Encil: Golygu a Chyflwyno Cerddi

Llu 29 Gorffennaf 2024 - Gwe 2 Awst 2024
Tiwtoriaid / Zoë Brigley & Rhian Edwards
Darllenydd Gwadd / Abeer Ameer (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Ydych chi’n ystyried cyflwyno eich barddoniaeth i gylchgrawn am y tro cyntaf? Ydych chi’n gobeithio deall a chrefftio eich llais creadigol yn well? Hoffech chi ddysgu sut i greu corff o waith cryno a chydlynol? Ymunwch â ni mewn wythnos addysgiadol, ysgogol ac adnewyddol o farddoni a golygu gyda’r beirdd Zoë Brigley a Rhian Edwards – cyd olygyddion barddoniaeth Seren, a dwy sydd wedi ennill gwobrau niferus.

Yn ystod yr wythnos, bydd Zoë a Rhian yn cynnal gweithdai grŵp ar olygu eich cerddi, dod â’ch barddoniaeth ynghyd yn gasgliadau neu bamffledi, a byddant wrth law i gynnig cyngor ar y dulliau gorau i gynnig eich gwaith i gylchgronau a chyhoeddwyr i’w ystyried. Bydd tiwtorial un-i-un gyda Zoë a Rhian yn cael ei gynnig i bob cyfranogwr a byddwch yn cael eich gwahodd i anfon hyd at ddwy gerdd yr un cyn y cwrs i gael sylwadau a chyngor golygyddol.

Tiwtoriaid

Zoë Brigley

Cymraes Americanaidd yw Zoë Brigley, sy'n gweithio fel Darlithydd Cynorthwyol ym Mhrifysgol Talaith Ohio. Mae'n awdur llwyddiannus a enillodd Wobr Eric Gregory ar gyfer y beirdd gorau o dan 30 oed ym Mhrydain, ac fe gyrhaeddodd y rhestr hir yng Ngwobr Dylan Thomas. Zoë ydy golygydd Poetry Wales ac mae’n Olygydd Barddoniaeth Seren Books ar y cyd â Rhian Edwards. Mae ganddi dair cyfrol yn argymelliadau’r Poetry Book Society: The Secret (2007), Conquest (2012), a Hand & Skull (2019), i gyd wedi'u cyhoeddi gan Bloodaxe. Mae ei llyfrau barddoniaeth yn cynnwys Aubade After a French Movie (Broken Sleep, 2020) ac Into Eros (Verve Publishing, 2021), ac mae ei gwaith ffeithiol yn cynnwys Notes from a Swing State (Parthian Books, 2020) ac Otherworlds: Writing on Nature and Magic (Broken Sleep, 2021). Yn 2021, cyd-olygodd Zoë 100 Poems to Save the Earth (Seren) gyda Kristian Evans, ac mae hefyd yn olygydd cylchgrawn Modron, gan ysgrifennu am yr argyfwng ecolegol.

 

Rhian Edwards

Mae Rhian Edwards yn awdur a golygydd barddoniaeth gyda gwasg Seren, ac mae hi wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith. Enillodd ei chasgliad cyntaf Clueless Dogs (Seren, 2012) Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013 ac fe gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau 2012. Enillodd Rhian Wobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar hefyd, gan ennill gwobr y Beirniaid a’r Gynulleidfa. Roedd ail gasgliad Rhian, The Estate Agent’s Daughter (Seren, 2020), yn Argymhelliad Darllen ar gyfer Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol 2020. Mae ei cherddi wedi ymddangos yn y Guardian, Times Literary Supplement, Poetry Review, New Statesman, Spectator, Poetry London, Poetry Wales, Arete, London Magazine, Stand a Planet. 

 

Darllenydd Gwadd

Abeer Ameer (Digidol)

Mae Abeer Ameer yn fardd o gefndir Iracaidd, sy'n byw yng Nghaerdydd. Hyfforddodd fel deintydd yn Llundain gan ddatblygu diddordeb mewn trin cleifion sy’n dioddef o orbryder a meddylgarwch.  Mae ei cherddi yn cael eu hysbrydoli'n aml gan straeon am Irac ac maent yn cynnwys amrywiaeth o themâu personol a gwleidyddol. Maent wedi eu cyhoeddi mewn sawl lle ar-lein ac mewn cyhoeddiadau print gan gynnwys: Acumen, Poetry Wales, Magma, New Welsh Reader, The Rialto a The Poetry Review. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Inhale/ Exile, gan Seren ym mis Chwefror 2021 a cyrhaeddodd restr fer Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022.  

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811