Penwythnos Ysgrifennu Caneuon

Gwe 4 Hydref 2024 - Sul 6 Hydref 2024
Tiwtoriaid / Carwyn Ellis & Georgia Ruth
Ffi’r Cwrs / O £325 - £375 y pen
Genre / Ysgrifennu Caneuon
Iaith / CymraegDwyieithogSaesneg

Ymunwch â’r cantorion-gyfansoddwyr Carwyn Ellis a Georgia Ruth mewn penwythnos o gyfansoddi, cerddoriaeth, barddoniaeth a rhythm. Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael eich annog i ystyried cerddoroldeb geiriau, a’r synhwyrau sy’n cael eu hysgogi mewn alaw wrth i chi weithio tuag at greu darn gorffenedig a fydd yn cyffroi, yn herio, ac yn cynhyrfu eich cynulleidfa. Mewn amgylchedd cefnogol, rhyngweithiol ac ymlaciol, bydd y tiwtoriaid yn eich helpu i ysgrifennu geiriau arwyddocaol a nodi’r alaw gywir i’w cario.

Os ydych chi eisoes yn ganwr-gyfansoddwr sy’n dymuno rhoi albwm at ei gilydd, yn awdur sy’n chwilio am allfa greadigol newydd, neu’n gerddor sy’n awyddus i ysgrifennu eich geiriau eich hunan, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi.

Bydd y penwythnos yn cynnwys gweithdai grŵp, tiwtorialau un-i-un, a chyfleoedd i wrando a pherfformio mewn lleoliad ysgogol a chyfeillgar. Lle bo modd, anogir cerddorion i ddod â’u hofferynnau gyda nhw. Ar gyfer awduron sydd heb brofiad cerddorol, mae’r wythnos hon wedi’i chynllunio i’ch galluogi i gyfranogi’n llawn.

Cwrs dwyieithog yw hwn, a bydd y tiwtoriaid wrth law i gefnogi siaradwyr Cymraeg a Saesneg.

Tiwtoriaid

Carwyn Ellis

Cerddor, cyfansoddwr, trefnydd, aml-offerynnwr a chynhyrchydd recordiau o Gymru yw Carwyn Ellis. Mae’n cael ei adnabod fel prif leisydd y band amgen Colorama, fel aelod o The Pretenders ac fel un sydd wedi cydweithio'n aml ag Edwyn Collins. Yn 2019, cychwynnodd ar ei brosiect unigol cyntaf o dan ei enw ei hun, Carwyn Ellis & Rio 18. Prosiect cydweithredol a genir yn Gymraeg ac a recordiwyd yn bennaf yn Rio de Janeiro. Cafodd eu halbwm cyntaf, Joia! ei enwebu ar gyfer y Welsh Music Prize. Aeth Carwyn Ellis: Ar Y Cei Yn Rio, ffilm ddogfen ynglyn â recordio'r albwm, ymlaen i ennill gwobr y Ffilm Fer Orau yn y Gymraeg yng Ngŵyl Ddogfennol Ryngwladol Cymru. Rhyddhawyd albwm diweddaraf Rio 18 Yn Rio, sy’n cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ar 22 Hydref 2021, wedi’i pherfformio’n fyw yn wreiddiol a’i darlledu ym mis Mawrth 2021 ar BBC Radio Cymru a BBC Radio 6 Music.

Georgia Ruth

 Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreit yn 2013 am Week of Pines. Mae ganddi raglen gerddoriaeth wythnosol ar BBC Radio Cymru. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf yn y Gymraeg – Casglu Llwch – yn 2024, gan gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn. 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811