Drafftio a Diffiinio Cerddi

Mer 21 Chwefror 2024
Tiwtor / Aaron Kent
Ffi’r Cwrs / O £14 y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

6.00 – 7.30 pm

Yn y gweithdy hwn, byddwch yn cael eich cefnogi gan y bardd, tiwtor profiadol, a’r golygydd Aaron Kent i ganfod syniadau newydd ar gyfer eich barddoniaeth a mireinio eich drafftiau cyntaf. O ddod o hyd i ysbrydoliaeth, i ddewis y geiriau cywir, i greu awyrgylch, bydd Aaron yn hwyluso trafodaethau ac ymarferion ysgrifennu creadigol fydd yn eich helpu i ddatblygu eich llais ac adnabod y prif themâu yn eich gwaith. Mewn gofod cefnogol a hamddenol, byddwch yn dysgu sut y gallwch fynd â’ch ysgrifennu – a’ch ail-ysgrifennu – i’r lefel nesaf. Mae’r gweithdy hwn yn agored i feirdd newydd a phrofiadol fel ei gilydd, unrhyw un sy’n chwilio am ychydig o arweiniad creadigol a hwb i’w hyder a chymhelliant.

Darperir adnoddau gyda’r gweithdy hwn i ymestyn eich astudiaeth, eich helpu gydag ysgrifennu pellach, a’ch cyfeirio at gyfleoedd cyhoeddi yn y ffurf hon.

Tiwtor

Aaron Kent

Mae Aaron Kent yn awdur dosbarth gweithiol, yn oroeswr strôc ac yn anhunwr o Gernyw. Cyhoeddwyd ei ail gasgliad, The Working Classic, gan the87press. Mae wedi darllen ei farddoniaeth ar gyfer y BBC, The Shakespeare Birthplace Trust, a’r Gymdeithas Strôc. Mae wedi cyhoeddi gwaith mewn gwahanol gyfnodolion, ac mae'n diwtor i Arvon. Mae ei farddoniaeth wedi'i gyfieithu i amryw o ieithoedd gan gynnwys Ffrangeg, Hwngareg, Almaeneg, Cymraeg, a Chernyweg, ac wedi'i osod i gerddoriaeth.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811