Encil Nofio Gwyllt (Mehefin)

Gwe 5 Mehefin 2026 - Sul 7 Mehefin 2026
Tiwtor / Emma Senior (Wild Wales)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Nofio
Iaith / Saesneg

Penwythnos epig yn archwilio mannau nofio gwyllt harddaf gogledd Cymru.

Gadewch eich plant gartref, diffoddwch eich ffôn a throchwch eich hun mewn tirwedd anhygoel.

Byddwch yn aros yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar lannau Afon Dwyfor.

Darperir pob pryd bwyd, ac mae digon o gacenni cartref i danio’ch egni.

Afonydd byrlymus, rhaeadrau anhygoel a llynnoedd dan gysgod y mynyddoedd. Byddwn yn nofio mewn o leiaf pedwar lleoliad gwahanol yn ystod y penwythnos.

Mae’r rhan fwyaf o’n mannau nofio yn gofyn am deithiau cerdded byr ar lwybrau troed anwastad a gallant gynnwys rhywfaint o gerdded i fyny’r allt. Mae angen lefel resymol o ffitrwydd ar gyfer ein henciliadau nofio.

Rydym am roi’r hyder i chi gynllunio eich nofiadau gwyllt eich hun. Mae nofio gwyllt yn dda i’r enaid. Mae’r encil hwn yn addas ar gyfer oedolion yn unig.

Nid oes angen unrhyw offer ffansi, dim ond gwisg nofio, tywel a rhai esgidiau i’w gwisgo yn y dŵr. Efallai y byddwch chi’n dewis dod â gwisg newid (dry robe).

Tiwtor

Emma Senior (Wild Wales)

Mae Emma yn byw ac yn gweithio yma yn Eifionydd, ac mae wedi bod yn arwain grwpiau o bobl yn yr awyr agored ers dros 20 mlynedd. Mae hi wedi cymwyso fel Arweinydd Mynydd ac yn Achubwr Bywyd Dŵr Agored, gyda llwyth o wybodaeth a phrofiad lleol. Mae hi wrth ei bodd yn rhannu'r gorau o'r hyn sydd gan Eryri i'w gynnig, boed yn dirweddau eiconig neu'n guddfannau epig. Pan nad yw hi tu allan yn arwain grwpiau mi ddewch o hyd iddi yng nghanol y mynyddoedd gyda’i theulu a’i chwn - a diolch byth, maen nhwythau hefyd wrth eu bodd hefo'r dŵr!

www.explorewildwales.co.uk

Facebook: Wild Wales

Instagram: @wildwales_

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811