Ffuglen Uwch: Llunio’r Eithriadol

Llu 16 Awst 2027 - Gwe 20 Awst 2027
Tiwtoriaid / Jan Carson & Sarah Moss
Darllenydd Gwadd / Preti Taneja (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Beth sy’n gwneud darn o waith ffuglen yn wirioneddol gofiadwy? Sut mae awduron yn dwysáu cymeriadau, yn miniogi strwythur, ac yn creu naratifau sy’n aros yn y cof ymhell ar ôl darllen y dudalen olaf?

Mae’r cwrs ffuglen uwch yma wedi’i gynllunio ar gyfer awduron profiadol sy’n barod i herio eu harfer a mynd â’u gwaith i’r lefel nesaf. Mewn wythnos ddwys ac ysbrydoledig, bydd y nofelwyr clodwiw Sarah Moss a Jan Carson yn tywys y cyfranogwyr drwy grefft a phosibiliadau ffuglen gyfoes, gan archwilio llais, safbwynt, pensaernïaeth naratif, lle, cof, a’r cydbwysedd bregus rhwng realaeth a dyfeisgarwch.

Drwy weithdai, darllen manwl, trafodaeth ac ymarferion ysgrifennu cynhyrchiol, bydd y cyfranogwyr yn archwilio sut gall ffuglen daflu goleuni ar yr hyn sy’n agos-atoch a’r hyn sy’n neilltuol. Bydd yna gyfleoedd i rannu gwaith, cael adborth adeiladol, a chymryd rhan mewn sgyrsiau am broses, uchelgais a risg artistig.

Ochr yn ochr â sesiynau grŵp, bydd yr awduron yn cael tiwtorialau un i un gyda’r tiwtoriaid, a fydd yn cynnig arweiniad manwl ar gyfer gwaith-ar-waith ac ar gyfeiriad eu hysgrifennu yn y dyfodol.

Mae’r cwrs preswyl yn cynnig yr amser, y lle a’r gymuned greadigol sydd eu hangen i ddatblygu’ch gwaith ac i ailgysylltu gyda’ch arfer ysgrifennu.

Yn addas i awduron sydd â phrosiect ffuglen mawr ar waith neu sydd â hanes cryf o gyhoeddi.

Tiwtoriaid

Jan Carson

Awdur sy’n byw ym Melffast yw Jan Carson, sydd wedi cyhoeddi tair nofel, tri chasgliad o straeon byrion a dau gasgliad o ficro-ffuglen. Enillodd ei nofel The Fire Starters (Transworld, 2020) Wobr yr Undeb Ewropeaidd am Lenyddiaeth ar gyfer Iwerddon, 2019. Cyrhaeddodd The Raptures (Doubleday, 2022) y rhestr fer ar gyfer Nofel y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau An Post Iwerddon a Nofel y Flwyddyn Kerry Group. Mae ei gwaith ysgrifennu wedi’i ddarlledu ar BBC Radio 3 a BBC Radio 4 ac RTÉ, ac wedi cael ei gyfieithu i ugain o ieithoedd ledled y byd. Jan oedd Cymrawd Canolfan Seamus Heaney ym Mhrifysgol Queen’s ym Melffast yn 2025, mae’n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol ac wedi cyrraedd lefel Chevalier yn yr Ordre des Arts et des Lettres yn Ffrainc. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Few and Far Between, gan Doubleday UK ym mis Ebrill 2026 a Scribner yn UDA. 

Sarah Moss

Mae Sarah Moss yn ysgrifennu nofelau, hunangofiannau, ysgrifau a newyddiaduraeth lenyddol. Ymhlith ei llyfrau mae Ghost Wall (Granta Books, 2021), Summerwater (Pan Macmillan, 2021), ac yn fwyaf diweddar Ripeness (Pan Macmillan, 2025) – sef enillydd Gwobr Lenyddol InWords 2025 – a My Good Bright Wolf (Pan Macmillan, 2024), a gafodd ei enwi’n Llyfr Ffeithiol y Flwyddyn Saltire yr Alban 2025. Mae wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobrau fel Gwobr y Menywod, Gwobr Wellcome, Gwobr Polari a Gwobr Ondaatje y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol, a chafodd ei gwneud yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn 2019. Mae gan Sarah BA, M.St. a D.Phil o Brifysgol Rhydychen ac mae hi wedi addysgu a chyfarwyddo rhaglen Ysgrifennu Creadigol MA ac MFA ym mhrifysgolion Caerwysg, Gwlad yr Iâ, Warwick a Choleg Prifysgol Dulyn. Dyluniodd gwrs Ysgrifennu Nofel Lenyddol i Granta ac mae’n addysgu arno. Cafodd ei geni yn yr Alban a’i magu yng ngogledd Lloegr, ac ar ôl symud ledled Prydain ac Ewrop, mae hi bellach yn byw yn Nulyn. 

Darllenydd Gwadd

Preti Taneja (Digidol)

Fe wnaeth nofel Preti Taneja, We That Are Young (Galley Beggar Press, 2017), sy’n gyfieithiad o King Lear Shakespeare ond wedi’i gosod yn India gyfoes, ennill Gwobr Desmond Elliott am waith llenyddol cyntaf gorau’r flwyddyn, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y Prix Jan Michalski, sef prif wobr Ewrop am ddarn o waith llenyddiaeth y byd. Enillodd ei llyfr ffeithiol, Aftermath (And Other Stories, 2022), oedd am yr ymosodiad terfysgol ar Bont Llundain yn 2019, Wobr Gordon Burn ‘am lenyddiaeth sy’n ddewr ei huchelgais a’i gweithrediad,' ac fe’i henwyd yn llyfr y flwyddyn gan  The New Yorker. Mae Preti yn Athro Llenyddiaeth y Byd ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Newcastle, ac yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Yn 2022, cafodd Wobr Philip Leverhulme mewn Ieithoedd a Llenyddiaeth am ei “gwaith arloesol ac arbrofol”. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi gan AA Knopf yn yr Unol Daleithiau a gan Penguin India, ac wedi’i gyfieithu i sawl iaith. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811