Encil Folding Rock: ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau

Llu 9 Tachwedd 2026 - Gwe 13 Tachwedd 2026
Tiwtoriaid / Kathryn Tann & Robert Harries
Darllenydd Gwadd / Darllenydd Gwadd
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / aml-genreFfeithiolFfuglen
Iaith / Saesneg

Ar yr encil yma, byddwn yn ymuno â golygyddion sefydlu Folding Rock, cylchgrawn llenyddol a sefydlwyd yn 2024 i helpu i roi Cymru ac ysgrifennu o Gymru ar y map. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar greu darnau byrion cryno a gafaelgar o waith ffuglennol a ffeithiol greadigol fydd yn addas ar gyfer cylchgronau., Bydd y tiwtoriaid yn codi cwr y llen cylchgrawn Folding Rock, ac yn rhoi arweiniad ar olygu, paratoi a chyflwyno’ch gwaith i’w ystyried, yn ogystal â datblygu portffolio o waith a fydd yn denu sylw

Bydd cynrychiolwyr o rai o’r cyhoeddiadau cyffrous eraill yng ngwledydd Prydain, Iwerddon a’r tu hwnt o bosib, yn ymuno â ni ar-lein yn ystod yr wythnos.

Tiwtoriaid

Kathryn Tann

Awdur, golygydd a chynhyrchydd creadigol o Fro Morgannwg yw Kathryn Tann. Mae wedi gweithio gyda chyhoeddwyr annibynnol fel Parthian Books ac fel cynhyrchydd rhaglenni ar gyfer New Writing North. Mae wedi ennill gwobrau Rising Star gan  The Bookseller a’r Elusen Argraffu. Mae gwaith Kathryn ei hun wedi ei gyhoeddi a’i ganmol yn helaeth, gan gynnwys casgliad o ysgrifau, Seaglass, gyda Llyfrau Calon ym mis Mai 2024 ac erthyglau ar gyfer papurau newydd fel The GuardianThe Scotsman a The Bookseller. Roedd ei hysgrif, ‘Return to Water’, yn enillydd un o’r categorïau yng ngwobrau’r New Welsh Writing Awards yn 2021. Mae Kathryn yn arwain ar waith ffeithiol greadigol, ac yn rheoli partneriaethau, rhaglenni, strategaeth a nawdd.

Robert Harries

Golygydd a dylunydd o Abertawe yw Robert Harries. Mewn cyfnod o ddegawd a mwy ym myd cyhoeddi, mae wedi gweithio'n fewnol ac ar ei liwt ei hun i sawl tŷ cyhoeddi yn Llundain ac un o weisg annibynnol mwyaf nodedig Cymru, Parthian Books, cyn sefydlu Folding Rock ar y cyd â’r awdur Kathryn Tann yn 2024. Yn ystod ei yrfa, mae Rob wedi golygu teitlau gan ystod eang o awduron, gan gynnwys Sophie Mackintosh, Joe Dunthorne, Anthony Shapland, Stevie Davies, Max Boyce, Richard Zimler a Joshua Jones, a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Dylan Thomas 2024. Mae Rob yn arwain ar ffuglen i Folding Rock, yn ogystal â rheoli'r gwaith dosbarthu, cynhyrchu, adylunio.

Darllenydd Gwadd

Darllenydd Gwadd

Bydd y darllenydd gwadd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811