O Gerdd i Gasgliad gyda Golygyddion Barddoniaeth Seren

Llu 26 Gorffennaf 2027 - Gwe 30 Gorffennaf 2027
Tiwtoriaid / Zoë Brigley & Rhian Edwards
Darllenydd Gwadd / Maggie Harris
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Ymunwch â dau fardd sydd wedi ennill sawl gwobr, ac sy’n Gyd-Olygyddion Barddoniaeth gyda Llyfrau Seren, Zoë Brigley a Rhian Edwards, mewn wythnos llawn ysbrydoliaeth a fydd yn cynnig amser penodol i fireinio eich barddoniaeth, cryfhau eich llawysgrif, a meddwl yn strategol am gyhoeddi. P’un a ydych chi wrthi’n llunio eich pamffled gyntaf, yn datblygu’ch casgliad llawn cyntaf, neu eisoes yn fardd profiadol sy’n chwilio am lygad olygyddol newydd ar eich gwaith, bydd y bŵt-camp barddoniaeth yma’n eich tywys drwy eich camau nesaf. Ble bynnag ydych chi ar eich taith ysgrifennu, mae’r cwrs yma’n cynnig lle cefnogol i gymryd cam yn ôl oddi wrth eich llawysgrif, edrych arni o’r newydd, a gwneud penderfyniadau hyderus am yr hyn sydd ei angen arni nesaf.

Bydd gofyn i chi ddod â rhywfaint o’ch gwaith cyfredol, gan gynnwys cerddi rydych chi’n eu hystyried ar gyfer pamffled neu gasgliad. Gyda’ch gilydd, byddwch yn edrych yn agos ar gerddi penodol, yn enwedig y rhai rydych chi’n ansicr yn eu cylch, ac yn meddwl am linell, delwedd, strwythur, llais, teitlau, diweddglo a golygu. Byddwch hefyd yn trafod ffurf ehangach llawysgrif ac yn mynd i’r afael â chwestiynau allweddol am eich gwaith. Pa gerddi sy’n perthyn gyda’i gilydd? Beth yw arc emosiynol, thematig neu ffurfiol llyfr? Beth sy’n gwneud i lawysgrif deimlo’n drefnus heb fod yn rhy dwt neu ragweladwy?

Ochr yn ochr â gwaith golygyddol, byddwn ni’n edrych ar ochr ymarferol cyhoeddi barddoniaeth: nodi gweisg addas a chystadlaethau pamffledi, paratoi cyflwyniadau, ysgrifennu llythyrau eglurhaol a bywgraffiadau, a deall am beth mae golygyddion yn edrych pan fyddan nhw’n darllen llawysgrif.

Bydd amser ar gyfer darllen manwl, trafodaeth, tasgau ymarferol ac i adolygu eich cerddi eich hunan yn fanwl, er mwyn cloi’r wythnos gyda llawysgrif gryfach a syniad cliriach o’ch nod. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fod yn uchelgeisiol heb fod yn frawychus: lle cefnogol i gymryd eich gwaith o ddifri, herio’ch greddf, gwneud penderfyniadau golygyddol anodd a symud eich pamffled neu gasgliad i gyfeiriad gwreiddiol, beiddgar a dilys.

Tiwtoriaid

Zoë Brigley

Bardd, golygydd ac addysgwr Cymreig-Americanaidd yw Zoë Brigley. Mae’n Uwch Ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Talaith Ohio, yn Olygydd Poetry Wales, ac yn Gyd-Olygydd Barddoniaeth gyda Seren Books. Mae hefyd yn olygydd sefydlu yn MODRON, sef cylchgrawn o waith ysgrifennu am fyd natur a’r argyfwng ecolegol. Mae Zoë yn awdur tri chasgliad o farddoniaeth gyda Bloodaxe Books: The Secret, Conquest a Hand & Skull, ac mae pob un ohonynt wedi cael eu dewis fel Argymhellion gan Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth y Deyrnas Unedig. Mae ei gwaith ffeithiol yn cynnwys Notes from a Swing State (Parthian Books, 2019), ac mae ei gwaith wedi cael ei gydnabod gan Wobr Eric Gregory, Gwobr Forward a Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe. Mae ganddi brofiad helaeth yn addysgu a mentora beirdd, ac yn gweithio’n olygyddol gydag awduron ar wahanol gamau o’u gyrfa, o’r rhai sy’n datblygu pamffled neu gasgliad cyntaf i feirdd profiadol.  

 

Rhian Edwards

Awdur a golygydd barddoniaeth yn Llyfrau Seren yw Rhian Edwards, ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith. Enillodd ei chasgliad cyntaf Clueless Dogs (Seren Books, 2012) wobr Llyfr y Flwyddyn 2013, Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias 2013 a Gwobr Dewis y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2013. Llwyddodd hefyd i gyrraedd rhestr fer Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau yn 2012. Roedd ail gasgliad Rhian, The Estate Agent’s Daughter (Seren Books, 2020), yn Argymhelliad Darllen ar gyfer Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol 2020. Mae gan Rhian ddau bamffled o gerddi Parade the Fib (Tall-Lighthouse), a enillodd Pamffled Dethol y Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth ar gyfer hydref 2008 a Brood (Seren Books), pamffled o gerddi adar darluniadol.  Rhian hefyd oedd enillydd olaf Gwobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar, gan ennill gwobr y Beirniaid a gwobr y Gynulleidfa.  Mae ei cherddi wedi ymddangos yn  The Guardian, Times Literary Supplement, Poetry Review, New Statesman, Spectator, Poetry London, Poetry Wales, Arete, London Magazine, Stand, Planet a New Welsh Review. 

 

Darllenydd Gwadd

Maggie Harris

Mae Maggie Harris yn awdur 13 o lyfrau barddoniaeth, straeon byrion a chofiant, Kiskadee Girl (Can Arrow Press). Cyhoeddwyd ei chasgliad diweddaraf I sing to the Greenhearts gan Seren Books yn 2025 ac enillodd Wobr Farddoniaeth Jhalak a Gwobr Guyana am Lenyddiaeth. Bu’n fyfyrwraig aeddfed yng Ngholeg Thanet a Phrifysgol Caint, ac enillodd wobr Dysgwr sy’n Oedolyn Rhagorol Caint ym 1994 a Gwobr T.S.  Eliot Prifysgol Caint. Ymhlith y gwobrau eraill mae hi wedi’u cael mae Gwobr Guyana, Gwobr Stori Fer y Gymanwlad a Gwobr Farddoniaeth Cymru, ac mae ei cherdd ‘Canterbury’ yn osodwaith celf yng Ngerddi Westgate Caergaint. Mae’n perfformio ei barddoniaeth yn genedlaethol ac mae ei gwaith wedi mynd â hi i Ewrop, India a’r Caribî. Cafodd ei phenodi’n Gymrawd y Gronfa Lenyddiaeth Frenhinol yn 2024. Mae hi wrthi’n cynnal gweithdai ysgrifennu yn Bleak House yn Broadstairs, ac mae’n rhan o gyweithiau cerddorol gyda cherddorion a gweithwyr creadigol digidol.  www.maggieharris.co.uk 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811