Dihangfa Di-Dechnoleg: Diffodd y Ffôn i Ddeffro’r Awen

Llu 10 Mawrth 2025 - Gwe 14 Mawrth 2025
Tiwtor / Siân Melangell Dafydd
Ffi’r Cwrs / O £525 - £625 y pen
Genres / BarddoniaethFfeithiolFfuglenIechyd a LlesNaturyoga
Iaith / CymraegDwyieithogSaesneg

Ymunwch â ni ar gyfer dihangfa dawel wythnos o hyd ble byddwch chi’n cael eich annog i ddad-blygio o’r byd digidol wrth i chi adael sgriniau, WiFi a sgrolio diddiwedd. Bydd yr encil hwn yn cael ei arwain gan yr awdur arobryn a’r ymarferydd yoga ardystiedig Siân Melangell Dafydd, ac yn cynnig seibiant, i ffwrdd o holl brysurdeb ein bywydau cyflym ac yn cynnig lle i ddatgysylltu o’r digidol ac i ailgysylltu â’ch ysgrifennu. Mewn awyrgylch tawel, cefnogol a diogel byddwch yn darganfod persbectif newydd ar eich gwaith creadigol a bwriad newydd ar gyfer eich prosiectau. Wedi’i leoli mewn llecyn heddychlon yng nghanol llonyddwch gorffenedig Eifionydd, cewch hefyd eich ysbrydoli gan y golygfeydd godidog o’r môr dros Fae Ceredigion, dyfroedd bywiog afon Dwyfor a’r bywyd gwyllt amrywiol sydd i’w ganfod rhwng y môr a’r mynydd.

Bydd gwahoddiad i chi ymuno mewn dau weithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad eich tiwtor, gan gynnig cyfle i feithrin eich creadigrwydd, ochr yn ochr â sesiynau yoga adferol (dewisol) a sesiynau un-i-un wedi’i teilwra at eich anghenion penodol.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Dŷ Newydd am wythnos o ddiffodd, dod o hyd i heddwch ac ailddarganfod eich hun a’ch gwaith ysgrifennu.

Tiwtor

Siân Melangell Dafydd

Magwyd Siân Melangell Dafydd ar droed y Berwyn, lle mae wedi dychwelyd er iddi fyw a gweithio yn yr Eidal mewn orielau, ac yn Ffrainc ym Mhrifysgol America, Paris. Siân yw awdur Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009), enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod 2009 a chyd-olygydd olaf y cylchgrawn llenyddol eiconig, Taliesin. Mae’n gweithio’n ddiwyd â beirdd o’r India ac ar ymchwil doethuriaeth yn defnyddio yoga ac ysgrifennu fel ymarferion cyfochrog creadigol. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Filò (Gwasg Gomer), yng ngaeaf 2019.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811