Magwyd Siân Melangell Dafydd ar droed y Berwyn, lle mae wedi dychwelyd er iddi fyw a gweithio yn yr Eidal mewn orielau, ac yn Ffrainc ym Mhrifysgol America, Paris. Siân yw awdur Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009), enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod 2009 a chyd-olygydd olaf y cylchgrawn llenyddol eiconig, Taliesin. Mae’n gweithio’n ddiwyd â beirdd o’r India ac ar ymchwil doethuriaeth yn defnyddio yoga ac ysgrifennu fel ymarferion cyfochrog creadigol. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Filò (Gwasg Gomer), yng ngaeaf 2019.
Dihangfa Dawel
Ymunwch â ni ar gyfer dihangfa dawel wythnos o hyd ble byddwch chi’n cael eich annog i ddad-blygio o’r byd digidol wrth i chi adael sgriniau, WiFi a sgrolio diddiwedd. Bydd yr encil hwn, sy’n cynnwys yr holl brydau bwyd, yn cael ei arwain gan yr awdur arobryn a’r ymarferydd yoga ardystiedig Siân Melangell Dafydd, ac yn cynnig seibiant, i ffwrdd o holl brysurdeb ein bywydau cyflym ac yn cynnig lle i ddatgysylltu o’r digidol ac i ailgysylltu â’ch ysgrifennu. Mewn awyrgylch tawel, cefnogol a diogel byddwch yn darganfod persbectif newydd ar eich gwaith creadigol a bwriad newydd ar gyfer eich prosiectau. Wedi’i leoli mewn lleoliad heddychlon yng nghanol llonyddwch gorffenedig Eifionydd, byddwch hefyd yn gallu cael eich ysbrydoli gan y golygfeydd godidog o’r môr dros Fae Ceredigion, dyfroedd bywiog afon Dwyfor a’r bywyd gwyllt amrywiol sydd i’w ganfod rhwng y môr a’r mynydd.
Bydd gwahoddiad i chi ymuno mewn dau weithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad eich tiwtor, gan gynnig cyfle i feithrin eich creadigrwydd, ochr yn ochr â sesiynau yoga adferol (dewisiol) a sesiynau un-i-un wedi’w teilwra at eich anghenion penodol.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Dŷ Newydd am wythnos o ddiffodd, dod o hyd i heddwch ac ailddarganfod eich hun a’ch gwaith ysgrifennu.
Tiwtor

Siân Melangell Dafydd
Darllenydd Gwadd

Cai Tomos
Mae Cai Tomos (fo/fe) yn artist Cymreig. Mae ei waith, yn ei hanfod, yn ymwneud â symud, yn ei holl ffurfiau. Mae’n dueddol o symud rhwng gwahanol ffurfiau celfyddydol sy’n adlewyrchu gwahanol agweddau o’i ymarfer, ond, yn y bôn, mae ganddo ddiddordeb yn y dychymyg a’i berthynas â’n cyrff. Mae’n gweithio mewn cartrefi gofal, theatrau, ysbytai seiciatrig, ystafelloedd byw tai pobl, corneli stryd ac yn gweithio un-i-un gyda phobl mewn gwelyau ysbytai. Mae o wedi hyfforddi fel Dawnsiwr, Seicotherapydd Celf a hwylusydd or dechneg Profiad-Somatic (somatic experiencing) sef ffordd i drin trawma drwy ymwybyddiaeth corfforol.