Ffuglen Hanesyddol: Ymchwilio, ysgrifennu, cyflwyno

Llu 27 Hydref 2025 - Gwe 31 Hydref 2025
Tiwtoriaid / Abir Mukherjee & S.J. Parris
Darllenydd Gwadd / Rachel Dawson (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £650 - £750 y pen
Genre / Ffuglen Hanesyddol
Iaith / Saesneg

Mae’r cwrs hwn bellach yn llawn, ond mae un lle ysgoloriaeth dal ar gael. Dyddiad cau yr ysgoloriaeth yw 27 Awst. Os am ychwanegu’ch enw at y rhestr aros, cysylltwch â ni ar tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811

 

Mae ffuglen hanesyddol yn parhau i swyno darllenwyr – gan gynnig dihangfa i’r gorffennol tra hefyd yn taflu goleuni ar y presennol. Ymunwch â’r awduron arobryn, C J Cooke ac Abir Mukherjee i archwilio byd gafaelgar a phoblogaidd nofelau hanesyddol. Yn ystod yr wythnos, byddwch chi’n teithio’n ôl mewn amser ac yn dod o hyd i ysbrydoliaeth gan bobl a digwyddiadau go iawn yn ogystal â byd y ffantasi a’r gothig. Cewch eich ysbrydoli gan leoliad hanesyddol Tŷ Newydd, adeilad rhestredig Gradd II* sy’n dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif, wrth i chi ffurfio cymuned gefnogol o gyd-awduron ffuglen hanesyddol fydd yn parhau ymhell ar ôl yr wythnos.

P’un a ydych yn bwriadu datblygu darn newydd o waith ffuglen, neu’n teimlo’n angerddol dros stori unigolyn neu ddigwyddiad hanesyddol, bydd y tiwtoriaid yn eich arwain drwy’r camau i gyd- o’r gwaith ymchwil cychwynnol hyd at eich drafft olaf. Ar ba bwynt mae eich ymchwil wedi’i gwblhau? Sut ydych chi’n cyfleu cyfnod a lleoliad? Sut ydych chi’n troi ffigyrau hanesyddol yn gymeriadau credadwy, ac yn ailffurfio llinellau amser mewn i naratif afaelgar? Trwy weithdai grŵp a thiwtorialau un i un, cewch eich annog i ystyried i ba raddau y mae gan awduron y drwydded i ail-ddychmygu hanes a’r gwahaniaethau allweddol rhwng ffeithiau hanesyddol a ffuglen. Byddwch yn magu hyder yn eich ysgrifennu ac yn datblygu sgiliau a thechnegau newydd a fydd yn eich galluogi i adrodd hanes o bersbectif unigryw eich hun.

 

Bwrsariaethau

Mae un ysgoloriaeth gwerth £250 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 27 Awst 2025

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/

Tiwtoriaid

Abir Mukherjee

Abir Mukherjee yw awdur poblogaidd cyfres Wyndham & Banerjee (Vintage Publishing), nofelau trosedd wedi'u gosod yn India yn ystod cyfnod y Raj sydd wedi gwerthu dros 400,000 o gopïau ledled y byd ac wedi'u cyfieithu mewn i 15 iaith. Mae ei lyfrau wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys y CWA Dagger am y Nofel Hanesyddol Orau, y Prix du Polar Européen, Gwobr Wilbur Smith am Ysgrifennu Antur a Gwobr Darllenwyr Cyhoeddi Amazon am E-lyfr y Flwyddyn. Ochr yn ochr â'i gyd-awdur, Vaseem Khan, mae hefyd yn cynnal podlediad poblogaidd Red Hot Chilli Writers, lle mae gwesteion arbennig o'r cyfryngau a llenyddiaeth yn ymuno bob pythefnos i fwrw golwg ar fyd llyfrau, ysgrifennu a'r celfyddydau creadigol.

S.J. Parris

S.J. Parris is the pen name of Stephanie Merritt who began reviewing books for national newspapers while she was reading English literature at Queens’ College, Cambridge. After graduating, she went on to become Deputy Literary Editor of The Observer in 1999. She continues to work as a feature writer and critic for the Guardian and the Observer and from 2007-2008 she curated and produced the Talks and Debates program on issues in contemporary arts and politics at London’s Soho Theatre. She has appeared as a panelist on various Radio Four shows and on BBC2’s Newsnight Review, and is a regular chair and presenter at the Hay Festival and the National Theatre. She has been a judge for the Costa Biography Award, the Orange New Writing Award and the Perrier Comedy Award.

Darllenydd Gwadd

Rachel Dawson (Digidol)

Mae Rachel Dawson yn awdur Cymraeg hoyw, dosbarth gweithiol. Neon Roses oedd ei nofel gyntaf a dyfarnwyd fwrsariaeth iddi gan Llenyddiaeth Cymru yn 2020, a’i galluogodd i’w ysgrifennu. Cyrhaeddodd Neon Roses restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Cafodd ei geni yn Abertawe ac mae wedi gwneud amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys gwerthu rholiau selsig a dirgrynwyr (ddim ar yr un pryd), a gwirfoddoli i AS. Mae hi bellach yn gweithio yn y trydydd sector ac yn byw gyda’i gwraig yng Nghaerdydd.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811