Ffuglen Hunangofiannol: Rhwng y Gwir a’r Gau

Gwe 9 Gorffennaf 2027 - Sul 11 Gorffennaf 2027
Tiwtor / Susanna Crossman
Darllenydd Gwadd / Kimberly Campanello (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Beth sy’n digwydd pan fydd y ffiniau rhwng bywyd a ffuglen yn dechrau cymylu? Ymunwch â’r awdur clodwiw Susanna Crossman ar gyfer penwythnos o archwilio posibiliadau ffuglen hunangofiannol: ysgrifennu sy’n defnyddio’r profiad byw wrth ei weddnewid, ei ailsiapio a’i ailddychmygu drwy ffuglen.

Drwy gyfuniad o weithdai grŵp, darllen manwl a thrafodaeth, byddwn ni’n archwilio posibiliadau creadigol ysgrifennu ar sail bywyd heb gael ein rhwymo gan y ffeithiau. Byddwn ni’n ystyried llais, cof, gwirionedd a dyfeisgarwch, ac yn edrych ar sut gall awduron ddefnyddio technegau ffuglen i greu naratifau cymhellol o brofiad personol.

Bydd y penwythnos yn cynnig digon o amser i arbrofi gyda’ch ysgrifennu eich hun, p’un a ydych chi’n dechrau prosiect newydd, yn bwriadu mynd â darn sy’n bodoli i gyfeiriad arall, neu’n chwilfrydig i ddysgu beth all ffuglen hunangofiannol ei gynnig. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n ystyried cwestiynau am safbwynt, cymeriad, strwythur a ffurf, yn ogystal â’r cwestiynau moesegol a dychmygus sy’n codi pan fydd pobl a digwyddiadau go iawn yn dod yn ddeunydd ar gyfer ffuglen.

Gydag amser i ysgrifennu, darllen, a myfyrio yn awyrgylch hyfryd Tŷ Newydd, bydd hwn yn gyfle i archwilio posibiliadau cyfoethog ffuglen hunangofiannol gan feddwl yn ofalus am sut rydyn ni’n amddiffyn ein hunain, ac eraill, pan fyddwn ni’n tynnu ar fywyd go iawn.

Tiwtor

Susanna Crossman

Susanna Crossman yw awdur yr hunangofiant clodwiw, Home is Where We Start: Growing Up In The Fallout of The Utopian Dream, (Penguin, 2024 a Heliotrope Books, 2026). Mae’n awdur ysgrifau ac yn awdur ffuglen clodwiw, a chyhoeddwyd ei nofel newydd, The Orange Notebooks, yn 2025 (Llyfrau Bluemoose a Gwasg Assembly.) Mae gwaith diweddar ganddi wedi ymddangos yn Aeon,  The Guardian, Vogue, The Paris Review, a mwy. Mae’n nofelydd cyhoeddedig yn Ffrainc (Éditions Delcourt, LEH), ac mae’n cydweithio’n rheolaidd gydag artistiaid, academyddion a gwneuthurwyr ffilm. Mae Susanna yn byw yn Ffrainc, a phan nad yw’n ysgrifennu, mae’n gweithio’n rhyngwladol fel darlithydd, mentor, a therapydd celfyddydol clinigol.  

Darllenydd Gwadd

Kimberly Campanello (Digidol)

Ymhlith cyhoeddiadau blaenorol Kimberly Campanello mae’r gwrthrych barddoniaeth cysyniadol a gweledol 796 tudalen, MOTHERBABYHOME (zimZalla, 2019), sorry that you were not moved (Fallow Media, 2022) a (S)worn State(s) (Gwasg Salvage, 2024). Mae ei gwaith wedi ymddangos yn Granta, The White Review, The London Magazine, Tolka, The Pig's Back, Poetry Ireland Review, Poetry Review a Somesuch Stories. Cyhoeddwyd ei chasgliad diweddaraf o farddoniaeth, An Interesting Detail, gan Bloomsbury Poetry ym mis Ebrill 2025. Use the Words You Have (Somesuch Editions, 2026) yw ei nofel gyntaf. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811