Awdur a darlledwr yw Gary Raymond. Bu'n olygydd Wales Arts Review am ddeuddeg mlynedd, mae'n gyn-gyflwynydd y Review Show ar gyfer BBC Radio Wales, ac ar hyn o bryd mae'n gyflwynydd un o raglenni blaenllaw BBC Radio Wales, Arts Show. Mae wedi ysgrifennu chwe llyfr, gan gynnwys tair nofel a thri llyfr ffeithiol. Bydd ei lyfr nesaf, Hard Rain, am lifogydd trychinebus Dyffryn Gwy yn 2025, yn cael ei gyhoeddi gan Picador ddechrau 2028. Yn fwyaf diweddar mae i'w glywed fel cyflwynydd podlediad y Wales Arts Review sy'n cynnwys sgyrsiau estynedig gydag awduron ac artistiaid. Mae hefyd yn berchen ar siop recordiau.
Ffeithiol Greadigol: Newyddiaduraeth, Beirniadaeth a’r Ysgrif
Sut mae trawsnewid chwilfrydedd yn ysgrifennu diddorol? Sut gall newyddiaduraeth, beirniadaeth a myfyrdod personol gyfuno i greu gwaith sy’n addysgu, yn cwestiynu ac yn taro tant gyda darllenwyr?
Dan arweiniad yr awduron llwyddiannus Gary Raymond a Jude Rogers, mae’r cwrs ymdrochol yma ar waith ffeithiol greadigol yn archwilio crefft ysgrifennu erthyglau nodwedd, beirniadaeth ddiwylliannol a’r ysgrif lenyddol. Drwy gyfuniad o weithdai, trafodaethau, darllen manwl a thasgau ymarferol, bydd cyfranogwyr yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ysgrifennu erthyglau nodwedd difyr, adolygiadau craff ac ysgrifau gwreiddiol ar ystod eang o bynciau.
Bydd y cwrs yn archwilio sut mae awduron yn dod ag awdurdod, personoliaeth a siâp naratif i’w gwaith, gan archwilio’r diriogaeth gyfoethog lle mae ysgrifennu llenyddol yn cwrdd â newyddiaduraeth a sylwebaeth ddiwylliannol. Bydd cyfranogwyr yn ystyried cwestiynau ynghylch llais, strwythur, ymchwil, cyfweliadau, dadansoddi a dadlau, gan ddysgu sut i droi syniadau ac arsylwadau yn ddarnau sy’n ddeallusol drylwyr ac yn mynnu sylw’r darllenydd.
P’un a yw eich ddiddordeb mewn ysgrifennu am lyfrau, cerddoriaeth, ffilm, gwleidyddiaeth, lle, hunaniaeth neu ddiwylliant cyfoes, bydd y cwrs yma’n darparu amgylchedd cefnogol i hogi’ch gallu beirniadol ac ehangu’ch ymarfer creadigol. Erbyn diwedd yr wythnos, byddwch wedi datblygu dulliau newydd o ysgrifennu gwaith ffeithiol, mwy o hyder yn eich llais, ac offer ymarferol ar gyfer cynhyrchu gwaith sy’n ennyn diddordeb darllenwyr ac yn cyfrannu’n ystyrlon at drafodaethau diwylliannol.
Tiwtoriaid
Gary Raymond
Jude Rogers
Newyddiadurwr, awdur a darlledwr yw Jude Rogers, sydd wedi treulio dros ugain mlynedd yn ysgrifennu erthyglau nodwedd a beirniadaeth ddiwylliannol ar gerddoriaeth, ffilm, llyfrau, gwleidyddiaeth a chymdeithas ar gyferThe Guardian,The Observer, New Statesman, Quietus a nifer o gyhoeddiadau eraill. Fel adolygydd cerddoriaeth werin The Guardian ers 2017, mae hefyd wedi beirniadu gwobrau gan gynnwys Gwobr Mercury a Gwobr Gordon Burn, ac mae'n gwneud rhaglenni dogfen ar gyfer BBC Radio 3, BBC Radio 4 a BBC Radio Wales. Mae hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd at raglenni radio'r BBC gan gynnwys Today, Woman's Hour a PM. Fe gyrhaeddodd The Sound of Being Human: How Music Shapes Our Lives (Orion, 2022) Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023.
Darllenydd Gwadd
Diana Evans (Digidol)
Mae Diana Evans yn awdur pedair nofel a chasgliad o waith ffeithiol. Mae ei gwaith wedi'i enwebu am nifer o wobrau, gan gynnwys gwobrau The Guardian a Llyfr Cyntaf Gorau'r Gymanwlad am 26a (Vintage Publishing, 2006), a Gwobr Orwell am Ffuglen Wleidyddol, Gwobr Folio Rathbones a Gwobr Ffuglen y Menywod am Ordinary People (Vintage Publishing, 2019), a enillodd Wobr Celfyddydau Sky South Bank am Lenyddiaeth. Roedd ei phedwaredd nofel, A House for Alice (Chatto & Windus, 2023), yn Llyfr Nodedig y Flwyddyn y New York Times, ac enillodd ei chasgliad newyddiaduraeth/ysgrifau, I Want to Talk to You: And Other Conversations (Chatto & Windus, 2025) Wobr Rhyddiaith Jhalak. Mae'n gyn-ddawnswraig ac wedi cyhoeddi'n eang fel newyddiadurwraig yn Vogue, The Guardian, Time Magazine, The Observer a Harper's Bazaar ymhlith eraill. Mae wedi dysgu ysgrifennu creadigol yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, Arvon, First Story, Curtis Brown Creative, Guardian Masterclasses, Prifysgol East Anglia, ac mae'n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol.