Dosbarth Meistr Barddoniaeth yr Haf

Llu 2 Medi 2024 - Sad 7 Medi 2024
Tiwtoriaid / Gillian Clarke & Maura Dooley
Darllenydd Gwadd / Imtiaz Dharker
Ffi’r Cwrs / O £725 - £825 y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Dyddiad cau: 30 Mehefin

Dan arweiniad cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru a chyn-Fardd Llawryfog (Poet Laureate) Ynysoedd Prydain, mae’r dosbarth meistr hwn wedi ei anelu at feirdd ymroddedig sydd yn edrych i ddatblygu eu crefft ymhellach. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdy grŵp bob bore i sbarduno cerddi newydd, amser i ysgrifennu’n unigol, a phrynhawniau rhydd i ddarllen neu chwilio am ysbrydoliaeth yn nhirwedd brydferth Tŷ Newydd a’r ardal. Byddwch yn mwynhau dwy noson o ddarlleniadau barddoniaeth: un gan y tiwtoriaid, a’r llall gan ddarllenydd gwadd a bydd y cwrs yn dod i ben gyda chreu blodeugerdd o waith y beirdd a’r tiwtoriaid, a dathliad yn y llyfrgell fin nos o’r gwaith fydd wedi ei gyfansoddi. Cwrs fydd hwn i herio ac ysbrydoli awduron sy’n awyddus i ddatblygu arddull, telynegiaeth a phosibiliadau dychmygus eu barddoniaeth.

 

Sut i wneud cais am le ar y Dosbarth Meistr:

Bydd 14 bardd yn cael eu dethol ar gyfer y Dosbarth Meistr hwn drwy broses ymgeisio cystadleuol. Y tiwtoriaid fydd yn dewis y beirdd, a hynny ar sail safon, potensial a ffresni’r cais a’r cerddi y caiff eu cyflwyno. Yn unol â’n gwerthoedd ar gydraddoldeb a chynrychiolaeth, gellir ystyried ffactorau fel cefndir, nodweddion a gaiff eu tangynrychioli, a daearyddiaeth yn ogystal.

I ymgeisio, llenwch y ffurflen gais syml hon. Noder os gwelwch yn dda y bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi uwchlwytho enghraifft o’ch cerddi, ac rydym yn awgrymu rhwng pedair a chwe cherdd wreiddiol yn y Saesneg. Os oes angen cymorth arnoch gyda’r cais, cysylltwch â ni.

Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr i gyd gychwyn fis Gorffennaf gyda chanlyniad y broses ddethol.

Tiwtoriaid

Gillian Clarke

Gillian Clarke oedd Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-2016, a dyfarnwyd iddi Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010. Mae rhai o’i chasgliadau diweddar yn cynnwys Selected Poems, a gyhoeddwyd gan Picador yn 2016, Zoology, ei nawfed casgliad gan Carcanet yn 2017, a Roots Home, ysgrifau a myfyrdodau gan Carcanet yn Chwefror 2021. Cyhoeddwyd ei fersiwn o gerdd Aneirin o’r 7fed ganrif, Y Gododdin, fel testun dwyieithog gan Faber ym mis Mai 2021. Mae casgliad o gerddi, The Silence, ar y gweill ganddi.  

Maura Dooley

Casgliad diweddaraf Maura Dooley o farddoniaeth yw Five Fifty-Five (Bloodaxe Books, 2023). Cyhoeddodd Bloodaxe Books Negative of a Group Photograph yn 2018, sef ei fersiwn Saesneg hi o gerddi gan ybardd Iraneg alltud Azita Ghahreman, a grëwyd ar y cyd ag Elhum Shakerifa. Derbyniodd y gyfrol wobr PEN yn ogytsal â chyrraedd rhestr fer Gwobr Warwick Women in Translation. Mae Maura wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward Single Poem Award, ddwywaith ar gyfer Gwobr TS Eliot ac mae wedi derbyn Gwobr Gregory a Gwobr Cholmondeley. Mae Maura hefyd wedi tiwtora ffuglen a chofiant, wedi rhaglennu gwyliau llenyddol ac wedi gweithio ym myd y theatr. Mae hi’n Athro Emerita yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, ac yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. 

Darllenydd Gwadd

Imtiaz Dharker

Mae Imtiaz Dharker yn fardd, artist a gwneuthurwr ffilmiau a enillodd Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2014. Mae hi wedi bod yn Fardd Preswyl yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt ac mae wedi gweithio ar sawl prosiect ar draws ffurfiau celfyddydol amrywiol yn Leeds, Newcastle a Hull yn ogystal ag yn Archifau Eglwys Gadeiriol St Paul. Mae ei chwe chasgliad yn cynnwys Over the Moon (Bloodaxe, 2014) a’r diweddaraf, Shadow Reader (Bloodaxe, 2024) gyda’i cherddi wedi eu harddangos ar rheilffordd danddaearol Llundain, ar fysiau y ym Mumbai ac wedi’i darlledu ar y teledu a’r radio. Mae hi wedi cael unarddeg arddangosfa unigol o’i lluniadau a sgriptiau ac mae hi’n cyfarwyddo ffilmiau, gyda llawer ohonyn nhw ar gyfer sefydliadau anllywodraethol sy’n gweithio ym maes lloches, addysg ac iechyd i fenywod a phlant yn India. 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811