Encil yr Haf (gyda thiwtor)

Llu 24 Mehefin 2024 - Gwe 28 Mehefin 2024
Tiwtor / Helen Mort
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / BarddoniaethFfeithiolFfuglen
Iaith / Saesneg

Bydd encilion wedi’u harlwyo’n llawn yng Nghanolfan Tŷ Newydd yn rhoi amser a lle i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio. Rydyn ni wedi’n lleoli mewn man heddychlon yn ardal odidog y gogledd orllewin, lle gallwch adael i olygfeydd syfrdanol dros Fae Ceredigion eich ysbrydoli, rhannu syniadau dros swper, neu swatio ac ymlacio yn llyfrgell glud Tŷ Newydd.

Yr awdur a’r bardd clodwiw Helen Mort fydd eich tiwtor preswyl yn ystod yr encil haf hwn. Yn ystod yr wythnos, bydd Helen yn cynnal gweithdai grŵp a thiwtorialau 30 munud un-i-un dewisol. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i anfon sampl o waith ysgrifennu creadigol ymlaen llaw.

Mae’r encil hwn wedi’i gynllunio ar gyfer awduron newydd a sefydledig o unrhyw genre sy’n dymuno neilltuo amser penodol i ysgrifennu mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol.

Ar ein hencilion, bydd gan bawb ystafell eu hunain, a bydd eich prydau cartref yn cael eu paratoi gan ein cogydd preswyl profiadol. Rydyn ni’n cynnig ystod o ystafelloedd gyda hygyrchedd a phrisiau amrywiol. Holwch am ragor o wybodaeth am ystafelloedd unigol cyn archebu. Bydd gwesteion yn cael eu gwahodd i gyrraedd ar ôl cinio ddydd Llun, a gadael yn fuan wedi brecwast ddydd Gwener.

Tiwtor

Helen Mort

Bardd a nofelydd yw Helen Mort. Cyhoeddir ei chasgliadau Division Street (2013), No Map Could Show Them (2016) a The Illustrated Woman (2022) gan Chatto & Windus. Mae hi’n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol ac yn Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion. Enillodd ei chofiant A Line Above The Sky (Ebury, 2022) Wobr Boardman Tasker. 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811