Penwythnos Ysgrifennu a Llesiant

Gwe 25 Hydref 2024 - Sul 27 Hydref 2024
Tiwtoriaid / clare e. potter & Iola Ynyr
Ffi’r Cwrs / O £275 - £375 y pen
Genres / FfeithiolIechyd a LlesScriptio
Iaith / CymraegDwyieithogSaesneg

Sut gall ysgrifennu a chreadigrwydd gefnogi ein hiechyd a’n llesiant? Sut gall iaith a geiriau ein helpu i archwilio ein teimladau, nodi ein pryderon, a deall ein lle yn y byd yn well? Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu dadansoddi yn ystod y cwrs penwythnos adfywiol ac addysgiadol hwn, ble’ch gwahoddir i ymateb i ddarnau creadigol amrywiol sy’n pontio barddoniaeth a byd y theatr. Ochr yn ochr ag ehangu eich cyd-destun llenyddol, byddwch yn derbyn annogaeth i ysgrifennu ar eich pen eich hun gyda’r nod o gysylltu â chi’ch hun ac eraill. Bydd y tiwtoriaid, yr awduron profiadol a’r hwyluswyr clare e. potter ac Iola Ynyr hefyd wrth law i rannu arferion da a chyngor o ran dylunio a chyflwyno gweithdai ysgrifennu creadigol at ddibenion iechyd a llesiant mewn lleoliadau cymunedol amrywiol.

Bydd y tiwtoriaid yn meithrin gofod cefnogol, diogel a chynhwysol lle byddwch yn cael eich annog i fynegi eich hun yn greadigol wrth i chi ffurfio rhwydwaith newydd o awduron ac ymarferwyr o’r un anian. Bydd amser hefyd i archwilio awyrgylch a chynefinoedd hardd a thawel Tŷ Newydd i helpu i ddyfnhau eich cysylltiad â natur a dod o hyd i ymdeimlad o heddwch.

Mae’r cwrs yn croesawu awduron newydd sbon yn ogystal ag awduron profiadol. Mae’r cwrs hefyd yn addas ar gyfer hwyluswyr sydd â diddordeb mewn rhannu eu gwybodaeth gydag eraill, er enghraiff hwyluswyr grwpiau ysgrifennu creadigol.

Cwrs dwyieithog fydd hwn, a bydd y tiwtoriaid wrth law i gefnogi cyfranogwyr sy’n gweithio drwy’r Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd.

Tiwtoriaid

clare e. potter

Bardd a pherfformiwr dwyieithog yw clare e. potter. Ymysg y gwobrau y mae wedi eu casglu y mae dwy Ysgoloriaeth Awdur gan Llenyddiaeth Cymru, Gwobr John Tripp ar gyfer Perfformio Barddoniaeth, a gwobr Jim Criddle am ddathlu’r iaith Gymraeg. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi bod yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, ac wedi perfformio yng Ngŵyl Smithsonian Folk-Life Festival yr UDA. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd. Mae hi bellach yn canolbwyntio ar lesiant a dysgu drwy natur, a derbyniodd sawl cyfnod preswyl a chomisiwn i greu gwaith ar y themâu hyn. Diolch i nawdd gan Gyngor y Celfyddydau, mae clare yn dysgu sut i ymarfer therapi barddoniaeth. Yn gynnar yn 2023, bydd clare yn cyflwyno dwy raglen ar radio BBC am farddoniaeth. Ysgrifennwyd ei hail gasgliad gyda diolch i Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru a grant gan y Society of Authors, a caiff y casgliad hwn ei gyhoeddi yn 2024.

Iola Ynyr

Mae Iola Ynyr yn awdures, dramodwraig, cyfarwyddwraig a hwylusydd gweithdai cyfranogol. Mae’n angerddol dros hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau trwy greadigrwydd wrth gysylltu gyda’r byd naturiol. Mae ei phrosiectau cyfranogol yn cynnwys Ar y dibyn, prosiect gan Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer unigolion sydd yn byw gyda dibyniaeth, Gwledda i Llenyddiaeth Cymru yn hyrwyddo llesaint wrth wynebu newid hinsawdd ynghyd â MWY, prosiect creadigol i ferched a'r rhai sydd yn uniaethu yn fenywaidd. Sefydlodd Ynys Blastig gyda grŵp o artistiaid sy’n gweithredu trwy ‘nudges’ celfyddydol a Cylchdro gyda Sioned Medi, i leisio profiadau benywaidd o’r byd. Llwyfanwyd Ffenast Siop gan Theatr Bara Caws yn ddiweddar, drama y cyd-ysgrifennodd Iola gyda Carys Gwilym.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811