Bardd Americanaidd-Gymreig yw Zoë Brigley sydd yn gweithio fel Darlithydd Cynorthwyol ym Mhrifysgol Talaith Ohio. Mae’n awdur nodedig sydd wedi derbyn Gwobr Eric Gregory ar gyfer y beirdd Prydeinig gorau dan 30, ac fe gyrhaeddodd restr hir Gwobr Dylan Thomas. Hi yw Golygydd cylchgrawn Poetry Wales a Golygydd Barddoniaeth gwasg Seren, ar y cyd â Rhian Edwards. Mae ganddi dair cyfrol farddoniaeth, sydd wedi eu hargymhell gan y Poetry Book Society: The Secret (2007), Conquest (2012), a Hand & Skull (2019) oll wedi eu cyhoeddi gan Bloodaxe. Ymysg ei chyfrolau byrion eraill y mae Aubade After a French Movie (Broken Sleep Books, 2020), Into Eros (Verve, 2021) ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol o ysgrifau, Notes from a Swing State: Writing from Wales and America, gan Parthian yn 2019. Yn 2021, fe gyd-olygodd y flodeugerdd 100 Poems to Save the Earth (Seren, 2021) gyda Kristian Evans, a hi hefyd yw golygydd cylchgrawn Modron, sy’n ysgrifennu am yr argyfwng ecolegol.
Encil: Golygu a Chyflwyno Cerddi
Oes gennych chi ddyddiad cau’n nesáu, neu efallai gasgliad o gerddi a dim syniad beth i’w wneud â nhw nesaf, neu efallai eich bod chi’n awyddus i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd am gyfnod? Mae ein hencilion yn darparu amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio – a bydd eich prydau bwyd oll yn cael eu darparu gan ein cogydd preswyl profiadol. Wedi ei leoli mewn man heddychlon yng nghefn gwlad ar gyrion Llanystumdwy, cewch ysbrydoliaeth o’r olygfa odidog o’r ardd o Fae Ceredigion, mwynhau prydau bwyd gyda’ch cyd breswylwyr, neu eistedd ag ymlacio yn ein llyfrgell glyd.
Mae’r Ganolfan o fewn pellter cerdded i’r traeth a glannau Afon Dwyfor, a chewch fwynhau milltiroedd o deithiau cerdded drwy’r coed wedi eich amgylchynu gan fywyd gwyllt a phrydferthwch natur. Mae Tafarn y Plu hefyd o fewn tafliad carreg, lle gewch bob amser groeso cynnes. Bydd pawb â’i ystafell ei hun ar ein hencilion, a chewch ddewis eich ystafell wrth archebu eich lle. Bydd aelodau staff Llenyddiaeth Cymru ar gael drwy’r wythnos i gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfleoedd i ddatblygu eich ysgrifennu.
Ar ein hencilion, gallwch ddewis eich ystafell o flaen llaw. Rydym yn cynnig ystod o ystafelloedd gwahanol, oll yn amrywio o ran pris a hygyrchedd. I ddysgu mwy am yr ystafelloedd unigol, <cliciwch yma> neu holwch wrth archebu am ragor o fanylion. Bydd croeso i westeion gyrraedd ar ôl cinio ar y dydd Llun, a gadael ar ôl brecwast ar y dydd Gwener.
Yn ystod yr encil hwn, bydd golygydd Poetry Wales a golygydd barddoniaeth gwasg Seren, Zoë Brigley, yn bresennol fel awdur a golygydd preswyl. Bydd Zoë yn rhedeg gweithdai grŵp ynglŷn â sut i olygu eich cerddi, sut i’w casglu at ei gilydd fel cyfrol neu bamffled, ac yn cynnig cyngor ynglŷn â sut i gynnig eich gwaith i gylchgronau a chyhoeddwyr. Bydd Zoë hefyd ar gael am gyfarfodydd un-i-un byr gyda phob awdur i drafod eich gwaith, a byddwn yn eich gwahodd i yrru darn o’ch gwaith o flaen llaw, cyn dechrau’r encil. Bydd y bardd Taz Rahman hefyd yn ymuno â ni fel gwestai arbennig, i drafod ei daith tuag at gyhoeddi ei gyfrol gyntaf a’i ymarfer creadigol.
Tiwtor

Zoë Brigley
Darllenydd Gwadd

Taz Rahman
Caiff casgliad barddoniaeth cyntaf Taz Rahman o Gaerdydd ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2024 gan Seren Books. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ysgrifennu Creadigol Aesthetica 2022. Mae ei gerddi wedi’u cyhoeddi yn Poetry Wales, Bad Lilies, Anthropocene, Propel, Honest Ulsterman a South Bank Poetry, ac mae’n rhan o dîm golygyddol y cylchgrawn llenyddol Modron sy’n canolbwyntio ar newid hinsawdd. Ef yw sylfaenydd sianel farddoniaeth YouTube, Just Another Poet. Dyfarnwyd lle iddo ar raglen datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru, Cynrychioli Cymru, yn 2021 ble cafodd ei fentora gan Zoë Brigley.