Sut i Addysgu Ysgrifennu Creadigol i Eraill

Gwe 5 Gorffennaf 2024 - Sul 7 Gorffennaf 2024
Tiwtoriaid / Lisa Blower & Alys Conran
Ffi’r Cwrs / O £275 - £375 y pen
Genres / FfeithiolFfuglen
Iaith / Saesneg

Ydych chi’n awdur sy’n dymuno arwain gweithdai creadigol am y tro cyntaf? Ydych chi’n athro sy’n gobeithio cyflwyno ysgrifennu creadigol i’r ystafell ddosbarth? Ydych chi eisoes yn ymarferydd sydd am wella eich sgiliau tiwtora?

Nod y cwrs preswyl penwythnos hwn yw eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau fel athro ysgrifennu creadigol, a rhoi’r technegau a’r ymagweddau i chi allu ennyn diddordeb amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Bydd y cwrs hwn hefyd yn gyfle i chi ddod i ddeall sut i fanteisio ar eich arfer chi’ch hunan wrth ystyried ymarferoldeb tiwtora ac ysbrydoli grŵp mewn amgylchedd diogel a chreadigol.

Ymunwch â’r awduron clodwiw a’r darlithwyr ysgrifennu creadigol, Lisa Blower ac Alys Conran, wrth iddyn nhw ddadansoddi’r broses ysgrifennu ac addysgu o’r dechrau i’r diwedd, a rhannu dulliau y gallwch eu cymhwyso i’ch gweithdai a’ch arfer eich hun. Drwy sesiynau a thrafodaethau grŵp, a chyfres o ysgogiadau ysgrifennu creadigol, byddwch yn meithrin yr hyder a’r sgiliau angenrheidiol i helpu i gynllunio a darparu gweithdai ysgrifennu creadigol effeithiol.

Tiwtoriaid

Lisa Blower

Mae Lisa Blower yn awdur arobryn ac yn academydd a ddisgrifiwyd gan Kit De Waal fel yr “olynydd naturiol i Arnold Bennett”. Mae hi’n bencampwr dros lenyddiaeth dosbarth gweithiol a lleisiau rhanbarthol, ac yn aml mae’n talu teyrnged i ardal The Potteries lle y cafodd ei magu. Mae’n awdur ar ddwy nofel, Sitting Ducks (Fair Acre Press, 2016) a gyrhaeddodd rhestrau byrion The Rubery Award, the Arnold Bennett Prize a The Guardian's Not the Booker - a Pondweed (Myriad Editions, 2020). Enillodd ei chasgliad o straeon byrion It's Gone Dark over Bill's Mother's (Myriad Editions, 2019) Wobr Arnold Bennett. Mae Lisa yn un o gyfranwyr Common People (gol. Kit De Waal, Unbound, 2019), a bu’n golofnydd i The New Issue yn ystod 2020. Mae’n Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Rhaglen Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mhrifysgol Keele lle mae’n parhau i hyrwyddo lleisiau rhanbarthol. www.lisablower.co.uk  

Alys Conran

Alys Conran yw awdur Pigeon (Parthian Books, 2016), a Dignity (W&N, 2019). Pigeon oedd y nofel gyntaf i’w chyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd, ac enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017. Cyrhaeddodd Dignity Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020 yn ogystal. Cyrhaeddodd Pigeon restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas ac enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn 2017, Gwobr Ffuglen Rhys Davies a Gwobr Barn y Bobl y Wales Arts Review. Mae straeon byrion ganddi wedi’u henwebu am Wobr Stori Fer Bryste, Gwobr Ffuglen Manceinion a Gwobr Stori Fer Caerfaddon ac y mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn eang mewn cylchgronau, blodeugerddi ac ar y radio, gan gynnwys BBC Radio 4. Mae hi hefyd yn cyhoeddi barddoniaeth, gwaith ffeithiol creadigol, traethodau creadigol, a chyfieithiadau llenyddol. Mae hi’n Uwch Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mangor, yn diwtor rheolaidd yn Nhŷ Newydd a chanolfannau eraill, ac â phrofiad helaeth o reoli prosiecau amrywiol i hybu creadigrwydd a darllen o fewn y byd iechyd a llesiant. www.alysconran.com 

 

 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811