Dechrau dy Nofel

Llu 8 Mawrth 2027 - Gwe 12 Mawrth 2027
Tiwtoriaid / Mark Haddon & Rachel Joyce
Darllenydd Gwadd / Carys Davies (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Ydych chi eisiau ysgrifennu eich darn cyntaf o ffuglen hir? Neu ydych chi’n teimlo’n siomedig gyda’r hyn rydych wedi’i ysgrifennu hyd yma? Mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i danio’ch creadigrwydd ac i roi’r hyder i chi roi cynnig ar bethau newydd.  

Gydag ystod eang o weithdai, ymarferion, trafodaethau grŵp a sesiynau un-i-un i ymestyn eich meddwl, byddwn ni i gyd yn dechrau gyda darnau gwag o bapur ac yn creu gwaith newydd, annisgwyl a deinamig. Bydd y cwrs yma, sy’n addas i’r rhai sy’n dechrau arni ac i’r rhai sy’n teimlo bod angen hwb ar eu hysgrifennu, yn cynnwys dau weithdy bob bore, gydag amser i ysgrifennu ac i fynd i sesiynau un-i-un yn y prynhawn. Nod y cwrs ydy eich annog i ymryddhau ac i ddianc rhag y rhwystrau sy’n eich dal yn ôl, a chreu gofod lle bydd dulliau a syniadau newydd ar gyfer ysgrifennu yn gallu dod atoch chi.  

Byddwn yn eich annog i rannu’ch gwaith, i gefnogi’ch gilydd, i roi cynnig ar dechnegau newydd ac i feddwl am eich amser gyda ni fel antur. Gofynnwn i chi ddod gyda meddwl agored, a – hyd yn oed i’r rhai ohonoch sydd wedi bod yn ysgrifennu eisoes – gyda thudalen wag. Dim ond pan fyddwch chi’n creu lle ar gyfer hynny y bydd newid yn dechrau digwydd. 

Tiwtoriaid

Mark Haddon

Mae Mark Haddon wedi ysgrifennu nofelau, straeon byrion, sgriptiau teledu, dramâu llwyfan, dramâu radio, llyfrau plant a barddoniaeth. Enillodd ei nofel, The Curious Incident of the Dog in the Night-Time (Vintage, 2004), nifer o wobrau a chafodd ei throi'n ddrama lwyfan sydd hefyd wedi ennill gwobrau. Casgliad o straeon byrion ydy ei waith ffuglen diweddaraf, Dogs and Monsters (Chatto, 2024). Cyhoeddwyd ei hunangofiant darluniadol, Leaving Home, yn 2026 (Chatto).

Rachel Joyce

Awdur ydy Rachel Joyce, sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi bod ar restrau gwerthwyr gorau’r Sunday Times ac ar restrau gwerthwyr gorau rhyngwladol. Hi ydy awdur The Unlikely Pilgrimage of Harold Fry (Doubleday, 2012), Perfect (Random House, 2014), The Love Song of Miss Queenie Hennessy (Black Swan, 2015), The Music Shop (Generic, 2018), Miss Benson’s Beetle (Black Swan, 2021), a Maureen Fry and the Angel of the North (Penguin, 2023) yn ogystal â chasgliad o straeon byrion cydgysylltiedig, A Snow Garden & Other Stories (Black Swan, 2016). Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, The Homemade God (Doubleday), yn 2025. Ar ôl cael ei hysgrifennu’n wreiddiol fel drama radio, cafodd y nofel lawn, The Unlikely Pilgrimage of Harold Fry, ei rhoi ar restr hir Gwobr Man Booker, ei rhoi ar restr fer Gwobr y Gymanwlad, a’i chyhoeddi mewn 37 o ieithoedd. Enillodd Rachel Wobr Awdur Newydd y Flwyddyn Specsavers yn 2012 a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Awdur y Flwyddyn Prydain yn 2014. Wedi hynny, addaswyd y llyfr gan Rachel ar gyfer ffilm yn serennu Jim Broadbent a Penelope Wilton a ryddhawyd yn 2023, a hi hefyd ysgrifennodd y llyfr ar gyfer sioe gerdd ohoni yn Theatr yr Ŵyl, Chichester. Perfformiwyd y sioe yn y West End yn Llundain rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2026. 

Darllenydd Gwadd

Carys Davies (Digidol)

Mae Carys Davies yn awdur tair nofel a dau gasgliad o straeon byrion. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, West (Granta, 2018), restr fer Gwobr Rathbones Folio, daeth yn ail yng Ngwobr McKitterick Cymdeithas yr Awduron, ac enillodd Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2019. Roedd ei hail nofel, The Mission House (Granta, 2020), yn Nofel y Flwyddyn The Sunday Times yn 2020. Enillodd ei nofel ddiweddaraf, Clear (Granta, 2024), Wobr Ondaatje 2025 y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol, Prix du Meilleur Livre Étranger 2025, a Phrif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2025. Cafodd Clear ei henwebu hefyd am nifer o wobrau eraill gan gynnwys Gwobr Walter Scott, Gwobrau Llyfrau Cenedlaethol yr Alban, y Prix Femina, y Prix Médicis, a'r Europeane Literatuurprijs. Enillodd ei chasgliad o straeon byrion The Redemption of Galen Pike (Salt Publishing, 2014) Wobr Stori Fer Ryngwladol Frank O'Connor a Gwobr Datgelu Ffuglen Jerwood. Mae Carys hefyd wedi ennill Gwobr V.S. Pritchett y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol a Gwobr Stori Fer Olive Cook Cymdeithas yr Awduron.  Mae wedi bod yn Gymrawd yng Nghanolfan Ysgolheigion ac Awduron Cullman Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd ac yn Sefydliad Syniadau a'r Dychymyg Prifysgol Columbia ym Mharis, ac mae'n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol. Ganwyd Carys yng Nghymru, cafodd ei magu yma ac yng Nghanolbarth Lloegr, bu’n byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd a Chicago am ddeuddeg mlynedd, ac mae bellach yn byw yng Nghaeredin. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811