Dechrau eich Nofel

Llu 11 Mai 2026 - Gwe 15 Mai 2026
Tiwtoriaid / Mark Haddon & Rachel Joyce
Darllenydd Gwadd / David Nicholls (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Ydych chi eisiau ysgrifennu eich darn cyntaf o ffuglen hir? Neu ydych chi’n teimlo’n siomedig ac yn unig gyda’r hyn rydych wedi’i ysgrifennu? Mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i danio’ch creadigrwydd ac i roi’r hyder i chi i roi cynnig ar bethau newydd.

Gydag ystod eang o weithdai, ymarferion, trafodaethau grŵp a sesiynau un-i-un i ymestyn eich meddwl, byddwn ni i gyd yn dechrau gyda darnau gwag o bapur ac yn creu gwaith newydd, annisgwyl a deinamig. Bydd y cwrs yma, sy’n addas i’r rhai sy’n dechrau ysgrifennu ac i’r rhai sy’n teimlo bod angen hwb ar eu hysgrifennu, yn cynnwys dau weithdy bob bore, gydag amser i ysgrifennu ac i fynd i sesiynau un-i-un yn y prynhawn. Nod y cwrs ydy eich annog i ymryddhau ac i ddianc rhag y rhwystrau sy’n eich dal yn ôl, a chreu gofod lle bydd dulliau a syniadau newydd ar gyfer ysgrifennu yn gallu dod atoch chi.

Byddwn yn eich annog i rannu eich gwaith, i gynnig cefnogaeth i’ch gilydd, i roi cynnig ar dechnegau newydd ac i feddwl am eich amser gyda ni fel antur. Gofynnwn i chi ddod gyda meddwl agored, a – hyd yn oed i’r rhai ohonoch sydd wedi bod yn ysgrifennu eisoes – gyda thudalen wag. Dim ond pan fyddwch chi’n gwneud lle ar gyfer newid y bydd yn dechrau digwydd.

Tiwtoriaid

Mark Haddon

Mae Mark Haddon wedi ysgrifennu nofelau, straeon byrion, sgriptiau teledu, dramâu llwyfan, dramâu radio, llyfrau plant a barddoniaeth. Enillodd ei nofel The Curious Incident of the Dog in the Night-Time (Vintage, 2004) nifer o wobrau a chafodd ei throi'n ddrama lwyfan sydd hefyd wedi ennill gwobrau. Casgliad o straeon byrion ydy ei lyfr diweddaraf, Dogs and Monsters (Chatto, 2024). Cyhoeddir ei hunangofiant darluniadol, Leaving Home (Vintage), ym mis Chwefror 2026.

Rachel Joyce

Mae Rachel Joyce, yn awdur arobryn â‘i chyfrolau wedi bod ar restrau gwerthwyr gorau’r Sunday Times ac ar restrau gwerthwyr gorau rhyngwladol. Hi ydy awdur The Unlikely Pilgrimage of Harold Fry (Doubleday, 2012), Perfect (Random House, 2014), The Love Song of Miss Queenie Hennessy (Black Swan, 2015), The Music Shop (Generic, 2018), Miss Benson’s Beetle (Black Swan, 2021), a Maureen Fry and the Angel of the North (Penguin, 2023) yn ogystal â chasgliad o straeon byrion cydgysylltiedig, A Snow Garden & Other Stories (Black Swan, 2016). Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, The Homemade God (Doubleday), yn 2025. Ar ôl cael ei hysgrifennu’n wreiddiol fel drama radio, cafodd y nofel lawn The Unlikely Pilgrimage of Harold Fry ei rhoi ar restr hir Gwobr Man Booker, ei rhoi ar restr fer Gwobr y Gymanwlad, a’i chyhoeddi mewn 37 o ieithoedd. Enillodd Rachel Wobr Awdur Newydd y Flwyddyn Specsavers yn 2012 a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Awdur y Flwyddyn Prydain yn 2014. Wedi hynny, addaswyd y llyfr gan Rachel ar gyfer ffilm yn serennu Jim Broadbent a Penelope Wilton a ryddhawyd yn 2023, a hi hefyd ysgrifennodd y llyfr ar gyfer sioe gerdd ohoni yn Theatr yr Ŵyl, Chichester. Yn 2026, bydd y sioe’n dechrau ar rediad yn y West End yn Llundain.

Darllenydd Gwadd

David Nicholls (Digidol)

Awdur sydd wedi bod ar restrau’r gwerthwyr gorau ydy David Nicholls, ac awdur You Are Here (2025), Sweet Sorrow (2020), Us (2015), One Day (2009), The Understudy (2006), a Starter for Ten (2003). Mae ei nofelau wedi gwerthu dros wyth miliwn o gopïau ac wedi'u cyhoeddi mewn deugain iaith. Wedi ei hyfforddi'n wreiddiol fel actor, symudodd David Nicholls i faes ysgrifennu a daeth yn sgriptiwr llwyddiannus, gyda gwaith yn cynnwys Cold Feet, Much Ado About Nothing, The 7.39, a Tess of the D’Urbervilles. Bu hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer Great Expectations (2012) a Far from the Madding Crowd (2015). Enillodd ei addasiad o Patrick Melrose wobr BAFTA ac enwebiad am wobr Emmy. Cafodd Starter for Ten ei dewis ar gyfer Clwb Llyfrau Richard a Judy ac fe'i haddaswyd yn ffilm yn ddiweddarach. Cafodd One Day ganmoliaeth eang, treuliodd ddeg wythnos ar restr gwerthwyr gorau’r Sunday Times, ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Galaxy 2010. Cafodd Us ei rhoi ar restr hir Gwobr Man Booker 2014, ac enwyd David Nicholls yn Awdur y Flwyddyn. Cyfrannodd at addasiad diweddar Netflix o One Day, ac aeth ei nofel ddiweddaraf, You Are Here, i frig rhestrau’r gwerthwyr gorau.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811