Awdur sydd wedi ennill gwobrau a hanesydd yr henfyd o'r Alban yw Dr Jean Menzies. Hyd yn hyn mae wedi ysgrifennu a golygu dros bymtheg o lyfrau i oedolion a phlant. Mae ei gwaith ffeithiol yn amrywio o gyfrolau darluniadol o fytholegau Gwlad Groeg a'r Aifft i hanes difyr bywydau rhyw menywod y cynfyd, a gwaith diweddaraf Jean yw Aphrodisia: Women, Sex and Pleasure in the Classical World a gyhoeddwyd gan Monoray yn 2026. Mae ei nofel gyntaf, Lady of the Lake (Penguin Michael Joseph, 2025) yn ail-ddychmygiad saffig o'r Rhamantau Arthuraidd Canoloesol o safbwynt Viviane. Pan na fydd hi'n gweithio ar ei nofel nesaf – ail-ddehongliad o un o straeon gwerin mwyaf rhamantus yr Alban – mae Jean i'w gweld yn trafod popeth dan haul ym myd llyfrau, hanes a mytholeg o dan yr enw, @jeansthoughts.
Ffuglen Rhamantasi: Cariad, Chwedlau, Hud a Lledrith
Pam fod rhamantasi yn un o’r genres sy’n gwerthu orau yn ddiweddar? Ble mae rhamant yn troi’n ffantasi a ffantasi’n troi’n rhamant? Sut mae cyfuno’r ddwy elfen yn creu cyfanwaith mwy pwerus fyth?
Gyda’ch gilydd, byddwch chi’n archwilio posibiliadau rhamantasi: creu bydoedd ffantasi perswadiol, datblygu cymeriadau sy’n dyheu ac yn gwrthdaro, a defnyddio rhamant i yrru’r stori. Byddwch chi’n edrych ar yr hyn sy’n digwydd pan fydd gwahanol fathau o berthnasoedd yn cael eu rhoi yng nghanol byd ffantasïol, a sut mae cariad, dyhead a grym yn gallu siapio stori.
Drwy gyfres o weithdai grŵp a thasgau ymarferol, byddwch yn archwilio sylfeini nofel ramantasi lwyddiannus, o adeiladu bydoedd a datblygu cymeriadau i leoliad, perthnasoedd a’r plot. Bydd cyfle i chi brofi syniadau, datblygu’ch stori eich hun a sefydlu elfennau allweddol y llyfr rydych chi’n dymuno ei ysgrifennu.
Dan arweiniad yr awduron llwyddiannus Heather Palmer a Jean Menzies, mae’r cwrs yn cyfuno trafodaethau grŵp â thiwtorialau un-i-un fydd yn canolbwyntio ar eich gwaith eich hun. Erbyn diwedd yr wythnos, byddwch wedi datblygu’ch byd ffantasi, y cymeriadau, eu perthnasoedd a’r stori, a bydd gennych sylfaen glir i ysgrifennu’r llyfr rhamantasi rydych chi wedi bod eisiau ei ddarllen erioed.
Tiwtoriaid
Jean Menzies
Heather Palmer
Heather Palmer yw awdur Eynhallow Saga, cyfres gydag Audible Original. Rhyddhawyd eu nofel gyntaf, Deathbound, gan Audible yn 2025 ac yna daeth Bloodbound yn 2026. Awdur o'r Alban ydyn nhw sy'n byw yn Fife ac sy'n angerddol ynghylch archwilio byd natur a straeon am y rhai sydd wedi hen farw a'r rhai sy'n anfarwol. Maen nhw wrth eu bodd yn ysgrifennu rhamant cwiar, dadlennu'r status quo a gwneud i bobl chwerthin. Yn 2019 fe enillon nhw Wobr Awduron Newydd Ymddiriedolaeth Llyfrau’r Alban – yr awdur cyntaf erioed i ennill gyda sgript comics. Yn 2020, fe lwyddon nhw drwy Kickstarter i ariannu nofel graffig hunan-gyhoeddedig, SMITHERS&WING, mewn cydweithrediad â'r artist Kirsty Hunter. Y tu hwnt i ysgrifennu, mae Heather wedi gweithio i rai o ddigwyddiadau llenyddol gorau'r Alban, gan gynnwys Gŵyl Cymera, Gŵyl Farddoniaeth StAnza a Gwobrau Llyfrau Cenedlaethol yr Alban.
Darllenydd Gwadd
Rebecca F. John / Catrin Cadogan (Digidol)
Mae straeon byrion Rebecca F. John/Catrin Cadogan wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio 4Extra. Yn 2015, cafodd ei stori fer, 'The Glove Maker's Numbers', ei rhoi ar restr fer Gwobr Stori Fer EFG The Sunday Times. Hi oedd enillydd Gwobr Lleisiau Newydd PEN Rhyngwladol 2015, a'r cyfranogwr Prydeinig ym mhrosiect Scritture Giovani 2016. Yn 2017, cafodd ei henwi ar restr 'The Hay 30' Gŵyl y Gelli. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist, drwy Serpent's Tail ym mis Gorffennaf 2017. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Cyrhaeddodd ei nofel fer, Fannie (Honno, 2022), restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023. Yn 2026, cyhoeddodd ei nofel rhamantasi gyntaf o dan y ffugenw Catrin Cadogan. Mae Rebecca yn byw yn Abertawe gyda'i phartner, eu meibion, a'u cŵn, ac ar hyn o bryd mae'n astudio ar gyfer PhD.