Sgwennu er Llesiant

Llu 10 Mai 2027 - Gwe 14 Mai 2027
Tiwtoriaid / Gwyneth Lewis & Clare Shaw
Darllenydd Gwadd / Sharon Blackie (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Iechyd a Lles
Iaith / Dwyieithog

Nid therapi yw ysgrifennu, ond mae’n gallu bod yn therapiwtig. Mae’r cwrs yma’n eich gwahodd i archwilio sut gall ysgrifennu gefnogi lles: fel lle ar gyfer mynegiant, cysylltiad, chwilfrydedd a phleser, yn ogystal ag fel ffordd o wneud synnwyr o brofiadau anodd.

Drwy gymysgedd o sbardunau ysgrifennu, darllen manwl, trafod ac amser yn cysylltu â’r tirwedd o gwmpas Tŷ Newydd, byddwn yn archwilio sut gall ysgrifennu ein helpu i ymdrin â phynciau cymhleth gyda gonestrwydd a gofal. Byddwn yn meddwl am y profiad o ysgrifennu deunydd anodd, a phryd y gallai fod yn fwy defnyddiol camu i ffwrdd, newid cyfeiriad neu adael i bethau aros heb eu dweud.

Bydd y cwrs hefyd yn ystyried yr heriau llai gweladwy o rannu gwaith creadigol: bregusrwydd, amheuaeth, ofn cael eich barnu a’r pwysau o ysgrifennu am bynciau sy’n emosiynol heriol. Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio ffyrdd ymarferol o osod ffiniau o gwmpas eich ymarfer ysgrifennu, amddiffyn eich egni a datblygu perthynas fwy tosturiol gyda’ch gwaith.

Gan dynnu ar eu profiad eu hunain o ysgrifennu am gariad, colled, methiant, poen a dygnwch, bydd y tiwtoriaid Clare Shaw a Gwyneth Lewis yn cynnig arweiniad, anogaeth ac adborth meddylgar mewn amgylchedd cefnogol.

Byddai Gwyneth yn falch iawn o gael darllen gwaith yn Gymraeg.

Tiwtoriaid

Gwyneth Lewis

Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, ar ôl cael ei phenodi yn 2005, a hi ysgrifennodd yr arysgrif ddwyieithog chwe throedfedd o uchder ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru, sydd bellach yn un o symbolau eiconig Cymru. Cafodd ei magu'n siarad Cymraeg yng Nghaerdydd, ac aeth i astudio Saesneg cyn dod yn Gymrawd Harkness yn yr Unol Daleithiau, gan astudio ysgrifennu ym Mhrifysgolion Harvard a Columbia. Ar ôl cwblhau doethuriaeth yn Rhydychen, bu’n gweithio fel cynhyrchydd teledu gyda’r BBC cyn dod yn awdur llawrydd. Cyhoeddwyd ei degfed casgliad o farddoniaeth, First Rain in Paradise, yn 2025 gan Bloodaxe Books. Mae ei gwaith wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn Gymraeg ac yn Saesneg, Gwobr Gŵyl Farddoniaeth Aldeburgh a Gwobr Cholmondeley gan Gymdeithas yr Awduron am gorff nodedig o waith. Enillodd ei hunangofiant, Nightshade Mother: A Disentangling (Calon, 2024), Wobr Llyfr y Flwyddyn 2025 am Lyfr Ffeithiol Greadigol. Dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i lenyddiaeth a iechyd meddwl yn 2022, ac mae'n dysgu ysgrifennu yn rhyngwladol.

Clare Shaw

Ganed Clare Shaw (nhw/eu) yn Burnley ym 1972 ac mae bellach yn byw ar y bryniau uwchben Hebden Bridge. Eu tri chasgliad cyntaf gyda Bloodaxe Books oedd Straight Ahead (2006), sy'n cynnwys cerdd a gafodd Ganmoliaeth Uchel gan Wobrau Barddoniaeth Forward yn 2006; Head On (2012); a Flood (2018). Enillodd eu pedwerydd casgliad, Towards a General Theory of Love (Bloodaxe Books, 2022), wobr Northern Writers am farddoniaeth yn 2018 a'i enwi'n Llyfr y Flwyddyn gan y Gymdeithas Farddoniaeth. Mae eu casgliad nesaf, I Saw What I Know, i’w ryddhau gan Bloodaxe Books yn 2027. Mae Clare yn perfformio'u gwaith ledled gwledydd Prydain a'r tu hwnt, ac mae wedi ennyn disgrifiadau fel 'trydanol' ac 'un o'r darllenwyr gorau ar y sîn'. Mae eu barddoniaeth wedi cael ei chynnwys mewn blodeugerddi, ei gosod i gerddoriaeth, ei darlunio a'i llwyfannu, ac wedi ymddangos sawl gwaith ar BBC Radio 3 a BBC Radio 4. Mae Clare yn eiriolwr angerddol dros farddoniaeth, ecoleg a chyfiawnder cymdeithasol, a chyd-olygodd flodeugerdd gan Little Toller, The Book of Bogs: Stories of a Yorkshire Moor and other Peatlands, yn 2025. Mae Clare yn addysgwr poblogaidd sy'n arbenigo mewn digwyddiadau ymgysylltu bywiog a chyfranogi torfol. Maen nhw'n diwtor rheolaidd i'r Gronfa Lenyddol Frenhinol, Sefydliad Arvon a'r Ysgol Ysgrifennu, ac maen nhw wedi cyfarwyddo nifer o fentrau ar gyfer beirdd, gan gynnwys Gŵyl Farddoniaeth Kendal. Mae eu Substack sy'n cael ei ysgrifennu mewn cydweithrediad â Kim Moore – Shaw and Moore – yn uchel ei safle mewn is-gategorïau llenyddiaeth a barddoniaeth ac yn aml yn cael ei ddathlu fel adnodd gwych o ran crefft ysgrifennu. 

Darllenydd Gwadd

Sharon Blackie (Digidol)

Awdur, siaradwr ac addysgwr llwyddiannus sydd wedi bod ar restrau rhyngwladol y gwerthwyr gorau yw Dr. Sharon Blackie. Mae'n gyn-niwrowyddonydd ac yn seicolegydd sydd â chefndir mewn mytholeg a llên gwerin, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar y dychymyg chwedlonol a'i berthnasedd i'r materion personol, diwylliannol ac amgylcheddol rydyn ni'n eu hwynebu heddiw. Yn ogystal ag ysgrifennu saith llyfr ffuglen a ffeithiol, gan gynnwys If Women Rose Rooted (Duckworth Books, Medi, 2019) a Hagitude (Duckworth Books, Medi, 2023) sydd wedi bod ar restrau'r gwerthwyr gorau, mae ei gwaith ysgrifennu wedi ymddangos mewn cyfryngau rhyngwladol ac mae hithau wedi ymddangos mewn rhaglenni gan y BBC, darlledwyr radio cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau a gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol. Mae Sharon yn Gymrawd gyda Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, mae'n Aelod Anrhydeddus o Gymdeithas Dadansoddwyr Jungaidd Prydain, ac mae wedi addysgu a darlithio mewn llawer o sefydliadau academaidd a gwyliau diwylliannol ledled y byd. Mae ei chyhoeddiad a'i chymuned boblogaidd, a'i Substack oedd yn arfer bod yn y Deg Uchaf yn y categori Llenyddiaeth yn fyd-eang, The Art of Enchantment, newydd gael ei ail-lansio fel llwyfan annibynnol yn https://theartofenchantment.org ac mae'n cyrraedd dros 60,000 o bobl. Mae Sharon yn byw yn Cumbria, ym mhellafoedd gogledd-orllewin Lloegr, gyda'i gŵr, eu cŵn, eu hieir a'u defaid. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811