Ymunodd Emma Paterson gydag Aitken Alexander yn 2018 ar ôl wyth mlynedd mewn asiantaethau llenyddol eraill. Mae’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Sefydliad Gwobr Booker, ac yn gymrawd anrhydeddus y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Mae ei gwaith fel asiant wedi cael ei drafod yn British Vogue ac yn The Sunday Times Style. Mae’n cynrychioli awduron ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth, ac mae nifer o awduron sydd wedi ennill gwobrau a chyrraedd rhestrau’r gwerthwyr gorau yn eu plith. Mae ei chleientiaid yn cynnwys Bernardine Evaristo, Mona Chalabi, Natasha Brown, Martin MacInnes, Shon Faye, Claire Kilroy, Elaine Castillo, Sanam Mahloudji, Sam Knight, Susanna Moore, Preti Taneja, Angelica Ferrara, Jon Doyle, Chris Power, Ash Sarkar, Mary Jean Chan, Megan Hunter, Victoria Adukwei Bulley ac Olivia Sudjic.
Penwythnos Asiant Llenyddol: Llwybrau tuag at Gyhoeddi
Os ydych chi’n paratoi i wneud ymholiadau i asiantau, yn mireinio llawysgrif, neu’n ystyried eich cam nesaf fel awdur, mae’r encil yma dros benwythnos yn cynnig cyfle unigryw i ymdrochi mewn gwybodaeth amhrisiadwy, a chael cipolwg o’r diwydiant cyhoeddi gan un o’r prif asiantau llenyddol.
O nos Wener hyd at amser cinio dydd Sul, ymunwch ag Emma Paterson o Aitken Alexander Associates yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd am benwythnos ysbrydoledig, wedi’i gynllunio’n benodol i helpu awduron i lywio’r llwybr o lawysgrif at gyhoeddi. Drwy gyfuniad o sgyrsiau, trafodaethau, sesiynau holi ac ateb a gweithdai ymarferol, bydd Emma yn codi cwr y llen ar y berthynas rhwng asiant ac awdur, yn egluro am beth mae asiantau’n chwilio yn y farchnad bresennol, ac yn cynnig arweiniad ar gyflwyno’ch gwaith i gael llwyddiant.
Ochr yn ochr â gwybodaeth werthfawr o’r diwydiant, fe gewch amser i fyfyrio ar eich taith ysgrifennu eich hunan, i gael eglurhad o’ch nodau proffesiynol, ac i gysylltu ag awduron eraill yn amgylchedd hyfryd Tŷ Newydd. Os ydych chi’n chwilio am gynrychiolaeth, yn archwilio opsiynau ar gyfer cyhoeddi, neu’n gobeithio cael dealltwriaeth gliriach o’r tirlun llenyddol, bydd yr encil yma’n cynnig sgiliau ymarferol, gwybodaeth arbenigol, a hyder o’r newydd ar gyfer y ffordd sydd o’ch blaen.
Byddwch yn gadael gydag ymdeimlad cryf o gyfeiriad, dealltwriaeth ddofn o’r byd cyhoeddi, a gweledigaeth gliriach o’ch pennod nesaf fel awdur.
Tiwtor
Emma Paterson
Darllenydd Gwadd
Jon Doyle (Digidol)
Awdur sy’n byw ym Mhort Talbot yw Jon Doyle. Roedd yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru yn 2022-2023, ac enillodd Wobr Awdur Dosbarth Gweithiol Writers & Artists 2023. Mae ganddo BSc ac MRes mewn Sŵoleg, MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd, a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Mae ei waith wedi ymddangos yn Short Fiction, Hobart, Ploughshares Online, The Rumpus, 3:AM Magazine, Critique: Studies in Contemporary Fiction ymhlith eraill. Dewiswyd ei nofel gyntaf Communion, a gyhoeddwyd gan Atlantic Books, fel un o Nofelau Cyntaf Gorau The Observer yn 2026.