Magwyd Susan Stokes-Chapman yn ninas Sioraidd hanesyddol Caerlwytgoed, Swydd Stafford, ac mae’n byw yng ngogledd-orllewin Cymru erbyn hyn. Astudiodd Addysg, Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Aeth ei nofel gyntaf Pandora (Vintage, 2023) yn syth i rif un ar restr gwerthwyr gorau’r Sunday Times, ac mae wedi’i chyfieithu i 16 iaith hyd yn hyn. Ail-ddehongliad bras o fyth Groegaidd Blwch Pandora wedi'i osod yn Llundain yn y ddeunawfed ganrif yw’r nofel, ac mae'n adrodd hanes Dora Blake, sydd â’i bryd ar fynd yn artist gemwaith, ac sy’n dod i gyswllt â llestr hynafol y mae ei hewythr gormesol yn awyddus iawn i'w gadw'n gyfrinach. Cafodd ei hail nofel The Shadow Key (Vintage) – stori Gothig wedi'i gosod yng Nghymru 1783 – ei rhyddhau yn 2024. Cafodd The Twelve Days of Christmas (Harvill) – casgliad o straeon byrion ar batrwm Jane Austen a Georgette Heyer – ei ryddhau yn 2025, a bydd trydedd nofel o'r enw The Constellations yn dilyn yn 2027. @SStokesChapman (Instagram) / www.susanstokeschapman.com
Ffuglen Hanesyddol
Sut gall awduron ddefnyddio ymchwil hanesyddol i ddod â’r gorffennol yn fyw? Ymunwch â Susan Stokes-Chapman, awdur sydd wedi bod ar frig rhestr gwerthwyr gorau’r Sunday Times, ac awdur sydd wedi ennill gwobrau, A.J. West, mewn wythnos lle cewch ymgolli’n llwyr yng nghrefft ffuglen hanesyddol.
Drwy gydol yr wythnos, byddwch yn ymchwilio i ddeunyddiau archif a ffynonellau hanesyddol, gan ddatgelu digwyddiadau a phobl go iawn er mwyn ysbrydoli’ch gwaith ysgrifennu. Bydd y cwrs yma’n eich helpu i feistroli’r grefft o blethu manylion hanesyddol yn naratifau gafaelgar, gan gadw’r rhyddid i greu straeon anturus a chyffrous. P’un a ydych chi’n gweithio ar nofel, stori fer, neu’n archwilio ffuglen hanesyddol am y tro cyntaf, bydd y tiwtoriaid yn eich tywys drwy dechnegau ymchwil, strwythur stori, a’r sgiliau sydd eu hangen i greu straeon bywiog sy’n taro tant gyda darllenwyr a lle gallant ymgolli’n llwyr. Drwy weithdai cyfranogol, a thiwtorialau un-i-un, byddwch yn cael eich annog i ystyried i ba raddau mae modd i awduron ail-ddychmygu hanes a’r gwahaniaethau rhwng ffuglen a ffeithiau hanesyddol. Byddwch hefyd yn darganfod ffyrdd effeithiol o grefftio cymeriadau sy’n argyhoeddi, o siapio bydoedd credadwy, ac o blotio a gosod cyflymder eich naratif. Bydd pob gweithdy’n mynd â chi ar daith bersonol drwy drafodaeth, ymarferion ymarferol, a thrafodaethau grŵp er mwyn magu hyder yn eich gwaith ysgrifennu a datblygu sgiliau a thechnegau newydd fydd yn eich galluogi i ddod â hanes yn fyw yn eich llais unigryw eich hun. Mae A.J. a Susan yn gyfoedion yn y byd llenyddol ond hefyd yn gyfeillion, ac maen nhw’n edrych ymlaen at gael rhannu eu hangerdd dros ymchwilio ac ysgrifennu ffuglen hanesyddol gyda chi.
Tiwtoriaid
Susan Stokes-Chapman
A. J. West
Cyn cyhoeddi, roedd A. J. West yn ohebydd newyddion llwyddiannus ar deledu’r BBC, ac mae'n dal i ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu a radio cenedlaethol yn trafod llenyddiaeth, hanes a materion cyfoes. Aeth ei ail nofel The Betrayal of Thomas True (Llyfrau Orenda, 2025) yn syth i restr gwerthwyr gorau’r Sunday Times, ac enillodd wobr nodedig y CWA Historical Dagger. Yn dilyn cyhoeddi ei nofel gyntaf The Spirit Engineer (Duckworth, 2022) A.J. oedd yr unig awdur yn y byd i fod â’i enw wedi'i gerfio ar garreg fedd ei brif gymeriad. Mae wrth ei fodd yn twrio am straeon hanesyddol angof ac yn eu hadfywio, ac mae'n treulio llawer o'i amser yn archwilio archifau ac yn mynd i lefydd o ddiddordeb hanesyddol. Ar hyn o bryd mae'n byw yn Kennington yn ne Llundain, gyda'i ŵr Nicholas. @ajwestauthor (Instagram) / www.ajwestauthor.com
Darllenydd Gwadd
Carolyn Jess-Cooke
Cafodd CJ Cooke, a adnabyddir fel Carolyn Jess-Cooke yn ogystal, ei magu ar ystâd cyngor ym Melffast, Gogledd Iwerddon, yn ystod cyfnod cythryblus y Trafferthion. Ers hynny, mae hi wedi cyhoeddi 16 o lyfrau mewn 23 o ieithoedd ac wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Eric Gregory gan Gymdeithas yr Awduron, Gwobr Tyrone Guthrie, Gwobr K Blundell, ac mae hi wedi ennill Gwobr Northern Writer’s Award deirgwaith. Yn 2011, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Guardian Angel's Journal, gan Little, Brown. Roedd y nofel yn lwyddiannus ar raddfa ryngwladol. Mae ei hail nofel, The Boy Who Could See Demons (Little, Brown, 2012), yn glasur cwlt. Cyhoeddwyd ei chweched nofel, The Lighthouse Witches (HarperCollins) ym mis Hydref 2021, ac roedd yn Llyfr y Mis Indigo, Llyfr y Flwyddyn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd ac fe'i enwebwyd ar gyfer Gwobr Edgar gan Mystery Writers of America a Gwobr Thriller ITW yn 2022. Cyn hir, bydd yn gyfres deledu flaenllaw a gynhyrchir gan StudioCanal a The Picture Company. A Haunting in the Arctic (HarperCollins) yw ei nofel ddiweddaraf a chafodd ei gyhoeddi ym mis Hydref 2023. Nawr yn Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Glasgow, mae hi hefyd yn ymchwilio mewn i ffyrdd y gall ysgrifennu creadigol helpu gyda thrawma ac iechyd meddwl. Trwy gydol 2013-18 bu'n cyfarwyddo prosiect Writing Motherhood, a oedd yn archwilio effaith bod yn fam ar ysgrifennu menywod. Hi hefyd yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y Stay-at-Home! Gŵyl Lenyddol, sy'n ymroddedig i ddarparu ffyrdd hygyrch, cynhwysol ac eco-gyfeillgar i bobl gael mynediad i lenyddiaeth.