Ffeithiol Greadigol: Y Grefft o Adrodd Profiad

Llu 6 Medi 2027 - Gwe 10 Medi 2027
Tiwtoriaid / Cal Flyn & Dan Richards
Darllenydd Gwadd / Sarah Perry (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffeithiol
Iaith / Saesneg

Mae gwaith ffeithiol greadigol yn un o’r ffurfiau ysgrifennu mwyaf cyffrous ac eang ym maes ysgrifennu cyfoes. Gan gyfuno technegau ffuglennol o adrodd straeon gyda gwirionedd profiad byw, mae’n galluogi awduron i archwilio tirweddau, teithiau, cof, perthnasau a chyfarfyddiadau mewn ffyrdd sy’n hynod bersonol ond sy’n taro tant yn eang.

Ar y cwrs ymdrochol yma, bydd yr awduron llwyddiannus Cal Flyn a Dan Richards yn archwilio sut gall bywyd a lle ddod yn ddeunydd grymus ar gyfer y dudalen. Gan gyfeirio at eu gwaith eu hunain ar draws ysgrifennu hunangofiannol, teithio, natur ac arsylwi diwylliannol, byddan nhw’n rhannu’r technegau maen nhw’n eu defnyddio i drawsnewid profiad yn naratif bywiog a diddorol.

Drwy gyfres o weithdai cefnogol sy’n cynnwys trafod, darllen manwl ac ymarferion ysgrifennu, byddwch chi’n archwilio sut mae awduron yn cyfleu ysbryd lle, yn troi profiad personol yn naratif, ac yn cydbwyso cof, arsylwadau ac ymchwil ar y dudalen.

P’un a ydych chi’n ysgrifennu am eich cymdogaeth eich hunan neu orwelion pell, hanes teuluol neu anturiaethau unigol, bydd y cwrs yma’n rhoi’r sgiliau, yr hyder a’r ysbrydoliaeth i chi allu creu gwaith ffeithiol greadigol sy’n mynd â’r darllenydd ar daith ac yn dod â bydoedd go iawn yn fyw.

Tiwtoriaid

Cal Flyn

Mae Cal Flyn yn awdur sy’n hanu o Ucheldiroedd yr Alban ac sydd wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith. Mae’n ysgrifennu gwaith ffeithiol greadigol, beirniadaeth lenyddol a newyddiaduraeth ffurf hir. Enwyd ei llyfr cyntaf, Thicker Than Water: History, Secrets and Guilt (2016, HarperCollins), yn un o Lyfrau’r Flwyddyn y Times. Enillodd ei hail lyfr, Islands of Abandonment: Life in the Post-Human Landscape (2021, William Collins), Fedal John Burroughs, Gwobr E.M. Forster Academi Celfyddydau a Llythyrau America a gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times. Cyrhaeddodd hefyd restr fer nifer o wobrau llenyddol, gan gynnwys Gwobr Lyfrau’r Academi Brydeinig, Gwobr Ondaatje Cymdeithas Lenyddol Frenhinol a Gwobr Baillie Gifford am waith ffeithiol. Enillodd ei thrydydd llyfr, The Savage Landscape: How We Made the Wilderness (2026, William Collins), a gafodd ganmoliaeth eang gan y beirniaid, Wobr Wainwright 2026 am Ysgrifennu Cadwraeth.

Dan Richards

Mae Dan Richards yn awdur a darlledwr sydd wedi cyrraedd rhestrau gwerthwyr gorau The Sunday Times. Roedd ei waith cyntaf, Holloway (Faber & Faber), yn gydweithrediad gyda Robert Macfarlane a Stanley Donwood yn 2012. Ers hynny, mae wedi ysgrifennu pedwar llyfr teithio, antur a gohebiaeth arall: The Beechwood Airship Interviews (HarperCollins), 2015, Climbing Days (Faber & Faber, 2024), Outpost (Canongate Books, 2020) ac, yn fwyaf diweddar, Overnight: Journeys, Conversations and Stories After Dark (Canongate Books, 2025). Mae wrthi’n gweithio ar lyfr am arthur’s Seat, sef y mynydd chwedlonol yn ninas Caeredin. Cafodd ei gyfres i BBC Radio 4, Only After Dark, lawer o glod pan gafodd ei darlledu yn 2022, gyda chyfres newydd ym mis Awst 2026. Mae Dan wedi ysgrifennu ar gyfer The New York Times,  The Observer, The Guardian,  The Economist, Esquire, a Monocle. 

Darllenydd Gwadd

Sarah Perry (Digidol)

Awdur sydd wedi bod ar restrau gwerthwyr gorau rhyngwladol yw Sarah Perry, a hi yw awdur y nofelau Melmoth (2018), The Essex Serpent (2016), ac After Me Comes the Flood (2017), a'r llyfr ffeithiol Essex Girls (2022), pob un wedi'u cyhoeddi gan Profile Books Ltd. Mae hi wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn Waterstone's a Gwobrau Llyfrau Prydain, ac wedi’i henwebu am wobrau llenyddol nodedig fel Gwobr Ffuglen y Menywod, Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Folio a Gwobr Nofel Costa. Mae ei hysgrifau wedi’u cyhoeddi’n eang, ac mae hi wedi cyfrannu at  The Guardian, The New York Times,  The Observer, a The London Review of Books. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol ac mae ganddi radd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, mae hi wedi bod yn Awdur Preswyl Dinas Llenyddiaeth UNESCO ym Mhrâg, ac yn Awdur Preswyl yn Llyfrgell Gladstone a Gwesty’r Savoy yn Llundain. Mae ei hail nofel, The Essex Serpent, a gyrhaeddodd frig y rhestrau gwerthu, wrthi’n cael ei haddasu ar gyfer y teledu, lle bydd Claire Danes yn serennu yn y brif ran. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811