Encil Di-diwtor yr haf

Llu 4 Awst 2025 - Gwe 8 Awst 2025
Ffi’r Cwrs / O £450 - £550 y pen
Genre / aml-genre
Iaith / CymraegDwyieithogSaesneg

Dyma gyfle i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i noddfa greadigol – i’r lleoliad heddychlon hwnnw lle gallwch fynd i orffen ysgrifennu eich nofel, neu darllen a synfyfyrio efallai? Bydd ein hencilion, o fewn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd, yn cynnig y ddihangfa berffaith i chi. Gallwch fynd am dro ar hyd y Lôn Goed, cerdded i’r traeth i chwilio am ysbrydoliaeth, a rhannu syniadau dros swper gyda’ch cyd-letywyr. Bydd pawb â’i ystafell ei hun – a bydd prydau bwyd cartref yn cael eu paratoi ar eich cyfer.

Am flas o goginio Tony (ein cogydd preswyl) cliciwch yma.

Mae ein encilion, sydd wedi eu harlwyo yn llawn, hefyd yn rhoi amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio. Wedi’i leoli mewn lleoliad heddychlon yn amgylchedd godidog gogledd-orllewin Cymru, cewch eich ysbrydoli gan y golygfeydd godidog o’r môr dros Fae Ceredigion, rhannu syniadau dros swper neu gael hoe ac ymlacio yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd.

Mae’r encil hwn yn rhan o’n cyfres o encilion tymhorol di-diwtor sy’n cael eu cynnal yn ystod gwanwyn, haf a hydref 2025. Bydd awduron sy’n archebu lle ar ddau encil di-diwtor yn elwa o ostyngiad o 15% tra bydd awduron sy’n archebu lle ar y tri yn elwa o ostyngiad o 30% ar eu harcheb. I fanteisio ar y gostyngiad hwn, ychwanegwch ddau neu fwy o encilion di-diwtor i’ch basged ac ychwanegwch y cod, ‘2encil’ os yn archebu dau, neu ‘3encil’ os yn archebu tri, wrth dalu.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811