Datblygu Arfer Barddonol Cynaliadwy ac o’r Galon

Llu 2 Mehefin 2025 - Gwe 6 Mehefin 2025
Tiwtoriaid / Kim Moore & Roger Robinson
Darllenydd Gwadd / Malika Booker (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £650 - £750 y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Sut allwch chi gydbwyso aros am yr awen â bod yn ddigon cynhyrchiol i allu ennill bywoliaeth greadigol gynaliadwy? Beth yw rôl artist yn ein byd cymhleth, cyfnewidiol? Sut allwch chi gynhyrchu syniadau newydd a goresgyn blociau creadigol? Sut mae llunio cerdd, pamffled neu gasgliad gwreiddiol? Sut mae dechrau arni, ac yn bwysicach fyth – sut ydych chi’n cario ymlaen? Dewch i archwilio’r cwestiynau allweddol hyn a mwy gyda’r beirdd arobryn Kim Moore a Roger Robinson. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn cael eich cyflwyno i dechnegau newydd i ddatgloi eich ysgrifennu a’ch creadigrwydd, datblygu eich dealltwriaeth o dirweddau barddonol y gorffennol a’r cyfoes, a mireinio’ch llais. Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu nid yn unig at feirdd newydd sydd ar ddechrau eu siwrnai ond hefyd beirdd mwy profiadol sydd am fywiogi eu barddoniaeth. Byddwch yn barod ar gyfer gweithdai grŵp bywiog, tiwtorialau un-i-un cefnogol ac adeiladol, a chyfle i feithrin arfer barddonol cynaliadwy sy’n driw i’ch llais a fydd yn aros gyda chi ymhell ar ôl i’r cwrs ddirwyn i ben.

Tiwtoriaid

Kim Moore

Enillodd casgliad cyntaf o farddoniaeth Kim MooreThe Art of Falling (Seren, 2015) Wobr er cof am Geoffrey Faber yn 2016. Cyrhaeddodd ei cherdd In That Year restr fer Gwobr Forward ar gyfer Cerddi Unigol Gorau yn 2015. Enillodd Wobr Awduron Northern yn 2014, Gwobr Eric Gregory yn 2011, a Gwobr Geoffrey Dearmer yn 2010. Enillodd Gystadleuaeth Poetry Business gyda ei phamffledd If We Could Speak Like Wolves yn 2012, ac roedd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Michael Marks yn The Independent fel Llyfr y Flwyddyn. Mae hi ar ganol ei PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion ac yn gweithio ar ei hail gasgliad o gerddi. Mae hi'n un o feirniaid Gwobr Forward for Poetry yn 2020 ac yn Gyd-Gyfarwyddwr Gŵyl Farddoniaeth Kendal.

Roger Robinson

Mae Roger Robinson, awdur a pherfformiwr sy’n adnabyddus ar draws y byd, wedi ennill amrywiaeth o wobrau gan gynnwys Gwobr T.S. Eliot 2019, Gwobr Ondaatje RSL 2020, a Chymrodoriaeth RSL. Mae Decibel a Chyngor Celfyddydau Lloegr wedi ei ganmol fel unigolyn dylanwadol yn natblygiad llenyddiaeth Ddu-Brydeinig. Mae ei waith yn amlwg mewn sawl blodeugerdd uchel ei pharch fel The Forward Book Of Poetry 2024 (Faber & Faber, 2023) a The Penguin Book of New Black Writing in Britain (Penguin, 2021). Mae comisiynau Roger yn rhychwantu sefydliadau mawreddog fel y BBC, Tate, a The National Portrait Gallery. Mae'n feirniad uchel ei glod ar gyfer gwobrau llenyddol o fri fel Gwobr Folio a Gwobr T.S. Eliot, gyda’i gerdd, A Portable Paradise, yn rhan o faes llafur TGAU Llenyddiaeth Saesneg. Mae gweithdai Roger wedi derbyn canmoliaeth lu, a’i lyfrau A Portable Paradise (Peepal Tree Press, 2019), Home is Not A Place (William Collins, 2022) a The Butterfly Hotel (The Peepal Tree Press, 2013) wedi ennill enwebiadau di-ri. Fel cyd-sylfaenydd Spoke Lab a Malika’s Kitchen, hyd heddiw, mae’n cyfrannu’n sylweddol at gymunedau llenyddol byd-eang.

Darllenydd Gwadd

Malika Booker (Digidol)

Mae Malika Booker yn fardd Prydeinig a Charibïaidd. Hi yw'r fenyw gyntaf i ennill Gwobr Forward am y Gerdd Unigol Orau ddwywaith: The Little Miracles (2020) a Libation (2023). Mae’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion a’n gyd-sylfaenydd Poetry Kitchen Malika (cymuned o awduron). Cyrhaeddodd ei chasgliad Pepper Seed restr fer Gwobr Bocas OCM a Gwobr Canolfan Seamus Heaney 2014. Cyhoeddwyd ei gwaith ochr yn ochr â beirdd fel Sharon Olds a Warsan Shire yng nghyfres  The Penguin Modern Poets 3 (Penguin, 2017). Yn 2022, etholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol 2022 a bellach mae hi’n Gymrawd Cave Canem, Cymrawd Complete Works, Bardd Preswyl cyntaf y Royal Shakespeare Company, a derbyniodd Wobr Cholmondeley yn 2019 am gyfraniad nodedig i farddoniaeth.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811