Mae Natasha Pulley yn awdur nifer o lyfrau. Roedd The Watchmaker of Filigree Street (Bloomsbury Circus, 2015) yn werthwr gorau rhyngwladol, fe enillodd Wobr Betty Trask, cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Orau Author’s Club a Gwobrau Locus, ac arhosodd ar restr gwerthwyr gorau The Sunday Times am ran fwyaf o haf 2016. Cafodd The Bedlam Stacks (Bloomsbury, 2018) ei gynnwys ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Walter Scott a’r rhestr fer ar gyfer Gwobr Encore. The Salt King (2026) yw ei llyfr diweddaraf, a gyhoeddwyd gan Gollancz yng ngwledydd Prydain a Bloomsbury yn yr Unol Daleithiau. Mae Natasha wedi byw yn Japan fel Ysgolhaig Daiwa, yn ogystal â Tsieina a Pheriw. Roedd hi’n Awdur Preswyl Gladstone yn 2016, ac mae’n addysgu ar gwrs Ysgrifennu Creadigol BA ac MA Prifysgol Bath Spa, ochr yn ochr â chyrsiau byrion yn Sefydliad Addysg Barhaus Caergrawnt.
Ffuglen Hanesyddol: Ffaith, Ffuglen a Dychymyg
Gwlad estron yw’r gorffennol, ac maen nhw’n gwneud pethau’n wahanol yno – mae’n ddigon hawdd dweud hynny, ond sut mae mynd ati i ysgrifennu am y wlad estron yna? Os ydych chi’n ysgrifennu ffuglen hanesyddol ac yn ceisio dod ag eiliad goll o’r gorffennol yn fyw unwaith eto, efallai bod y cwestiwn yma wedi bod ar eich meddwl ers tro.
Ar y cwrs yma, byddwch chi’n mynd ati i ystyried yn ddwfn sut gallwch ddefnyddio eich ymchwil hanesyddol i ddod â’ch stori’n fyw, o ystyriaethau ffasiwn eich cymeriadau a’r iaith maen nhw’n ei defnyddio, i gelfyddyd dechnegol adeiladu byd hanesyddol heb gyflawni’r pechod cyfarwydd o orlwytho gwybodaeth. Yn y cyfamser: pryd mae myth yn dod yn hanes? Pwy ddyfeisiodd hanes beth bynnag, a beth yw ei bwrpas? Oes rhaid i awduron lynu’n dynn at gofnod hanesyddol, neu a allwn ni wyro oddi wrtho? Ymunwch â’r awduron ffuglen hanesyddol Dorian Ravenscroft a Natasha Pulley i archwilio’r cwestiynau yma drwy ddosbarthiadau a addysgir, gweithdai gyda chyfoedion, a thiwtorialau un i un. P’un a ydych chi’n ysgrifennu am lynges yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Gwlad Groeg gyn-hanesyddol, neu drychineb niwclear yn y Rhyfel Oer, byddwch chi’n gadael Tŷ Newydd gyda meddwl o’r newydd a llyfr nodiadau llawn.
Tiwtoriaid
Natasha Pulley
Dorian Ravenscroft
Awdur cwiar o ogledd-orllewin Lloegr yw Dorian Ravenscroft, a daw eu prif ysbrydoliaeth o hanes a byd natur. Mae ganddynt radd yn y gyfraith o Goleg Birkbeck, Prifysgol Llundain, ac maent wrthi’n cyflawni MA mewn Hanes Llyngeseol, Morwrol ac Arfordirol ym Mhrifysgol Portsmouth. Maen nhw’n mwynhau darllen, mynd am dro hir, amgueddfeydd a hwylio. Cyhoeddwyd eu nofel gyntaf, The White North Has Thy Bones, gan Bloomsbury Raven ym mis Hydref 2026, gydag ail nofel i ddod.
Darllenydd Gwadd
Rebecca Perry (Digidol)
Mae Rebecca Perry yn awdur dau gasgliad hyd llawn o farddoniaeth – Beauty/Beauty (Llyfrau Bloodaxe, 2025) a Stone Fruit (Llyfrau Bloodaxe, 2021) – yn ogystal â phedwar pamffled. Mae ei barddoniaeth wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau sy’n cynnwys Gwobr T.S. Eliot, ac enillodd ei chasgliad cyntaf Wobr Goffa Michael Murphy. Cyhoeddwyd ei gwaith ffeithiol greadigol cyntaf, On Trampolining, gan Makina Books yn 2023. Enillodd May We Feed the King (Granta, 2026) Wobr Ffuglen Gyntaf Waterstones 2026 a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Booker 2026. Mae Rebecca yn dod o Lundain, lle mae hi’n byw hyd heddiw.