Awdur ffuglen sy'n byw yn Llundain yw Julia Armfield. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Granta, y White Review ac yn Best British Short Stories 2019 a 2021. Yn 2019, cafodd ei rhoi ar restr fer gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times. Enillodd Wobr Stori Fer y White Review 2018 a Gwobr Pushcart yn 2020. Hi ydy awdur Salt Slow (Picador, 2019), casgliad o straeon byrion a gyrhaeddodd restr hir Gwobr Polari 2020 a Gwobr Edge Hill 2020. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Our Wives Under the Sea (Picador, 2022), restr fer Gwobr Llyfr Ffuglen y Flwyddyn Foyles 2022 ac enillodd Wobr Polari 2023. Roedd ei hail nofel, Private Rites (Fourth Estate, 2024), ar restr hir y Wobr Ffuglen Hinsawdd gyntaf yn 2024 ac ar restr fer Gwobr Arthur C. Clarke 2025.
Datgelu eich Stori – Ffuglen Cwiar
Ydych chi’n greadigol ac yn cwiar, ac yn chwilio am amser a lle i ymroi i’ch ffuglen? Oes gennych chi nofel neu gasgliad o straeon byrion ar themâu cwiar yr hoffech ei wthio i’r lefel nesaf?
P’un a ydych chi hanner ffordd drwy ddrafft neu’n barod i ddechrau golygu, bydd yr awduron a’r tiwtoriaid profiadol Leone Ross a Julia Armfield yn rhoi’r offer i chi i fireinio’ch drafft. Cyfle i ddysgu technegau ar gyfer cloddio a chyfleu eich straeon a’ch cymeriadau, i gael cyngor hanfodol ar blot a strwythur, yn ogystal â thechnegau golygu. Nod y cwrs yw gwella’ch ysgrifennu ar lefel brawddeg ac ar lefel naratif. Cyfle i fagu hyder ac i wneud cysylltiadau gydag awduron sydd ar gam tebyg yn eu prosiect ysgrifennu.
Byddwch yn cael cyngor un-i-un ar eich gwaith, yn ogystal â hyfforddiant mewn gweithdai cydweithredol, a’r cyfan gyda’r nod o greu amgylchedd diogel a chefnogol i chi fynd i’r afael â’ch straeon o ddifri. Bydd angen anfon sampl o waith a chrynodeb at y tiwtoriaid cyn y cwrs – bydd cyfranogwyr yn cael rhagor o wybodaeth am hynny yn nes at yr amser.
Tiwtoriaid
Julia Armfield
Leone Ross
Mae Leone Ross yn ysgrifennu straeon byrion, yn olygydd ac yn awdur tair nofel. Mae ei ffuglen wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr y Menywod, gwobr Goldsmiths, gwobr RSL Ondaatje, a Gwobr Edge Hill, ymhlith eraill. Yn 2022, enillodd Wobr Ffuglen Manceinion am un stori fer. Mae The Guardian wedi canmol “empathi deifiol” ei gwaith ac mae’r Times Literary Supplement wedi’i galw “yn bwyntilydd, yn feistr ar fanylion...”. Mae Leone yn dysgu ysgrifennu creadigol ers ugain mlynedd, a bu’n gweithio fel newyddiadurwr drwy gydol y nawdegau. Cyhoeddwyd ei thrydedd nofel, This One Sky Day neu Popisho (Faber and Faber) yn 2021. Hi ydy golygydd Glimpse: A Black British Anthology of Speculative Fiction a gyhoeddwyd yn 2022 (Peepal Tree Press).
Darllenydd Gwadd
Sarah Waters
Ganed Sarah Waters yng Nghymru yn 1966. Mae’n awdur chwe nofel – Tipping the Velvet (Virago, 1998), Affinity (Virago, 1999), Fingersmith (Little Brown, 2002), The Night Watch (Little Brown, 2006), The Little Stranger (Little Brown, 2009) a The Paying Guests (Little Brown, 2014) – ac mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u haddasu ar gyfer y teledu, ffilm nodwedd neu’r llwyfan. Mae ei llyfrau wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Man Booker, Gwobr Orange a Gwobr Ffuglen y Menywod, ac mae hithau wedi ennill Gwobr Betty Trask, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times, Gwobr Lenyddiaeth y South Bank Show, a gwobr CWA Historical Dagger. Mae'n un o Gymrodyr y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol, ac yn 2019 dyfarnwyd OBE iddi am wasanaethau i lenyddiaeth.