris y daith ar y cwch yn gynwysedig ym mhris y cwrs. Byddwn yn cadarnhau union amser gadael y cwch yn nes at yr amser, yn dilyn gwybodaeth bellach gan Gapten y cwch / ac yn ôl amgylchiadau’r tywydd. Mae’r daith cwch yn para tua 20 munud. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion ynglŷn â man cwrdd a threfniadau’r cwch maes o law.

 

Llety

Bydd hyd at 14 ohonoch yn rhannu tŷ (Plas Bach a/neu Tŷ Capel) am yr wythnos. Gallwch ddewis pa fath o ystafell yr hoffech chi ei archebu, yn dibynnu ar argaeledd. Gallwch ddod â phartner neu ffrind, a rhannu ystafell; talu ychydig mwy i gael ystafell i chi eich hun; neu wneud cais i rannu ystafell â dau wely sengl gyda rhywun ar hap. Mae pris y llety yn gynwysedig ym mhris y cwrs.

 

Opsiwn 1: 

Rhannu ystafell: gwely sengl (mewn ystafell â dau wely)
£625 y pen
Nodwch wrth archebu os ydych yn archebu gyda ffrind, ac eisiau rhannu ystafell gyda nhw, neu os ydych chi yn fodlon rhannu gyda rhywun ar hap.

 

Opsiwn 2:

Llofft sengl (un gwely sengl)
£675 y pen

 

Opsiwn 3:

Llofft ddwbl (un gwely dwbl) i un person yn unig
£725 y pen

 

Opsiwn 4:

Llofft ddwbl (un gwely dwbl) i rannu gyda phartner/ffrind
£625 y pen

 

Nodwch os gwelwch yn dda mai cyfleusterau syml iawn sydd ar Enlli, mae hynny’n rhan o’i hud. Nid oes trydan yn y tai ac fe ddefnyddir lampau amrywiol i’w goleuo. Oherwydd rheoliadau iechyd a diogelwch, ni chaniateir defnyddio canhwyllau. Byddai’n syniad i chi ddod â thortshis pen gyda chi, neu fflachlampau eraill.

 

Er nad ydynt yn foethus, mae’r tai wedi eu dodrefnu’n gyfforddus. Mae Plas Bach yn dŷ pum ystafell wely. Mae Tŷ Hapel yn dŷ pedair ystafell wely. Yn y gegin mae popty nwy, oergell/rhewgell, ac offer arlwyo digonol. Mae llestri, hylif golchi llestri, papur toiled ac offer glanhau tŷ wedi eu darparu.

 

Toiledau a Chyfleusterau Ymolchi

Nid oes ystafelloedd ymolchi yn y tai. Lleolir toiled compostio y tu allan i bob tŷ, yn yr ardd ran amlaf. Nodwch mai eich cyfrifoldeb chi yw gwagio eich bwced toiled eich hunain. Mae safle gwaredu ar gyfer pob tŷ. Bydd y toiled hwn yn cael ei rannu gan yr holl breswylwyr sydd yn y tŷ.

 

Nid oes yna gawod na chyfleusterau ymolchi traddodiadol ar yr ynys. Mae powlen a jwg ym mhob ystafell wely, a bydd modd berwi dŵr i ymolchi. Dylech ddod â thywel ar gyfer dibenion ymolchi.

 

Gwres

Lleolir stôf aml-danwydd yn ystafell fyw’r tai. Os ydych yn dymuno’i thanio bydd cyflenwad o danwydd wedi ei leoli yn y tŷ i chi. Er mai ym mis Ebrill y byddwn yn ymweld, a’r gobaith yw y bydd y tywydd yn ffafriol, dylech ddod â dillad cynnes ar gyfer y gyda’r nosau, gan nad oes gwres yn yr ystafelloedd gwely.

 

Glanhau ac Ysbwriel

Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn gweithredu polisi hunanlanhau yn y tai, hynny yw, nid ydym yn codi tâl am lanhau, ond rydym yn gofyn i’n holl westeion adael y tŷ mewn cyflwr glân a thaclus yn barod ar gyfer y gwesteion nesaf.

 

Rydym hefyd yn gofyn i westeion fynd â’u holl sbwriel a’u heitemau i’w hailgylchu yn ôl gyda nhw. Gosodir biniau ailgylchu wrth y fynedfa i fferm Cwrt ar y tir mawr.

 

Dŵr / Dŵr yfed

Mae gan bob tŷ gyflenwad o ddŵr oer o ffynnon. Dylech fod yn ymwybodol bod dŵr yn brin yma a rhaid ei ddefnyddio’n ofalus ac yn gynnil. Mae dŵr y ffynnon ar gyfer yfed a choginio yn unig

 

Bwyd a Diod

Bydd eich prydau bwyd yn cael eu coginio a’u darparu i chi ar yr ynys, gyda brecwast, cinio syml a swper yn gynwysedig ym mhris y cwrs. Byddwn yn gofyn yn garedig i chi helpu i olchi’r llestri. Gallwn ddarparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion gwahanol, ond gofynnwn i chi roi gwybod i ni wrth archebu, os gwelwch yn dda, fel bod modd paratoi yn drylwyr ar eich cyfer. Byddwn yn argymell fod pawb yn dod â byrbrydau a diod gyda chi, ac yn eich atgoffa nad oes siop fwyd ar yr ynys, dim ond yr hyn sydd ar werth yn y fferm. Mae yna gaffi sydd yn darparu prydau, a chacennau, yn ogystal â chyflenwad o alcohol ar werth ar yr ynys. Dim ond gydag arian parod y mae modd talu am y rhain, felly gofalwch ddod ag arian parod gyda chi.

 

Cwestiynau Cyffredin

Beth ddylwn i bacio?

Dylech gludo cyn lleied â phosib o fagiau, os gwelwch yn dda, gan nad oes cymaint â hynny o le yn y cwch. Gofynnir i chi bacio pob dim mewn parseli bach sy’n hawdd eu trin a sicrhau eu bod wedi eu selio ac yn dal dŵr (cynwysyddion neu lapio mewn plastig) ac wedi eu pacio’n dda. Dylech nodi enw’r tŷ lle byddwch yn aros yn glir ar bob darn o eiddo. Fe all bagiau heb label enw gael eu dal yn ôl neu fynd ar goll.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â’r canlynol ar gyfer eich wythnos:

  • Esgidiau a dillad ar gyfer pob tywydd
  • Pyjamas cynnes, gan nad oes gwres yn yr ystafelloedd gwely
  • Llieiniau ac offer ymolchi
  • Fflachlamp dda a batris sbâr – ni chaniateir defnyddio canhwyllau
  • Meddyginiaeth – os ydych yn defnyddio unrhyw feddyginiaeth, dylech sicrhau eich bod yn dod â chyflenwad ychwanegol i barhau am o leiaf wythnos arall.
  • Pwysig – Paciwch eich bagiau mewn bocsys a bagiau bychain, wedi eu selio.

 

Noder: Bydd Tŷ Newydd yn gofalu am ddarparu gorchuddion cwilt, cynfasau a chasys gobennydd i bawb, yn ogystal â llieiniau sychu llestri.

 

Ddylwn i ddod ag unrhyw offer ychwanegol efo fi?

Yn naturiol, mae pen draw i faint o fagiau y gellir eu cludo ar y cwch. Fodd bynnag, fe all y canlynol ychwanegu at eich profiad yn Enlli:

  • Ysbienddrych
  • Deunyddiau celf a/neu chrefft
  • Gwialen bysgota / abwyd
  • Offerynnau cerddorol (heb fod yn rhy fawr!)
  • Camera a batris sbâr – ni chaniateir ffotograffiaeth fasnachol heb ganiatâd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.
  • Ffôn symudol – Dylech fod yn ymwybodol nad oes fawr o signal ffôn ar Enlli. Weithiau fe gewch signal ffôn symudol o Iwerddon all fod yn ddrud. Cewch signal ffôn 4G EE (y gorau) a Vodafone mewn rhai mannau ar yr ynys. Cofiwch nad oes trydan i ailwefrio eich ffôn symudol ar yr ynys.
  • Gwefrydd batri solar ar gyfer ffôn symudol neu dablet.

 

Ga i fynd i nofio?

Nid yw Ymddiriedolaeth Ynys Enlli na Thŷ Newydd yn cynghori pobl i hwylio, hwylio mewn caiac na nofio o gwmpas arfordir Enlli gan fod yr adlif yn gryf a peryglus. Mae unrhyw un o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal ar eich menter eich hun.

 

Beth sydd ar werth yn Fferm a Chaffi Tŷ Pellaf?

Mae’r caffi, sy’n cael ei redeg gan y teulu Roberts, yn cynnig diodydd, yn ogystal â hufen ia, byrbrydau a chacennau cartref amrywiol bob dydd.

 

Mae gan Dŷ Pellaf drwydded i werthu alcohol, sy’n lleihau’r angen i ddod â chyflenwadau gyda chi. Gweler y rhestr a phrisiau enghreifftiol, yma.

 

Yn ogystal â’r caffi, bydd y fferm yn gwerthu wyau ffres, llysiau tymhorol, crancod a chimychiaid wedi’u berwi neu ffres yn syth oddi ar y cwch.

 

Beth fydd yn digwydd os bydd tywydd garw a’r cwch yn methu croesi?

Os yw’r tywydd yn rhy ddrwg i’r cwch groesi ar y diwrnod a drefnwyd yn wreiddiol, bydd Colin Evans, y Capten, yn trefnu croesi ar y diwrnod nesaf sydd yn addas.

 

Bydd Tŷ Newydd yn cysylltu â phawb cyn gynted â phosib os fydd angen newid unrhyw drefniadau.

 

Oes yna ystafell gwely i lawr grisiau?

Mae holl lofftydd Plas Bach a Tŷ Capel i fyny’r grisiau.

 

Sut mae ein holl fagiau’n cael eu cludo i’r cwch ac i’n llety ar ôl i ni gyrraedd yr ynys?

Bydd eich bagiau yn cael eu cludo gan gerbyd 4×4 a threlar i lawr i’r cwch ym Mhorth Meudwy a bydd y tractor a’r trelar neu fygi yn eu casglu o’r cwch ar ôl i chi gyrraedd Enlli.

 

Sicrhewch fod eich bagiau mewn bocsys a bagiau bach hawdd eu trin, gan fod angen eu codi ar y cwch. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â phacio popeth mewn cês mawr trwm.

 

Hoffwn gael mwy o wybodaeth am y toiled compost, a allwch chi egluro sut mae’n gweithio?

Mae’r toiledau ar gyfer gwesteion yn doiledau compost syml. Mae ganddyn nhw sedd toiled uwchben bwced. Pan fyddwch wedi defnyddio’r toiled, dim ond papur toiled sy’n cael ei roi yn y toiled, darperir biniau ar gyfer yr holl ddeunyddiau eraill gellir eu compostio. Ychwanegir mymryn bach o lwch llif ar ôl ei ddefnyddio.

 

Pa oleuadau sydd yn ein llety?

Nid oes trydan yn y tai yn Enlli. Darperir lampau solar. Rydym yn argymell i chi dod â thortsh a fflachlamp p neu ddwy, a batris sbâr, yn enwedig ar gyfer unrhyw deithiau i’r toiled gyda’r nos!

Y newyddion da yw, yn Enlli, cewch gyfle i fwynhau un o ardaloedd gyda’r awyr dywyllaf yng Nghymru, a digon o gyfleoedd i syllu ar y sêr.

 

Beth yw’r sefyllfa ynglŷn ag ystafelloedd ymolchi a chawod?

Nid oes ystafelloedd ymolchi na chawodydd yn unrhyw un o dai gwyliau Enlli; darperir bowlenni ymolchi. Rydych chi’n defnyddio dŵr o’r gasgen ddŵr y tu allan (nid dŵr y ffynnon gan fod hwn ar gyfer yfed a choginio yn unig). Rydych yn cynhesu’ch dŵr ymolchi ar y stôf mewn sosban fawr a ddarperir i chi. Mae yna ddigon o bowlenni yn y tai, felly gallwch chi fynd â nhw i’ch ystafell i ymolchi. Mae gan Plas Bach ystafell y gellir ei defnyddio fel ystafell ymolchi. Mae’r toiled yn doiled compost sydd wedi’i leoli yn yr ardd.

 

Mae gennyf anabledd neu gyflwr sy’n effeithio ar fy symudedd. Yw’r cwrs hwn yn addas i mi?

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i addasu’r trefniadau ble bynnag fo hynny’n bosib.

Tiwtoriaid

Marian Delyth

Jon Gower

Mae Jon Gower wedi llenwi hanner ei silff lyfrau bellach â’i lyfrau ei hun, dros ddeugain ohonynt, gan gynnwys Y Storïwr (Gwasg Gomer, 2011), Norte (Gwasg Gomer, 2015), Rebel Rebel (Y Lolfa, 2016) a The Story of Wales (Ebury Publishing, 2013). Bu’n ohebydd y celfyddydau a’r cyfryngau i BBC Cymru ac yn gymrawd rhyngwladol i Ŵyl y Gelli ac hefyd gweithio i’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Mae Enlli yn ymddangos yn ei waith yn gyson, megis yn ei lyfr diweddaraf, The Turning Tide: A Biography of the Irish Sea a Wales At Water’s Edge: A Coastal Journey (HarperCollins, 2023).

Elinor Gwynn

Gyda chefndir mewn gwyddoniaeth a chyfraith amgylcheddol mae gan Elinor Gwynn brofiad helaeth o weithio ym maes tirwedd ac amgylchedd, treftadaeth a chynaliadwyedd. Mae hi wedi gweithio i nifer o fudiadau gwahanol megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae hi hefyd wedi gweithio’n llawrydd mewn meysydd amrywiol, o ysgrifennu a chyfieithu creadigol i gynghori ar geisiadau a chynlluniau grant treftadaeth. Mae Elinor newydd gwblhau doethuriaeth ar y berthynas rhwng iaith a’r amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth a chafodd ei gwobrwyo yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 am waith ysgrifennu amgylcheddol.    

Darllenydd Gwadd

Iestyn Tyne

Magwyd Iestyn Tyne ar fferm ym Moduan, ac y mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon gyda'i deulu. Mae'n gyd-sefydlydd a chyd-olygydd cylchgrawn a chyhoeddiadau'r Stamp, ac mae wedi cyhoeddi tair casgliad o farddoniaeth hyd yma. Mae'n aelod o nifer o grwpiau cerddorol ac wedi perfformio ei waith ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys teithiau yn Ewrop, De America ac Affrica. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2016 a'i Chadair yn 2019, ac ef yw'r cyntaf erioed i fod wedi ennill y ddwy brif wobr lenyddol yn eisteddfodau'r Urdd. Yn 2019, fe'i penodwyd yn fardd preswyl cyntaf erioed yr Eisteddfod Genedlaethol, gan dderbyn y gwaith o ymateb i ymgyrch gymunedol Prifwyl Llŷn ac Eifionydd 2023. Mae'n gyd-olygydd y casgliad o ysgrifau am ddyfodol Cymru, Welsh (Plural) (Repeater, 2022), a gyhoeddir ym mis Mawrth 2022. Enillodd cyfres Y Pump (Y Lolfa, 2021), y bu'n rhan ohono gyda naw o awduron a chyd-awduron eraill, gategori uwchradd gwobr Tir Na N-Og 2022. Cyrhaeddodd ei drydydd casgliad o gerddi, Stafelloedd Amhenodol (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2021), restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2022. 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811