Mae Julia Forster yn arbenigwr datblygu awduron sy’n gweithio yn y diwydiant cyhoeddi ers pum mlynedd ar hugain ac sydd wedi gweithio mewn sawl swyddogaeth, gan gynnwys dwy flynedd mewn asiantaeth lenyddol yn Soho yn ogystal â swyddi yn Penguin, DK, a Barefoot Books. Yn fwy diweddar, bu’n gweithio’n llawrydd ym maes cysylltiadau cyhoeddus yn y byd llyfrau gyda chleientiaid gan gynnwys Gwasg Nine Arches, Little Toller a llu o gyhoeddwyr yng Nghymru. Roedd yn un o gyd-ddyfeiswyr gwobrau’r New Welsh Writing Awards yn ystod ei hwyth mlynedd yn gweithio i'r New Welsh Review, a bu ar banel ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru am flynyddoedd lawer, gan helpu i ddyfarnu grantiau i awduron. Fel awdur, ei gwaith cyhoeddedig diwethaf oedd What a Way to Go (Llyfrau Atlantic, 2016) ac mae hefyd wedi cyhoeddi gwaith ffeithiol, sef Muses: Revealing the Nature of Inspiration (Pocket Essentials, 2007). Mae'n astudio ar gyfer PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn ysgrifennu cofiant, tra bod ei chasgliad o farddoniaeth wedi’i gyflwyno i gyhoeddwyr. Mae Julia yn Gyd-gyfarwyddwr Being a Writer ar gyfer y Literary Consultancy.
Paratoi dy Waith i’w Gyhoeddi (Encil)
Cyfle i gynyddu’ch siawns o lwyddo ac i dynnu’r dirgelwch o’r broses gyhoeddi. Sut mae denu diddordeb asiant llenyddol? Pa gamau ymarferol allwch chi eu cymryd i wella’ch siawns o fynd â’ch gwaith allan i’r byd drwy lwybrau cyhoeddi traddodiadol? Pa offer, triciau a thechnegau y gall awduron eu defnyddio i wella’u gwytnwch mewn llwybr gyrfa sy’n gallu bod yn fôr o wrthodiadau?
Mae’r wythnos ymarferol ac ysbrydoledig yma wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sy’n ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith, yn ffuglen neu’n ffeithiol, ac ar gyfer awduron ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd i fynd i’r afael â’r cwestiynau oesol yma. Bydd yr wythnos yn cynnwys sesiwn dosbarth meistr ar werthu’ch gwaith, lle bydd pob awdur yn cael eu gwahodd i lunio, mireinio a datblygu’r ffordd maen nhw’n siarad am eu gwaith, gan ddefnyddio technegau fydd yn seiliedig ar eu cryfderau. Bydd yr wythnos, o dan arweiniad yr arbenigwr datblygu awduron a’r hyfforddwr awduron cymwysedig Julia Forster o Write Within, yn cael ei chyflwyno drwy weithdai yn y bore a thiwtorialau un-i-un yn y prynhawn. Mae’r wythnos yma’n cynnwys sesiwn wyneb yn wyneb gydag awdur sydd wedi bod ar restrau’r gwerthwyr gorau, sef Carole Hailey, a sesiwn ar-lein gyda Jannat Ahmed, cyhoeddwr yn Lucent Dreaming. Bydd pob gweithdy yn gorffen gyda sesiwn sydyn Holwch Unrhyw Beth.
Byddwch yn gadael Tŷ Newydd wedi’ch grymuso gyda dealltwriaeth o’r diwydiant cyhoeddi er mwyn mynd â’ch gwaith allan i’r byd gyda hyder a brwdfrydedd newydd!
Tiwtor
Julia Forster
Darllenwyr Gwadd
Carole Hailey
Am ugain mlynedd, bu Carole Hailey yn gyfreithiwr, tan iddi gefnu ar fyd y gyfraith er mwyn canolbwyntio ar ei breuddwyd o fod yn awdur. Ar ôl sawl blwyddyn ac MA a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf The Silence Project gan Lyfrau Atlantic yn 2023 a chafodd ei rhoi ar restr fer Gwobr Christopher Bland y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Cafodd hefyd ei dewis ar gyfer Clwb Llyfrau BBC Radio 2, bu’n Llyfr y Mis siopau llyfrau annibynnol gydaChymdeithas y Llyfrwerthwyr ac yn Llyfr y Mis Cymru gyda Waterstones. Cyhoeddwyd ei hail nofel, Scenes from a Tragedy, gan Corvus ym mis Mawrth 2025. Mae Carole yn byw gyda'i gŵr a'u dau gi, ac yn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Sir Benfro.
Jannat Ahmed (Digidol)
Mae Jannat Ahmed yn awdur llawrydd, yn ddarlunydd ac yn brif olygydd yn Lucent Dreaming, sef cyhoeddwr a chylchgrawn creadigol annibynnol sy'n cyhoeddi gwaith awduron ac artistiaid newydd ledled y byd. Mae ganddi radd MA mewn Llenyddiaeth Saesneg, ac mae wedi gweithio i Poetry Wales.