Ffuglen Ddyfaliadol: Crefft Beth Petai?

Llu 3 Mai 2027 - Gwe 7 Mai 2027
Tiwtoriaid / Julia Armfield & Sophie Mackintosh
Darllenydd Gwadd / Leone Ross (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Mae ffuglen ddyfaliadol yn ein gwahodd i edrych y tu hwnt i’r byd fel rydyn ni’n ei nabod, ac i ddychmygu beth allai ddigwydd pe bai realiti’n newid, y rheolau’n newid, neu’r dyfodol yn cyrraedd yn gynt na’r disgwyl. Ar y cwrs yma yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, bydd Julia Armfield a Sophie Mackintosh yn eich tywys drwy bosibiliadau ffuglen ddyfaliadol, gan archwilio sut gall y rhyfedd, yr annisgwyl a’r amhosib oleuo rhannau mwyaf cyffredin ein bywydau.

Drwy gyfuniad o drafodaeth, darllen manwl, ymarferion ysgrifennu a gweithdai grŵp, bydd y cwrs yn ystyried sut gall ffuglen ddyfaliadol greu awyrgylch, adeiladu bydoedd diddorol ac archwilio cwestiynau ynghylch hunaniaeth, dyhead, cof, technoleg, amgylchedd a grym. Byddwn yn edrych ar y berthynas rhwng y cyffredin a’r anghyffredin, ac ar sut gall awduron wneud i fydau anghyfarwydd deimlo’n emosiynol wir.

P’un a ydych chi’n dechrau ar brosiect newydd, yn datblygu llawysgrif sydd gennych eisoes, neu’n chwilfrydig am ysgrifennu y tu hwnt i ffiniau realaeth, mae’r cwrs yma’n cynnig lle i arbrofi, cymryd risgiau a darganfod ffyrdd newydd o edrych ar eich gwaith.

Mae’r cwrs yma, yn nhirwedd ysbrydoledig y gogledd-orllewin, yn gyfle i neilltuo amser i’ch ysgrifennu, darllen yn eang, rhannu syniadau a threulio amser ymhlith awduron eraill o’r un anian, a hynny i gyd o dan arweiniad arbenigol dau lais nodedig a chlodwiw ym maes ffuglen ddyfaliadol gyfoes.

Tiwtoriaid

Julia Armfield

Awdur ffuglen sy'n byw yn Llundain yw Julia Armfield. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Granta, y White Review ac yn Best British Short Stories 2019 a 2021. Yn 2019, cafodd ei rhoi ar restr fer gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn  The Sunday Times. Cafodd ei chynnwys ar restr hir Gwobr Deborah Rogers 2018, ac enillodd Wobr Stori Fer White Review 2018 a Gwobr Pushcart yn 2020. Hi ydy awdur salt slow (Pan Macmillan, 2019), casgliad o straeon byrion a gyrhaeddodd restr hir Gwobr Polari 2020 a Gwobr Edge Hill 2020. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Our Wives Under The Sea (Picador, 2022), restr fer Gwobr Llyfr Ffuglen y Flwyddyn Foyles 2022 ac enillodd Wobr Polari 2023. Roedd ei hail nofel, Private Rites (Fourth Estate, 2024), ar restr hir y Wobr Ffuglen Hinsawdd gyntaf ac ar restr fer gwobr Arthur C. Clarke 2025. 

Sophie Mackintosh

Awdur sy'n byw yn Llundain yw Sophie Mackintosh, ac awdur pedair nofel, pob un wedi'i chyhoeddi gan Llyfrau Penguin – The Water Cure, Blue Ticket, Cursed Bread a Permanence. Mae ei gwaith wedi cael ei enwebu am wobrau gan gynnwys Gwobr Booker a Gwobr Ffuglen y Menywod, ac yn 2023 cafodd ei henwi fel un o Nofelwyr Ifanc Gorau Prydain gan Granta. Mae ei gwaith ffuglen a ffeithiol hefyd wedi'u cyhoeddi yn Granta, The White Review, a The New York Times, ymhlith eraill.

Darllenydd Gwadd

Leone Ross (Digidol)

Nofelydd ac awdur straeon byrion yw Leone Ross FRSL, sy'n gweithio mewn ffurfiau hybrid: ffantasi llenyddol; erotica dilys; sylwebaeth gymdeithasol realaeth hudol. Gydag estheteg sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn Jamaica lle cafodd ei magu, mae Leone yn obsesiynu am liw ac am gyrff, am iaith drosiadol ac am yr her hyfryd o lunio brawddegau da. Mae wedi cyhoeddi tair nofel (Faber & Faber)  a gafodd glod gan feirniaid llenyddol a chasgliad o straeon byrion Come Let Us Sing Anyway (Gwasg Peepal Tree, 2017). Mae ei nofel gyntaf, All The Blood Is Red (Angela Royal Publishing, 1996), wedi'i hysgrifennu'n rhannol yn llais patois Jamaicaidd gweithiwr rhyw, yn seiliedig ar gyfweliadau yn y 1980au gan fam Leone oedd yn newyddiadurwraig. Mae ail nofel Leone, Orange Laughter (Anchor Press, 2000), yn adrodd hanes dyn yn mynd yn wallgof yn y twneli dan y ffyrdd yn Efrog Newydd. Mae ei thrydedd, This One Sky Day (Faber & Faber, 2021), yn nofel realaeth hud polyffonig sy'n dychanu'r Caribî. Mae gwaith ffuglen Leone wedi cael ei enwebu am wobr y Menywod, gwobr Goldsmiths, gwobr Ondaatje, gwobr Bocas OCM, gwobr stori fer Edge Hill, gwobr VS Pritchett – ac wedi’i enwi yn netholiad y golygydd gan  The New York Times. Yn 2021, enillodd Leone Wobr Ffuglen Manceinion. Mae Leone wrth ei bodd yn cefnogi awduron eraill, ac mae wedi gweithio gyda miloedd – fel cyn-olygydd papur newydd, fel addysgwr ysgrifennu creadigol hyd at lefel PhD, ac fel golygydd deg blodeugerdd, yn fwyaf diweddar, Glimpse: a Black British anthology of speculative fiction (Peepal Tree Press, 2022). Mae Leone yn byw yn Llundain gyda'i phartner a'u cathod cwerylgar, ond mae'n bwriadu ymddeol ger dŵr cynnes. Yn 2026-2027, mae'n Gymrawd gyda'r Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Middlesex.  

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811