Golygu a Chyflwyno eich cerddi gyda Golygyddion Seren

Llu 28 Gorffennaf 2025 - Gwe 1 Awst 2025
Tiwtoriaid / Zoë Brigley & Rhian Edwards
Darllenydd Gwadd / Bethany Handley (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Ymunwch â ni am wythnos adeiladol, addysgiadol ac ysgogol o ysgrifennu a golygu barddoniaeth gyda’r beirdd arobryn a chyd-olygyddion barddoniaeth y wasg Seren Books, Zoë Brigley a Rhian Edwards.

Mae golygu a chyflwyno cerddi yn arferiad nid yn unig ar gyfer beirdd newydd, ond i awduron profiadol sydd ar ganol eu gyrfa hefyd. Mae gan olygyddion barddoniaeth Seren, Zoë a Rhian, brofiad helaeth o weithio gyda beirdd ar bob cam o’u gyrfaoedd, felly p’un ai’ch bod chi’n gobeithio cyhoeddi’ch casgliad cyntaf neu’n gweithio ar yr ail (neu’r trydydd) llyfr barddoniaeth, fe gewch gefnogaeth a chyngor amhrisiadwy ar y cwrs hwn.

Yn ystod yr wythnos, bydd Zoë a Rhian yn cynnal gweithdai grŵp ar olygu cerddi rydych chi eisoes wedi’u hysgrifennu, gan gynnig cyngor hefyd ar ddulliau golygu. Bydd yna gyfle iddynt eich helpu i guradu eich barddoniaeth yn gasgliadau a phamffledi, a byddant wrth law i gynnig awgrymiadau a chyngor ar y ffordd orau o gyflwyno eich gwaith i gylchgronau a chyhoeddwyr i’w hystyried. Bydd tiwtorial un-i-un gyda Zoë a Rhian yn cael ei gynnig i bob mynychwr a byddwch yn cael eich gwahodd i anfon sampl o’ch cerddi at y golygyddion cyn y cwrs er mwyn derbyn adborth arnynt.

 

Bwrsariaethau

Mae un ysgoloriaeth gwerth £150 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28 Mai 2025.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/

Tiwtoriaid

Zoë Brigley

Bardd, golygydd ac addysgwr Cymreig-Americanaidd yw Zoë Brigley. Mae’n Uwch Ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Talaith Ohio, yn Olygydd Poetry Wales, ac yn Gyd-Olygydd Barddoniaeth gyda Seren Books. Mae hefyd yn olygydd sefydlu yn MODRON, sef cylchgrawn o waith ysgrifennu am fyd natur a’r argyfwng ecolegol. Mae Zoë yn awdur tri chasgliad o farddoniaeth gyda Bloodaxe Books: The Secret, Conquest a Hand & Skull, ac mae pob un ohonynt wedi cael eu dewis fel Argymhellion gan Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth y Deyrnas Unedig. Mae ei gwaith ffeithiol yn cynnwys Notes from a Swing State (Parthian Books, 2019), ac mae ei gwaith wedi cael ei gydnabod gan Wobr Eric Gregory, Gwobr Forward a Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe. Mae ganddi brofiad helaeth yn addysgu a mentora beirdd, ac yn gweithio’n olygyddol gydag awduron ar wahanol gamau o’u gyrfa, o’r rhai sy’n datblygu pamffled neu gasgliad cyntaf i feirdd profiadol.  

 

Rhian Edwards

Awdur a golygydd barddoniaeth yn Llyfrau Seren yw Rhian Edwards, ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith. Enillodd ei chasgliad cyntaf Clueless Dogs (Seren Books, 2012) wobr Llyfr y Flwyddyn 2013, Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias 2013 a Gwobr Dewis y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2013. Llwyddodd hefyd i gyrraedd rhestr fer Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau yn 2012. Roedd ail gasgliad Rhian, The Estate Agent’s Daughter (Seren Books, 2020), yn Argymhelliad Darllen ar gyfer Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol 2020. Mae gan Rhian ddau bamffled o gerddi Parade the Fib (Tall-Lighthouse), a enillodd Pamffled Dethol y Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth ar gyfer hydref 2008 a Brood (Seren Books), pamffled o gerddi adar darluniadol.  Rhian hefyd oedd enillydd olaf Gwobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar, gan ennill gwobr y Beirniaid a gwobr y Gynulleidfa.  Mae ei cherddi wedi ymddangos yn  The Guardian, Times Literary Supplement, Poetry Review, New Statesman, Spectator, Poetry London, Poetry Wales, Arete, London Magazine, Stand, Planet a New Welsh Review. 

 

Darllenydd Gwadd

Bethany Handley (Digidol)

Bardd clodwiw, awdur, ac ymgyrchydd anabledd o Sir Fynwy yw Bethany Handley, sy’n ymgyrchu am fynediad gwell at fyd natur. Cafodd ei llyfr ffeithiol, My Body is a Meadow (Headline Press, 2026) ei gynnwys ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Wainwright am Ysgrifennu Natur 2026. Enillodd Bethany Wobr Eric Gregory am ei phamffled o farddoniaeth Cling Film (Seren Books, 2025), ac roedd yn gyd-olygydd i Beyond / Tu Hwnt (Lucent Dreaming, 2025), a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Llyfrau Prydain 2026. Cafodd ei chynnwys ar y rhestr o’r cant o bobl anabl fwyaf dylanwadol yng ngwledydd Prydain gan Ymddiriedolaeth Shaw 2024, mae’n llysgennad ar gyfer  The Ramblers ac mae’n eistedd ar Fwrdd Ymgynghorol Profiadau Byw ParalympicsGB. Mae hi wedi cael sylw ar BBC One, BBC Radio 4, Country Life, Country Living,  The Guardian a mwy. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811